Llanberis: Oedi wrth drafod cynllun parcio dadleuol

  • Cyhoeddwyd
Canolfan
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y safle yn gartref i ganolfan ymwelwyr Mynydd Gwefru ond mae wedi bod yn wag ers dros dair blynedd

Mae cynghorwyr Gwynedd wedi penderfynu ar gyfnod o oedi cyn gwneud penderfyniad ar gynlluniau dadleuol i ddymchwel hen ganolfan ymwelwyr yn Llanberis er mwyn ehangu un o'r meysydd parcio ger Llyn Padarn.

Bydd y cyfnod o oedi, meddai'r pwyllgor cynllunio, yn rhoi cyfle i'r gymuned leol drafod y cynllun ac opsiynau eraill ymhellach.

Roedd y safle yn gartref i ganolfan ymwelwyr Mynydd Gwefru ond mae wedi bod yn wag ers dros dair blynedd, gyda'r perchnogion First Hydro yn dweud bod dim defnydd bellach i'r adeilad.

Mae gwaith ar bwerdy Dinorwig yn golygu na fydd modd cynnal ymweliadau i'r cyhoedd am "rai blynyddoedd" ac mae'r cwmni'n dweud y bydd yr adeilad "yn debygol o ddirywio dros amser".

Yn eu cais cynllunio i Gyngor Gwynedd maen nhw'n dweud eu bod yn bwriadu troi'r safle yn faes parcio ychwanegol ar gyfer 110 o gerbydau, gan gynnwys pwyntiau gwefru, ger y maes parcio presennol.

Maen nhw'n dadlau y byddai'r cynllun yn lliniaru problemau parcio yn yr haf oherwydd nifer yr ymwelwyr.

Ond dywedodd y cynghorydd lleol Kim Jones wrth y pwyllgor cynllunio ddydd Llun fod y gymuned leol yn teimlo nad oeddynt wedi cael digon o gyfle i ystyried defnydd arall ar gyfer y safle.

Cytunodd y pwyllgor yn unfrydol i oedi gwneud penderfyniad ar y cynllun maes parcio tan 5 Medi, er mwyn caniatáu rhagor o drafodaethau.

'Y cyngor cymuned i golli allan'

Mae trigolion lleol yn dweud mai adeilad i'r gymuned oedd y safle i fod yn wreiddiol, a bod modd gwneud gwell defnydd o'r safle.

Ond mae cyfyngiadau ar deithio dramor wedi golygu mwy o ymwelwyr i Lanberis dros y ddau haf diwethaf, gan ei fod yn gyrchfan poblogaidd ar gyfer dringo'r Wyddfa.

Er gwaethaf twf sylweddol yn nifer yr ymwelwyr ers y pandemig, mae gwrthwynebiad i gynlluniau i ehangu un o'r meysydd parcio ger Llyn Padarn.

"Bob tro dwi 'di gofyn y cwestiwn i'r cyngor maen nhw'n dweud nad oes 'na broblem parcio, dim ond ar ddyddiau rasys," meddai'r cynghorydd Kevin Morris Jones.

Disgrifiad o’r llun,

Un sy'n gwrthwynebu'r cynlluniau yw'r cynghorydd Kevin Morris Jones

"Os 'dyn nhw'n troi fan hyn yn faes parcio, fydd o siŵr o fod yn wag rhan fwyaf o'r amser.

"Ar hyn o bryd 'dan ni'n cael 10% o'r refeniw o feysydd parcio [y cyngor] i fynd tuag at bethau fel cadw'r toiledau cyhoeddus ar agor, ond os 'di pawb yn dechrau parcio fan hyn fydd y refeniw yna'n disgyn a'r cyngor cymuned fydd yn colli allan."

'Prinder cronig o lefydd parcio'

Yn eu cais i Gyngor Gwynedd dywedodd First Hydro y byddai'r datblygiad yn helpu i daclo'r "prinder cronig o lefydd parcio yn Llanberis, sydd yn arbennig o enbyd yn ystod yr haf, er mwyn hybu'r economi dwristiaid leol a safonau'r cyfleusterau yn y pentref".

"Yn ychwanegol i hynny, gan fod y maes parcio arfaethedig yn agos iawn at gyfnewidfa fws Llanberis, mae potensial i ychwanegu at y mesurau gafodd eu hawgrymu gan Bartneriaeth Yr Wyddfa, gan gynnig cyfraniad positif i drafnidiaeth gynaliadwy a rheolaeth barcio yn yr ardal."

Ychwanegodd y cwmni eu bod yn bwriadu i'r maes parcio fod "ar gael i ddigwyddiadau cymunedol lleol, yn achlysurol, drwy gydol y flwyddyn".

Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl leol yn dweud bod modd gwneud gwell defnydd o'r safle

Dywedodd Engie UK, rhiant-gwmni First Hydro, y byddan nhw'n "parhau i drafod pob opsiwn gyda chyrff lleol a grwpiau cymunedol" ynglŷn â'u cynlluniau ar gyfer y safle.

"Rydyn ni'n cydnabod fod Canolfan Ymwelwyr Mynydd Gwefru wedi chwarae rhan ym mywyd cymunedol a bod awydd cryf yn lleol i weld y safle'n cael ei ddatblygu mewn ffordd sydd o fudd i'r ardal leol," meddai llefarydd wrth BBC Cymru.

"Rydyn ni wedi bod yn gweithio law yn llaw â chynrychiolwyr y gymuned a phartneriaid lleol i sicrhau dyfodol priodol i'r safle."

Mi fydd aelodau pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd yn cyfarfod i drafod y cais ddydd Llun.

Mae swyddogion yn argymell rhoi sêl bendith i'r cais gydag amodau.

Mae rheiny'n cynnwys gofynion ynglŷn â lefelau sŵn y gwaith dymchwel a gosod arwyddion dwyieithog ar y safle a'r maes parcio.

Pynciau cysylltiedig