Anghytuno dros ddatrys problemau parcio Llanberis

  • Cyhoeddwyd
Canolfan ymwelwyr Mynydd Gwefru yn Llanberis
Disgrifiad o’r llun,

Mae cais wedi'i gyflwyno i ddymchwel canolfan ymwelwyr Mynydd Gwefru yn Llanberis

Nid maes parcio newydd yn Llanberis fyddai'r ateb i broblemau parcio'r ardal, yn ôl trigolion lleol - er gwaethaf twf sylweddol yn nifer yr ymwelwyr ers y pandemig.

Mae cyfyngiadau ar deithio dramor wedi golygu mwy o ymwelwyr dros y ddau haf diwethaf, gan ei fod yn gyrchfan poblogaidd ar gyfer dringo'r Wyddfa.

Ond er gwaetha'r trafferthion traffig - gan gynnwys towio cerbydau ger Pen y Pass - mae gwrthwynebiad i gynlluniau i ehangu un o'r meysydd parcio ger Llyn Padarn.

Byddai'r datblygiad yn golygu dymchwel hen ganolfan ymwelwyr Mynydd Gwefru, safle sydd wedi bod yn wag ers dros dair blynedd bellach.

Dim defnydd bellach i'r adeilad

Mae perchnogion y safle, First Hydro, wedi dweud bod gwaith ar bwerdy Dinorwig yn golygu na fydd modd cynnal ymweliadau i'r cyhoedd am "rai blynyddoedd", ac felly bod dim defnydd bellach i'r adeilad "sy'n debygol o ddirywio dros amser".

Yn eu cais cynllunio i Gyngor Gwynedd maen nhw'n dweud eu bod yn bwriadu troi'r safle yn faes parcio ychwanegol ar gyfer 110 o gerbydau, gan gynnwys pwyntiau gwefru, a hynny ochr yn ochr â'r maes parcio presennol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Wrth i fwy a fwy o bobl ymweld â'r Wyddfa, mae problemau parcio yn Llanberis yn gwaethygu

Ond mae trigolion lleol yn dweud mai adeilad i'r gymuned oedd hi i fod yn wreiddiol, a bod modd gwneud gwell defnydd o'r safle.

"Bob tro dwi 'di gofyn y cwestiwn i'r cyngor maen nhw'n dweud nad oes 'na broblem parcio, dim ond ar ddyddiau rasys," meddai'r cynghorydd Kevin Morris Jones.

"Os 'dyn nhw'n troi fan hyn yn faes parcio, fydd o siŵr o fod yn wag rhan fwyaf o'r amser.

"Ar hyn o bryd 'dan ni'n cael 10% o'r refeniw o feysydd parcio [y cyngor] i fynd tuag at bethau fel cadw'r toiledau cyhoeddus ar agor, ond os 'di pawb yn dechrau parcio fan hyn fydd y refeniw yna'n disgyn a'r cyngor cymuned fydd yn colli allan.

"Mae'n opsiwn hawdd iddyn nhw, jyst i 'neud pres. Ond yn lle meddwl am eu hunain, maen nhw angen meddwl am y gymuned."

Gobaith am ailfeddwl

Un syniad sydd wedi cael ei gynnig ydy trac reidio aml-bwrpas ar gyfer beiciau, sglefrfyrddio, sgwteri ac hyd yn oed defnyddwyr anabl.

"I bobl ifanc yn Llanberis does 'na ddim byd yma iddyn nhw. Mae 'na lot o ddiddordeb mewn pump track, dyna'r dyfodol," ychwanegodd y cynghorydd.

"Mi fysa chi'n gallu llenwi'r maes parcio [sydd yno ar hyn o bryd] efo ymwelwyr i hwnna, ac mae'n cadw nhw'n brysur hyd yn oed yn y gaeaf.

"Dwi'n gobeithio bod nhw'n ailfeddwl y cynlluniau a gwrando ar bobl ifanc."

Disgrifiad o’r llun,

Cynghorydd Kevin Morris Jones: "Fydd o siŵr o fod yn wag rhan fwyaf o'r amser"

Ymhlith trigolion lleol yn Llanberis, roedd digon o awydd gweld cyfleuster fyddai'n cael ei ddefnyddio'n ehangach.

"Roedd yr adeilad i fod ar gyfer y gymuned yn wreiddiol, fel canolfan hamdden a phwll nofio, felly gobeithio allwn ni gael rhywbeth fel 'na eto," meddai Glyn.

Dywedodd eraill fod angen gwneud y mwyaf o'r meysydd parcio sydd eisoes yn y pentref, ac annog ymwelwyr i ddefnyddio bysus gwennol i'w cludo i'r mannau cerdded mwyaf poblogaidd.

"Y broblem efo parcio dros y flwyddyn neu ddau ddiwethaf ydi nid y diffyg llefydd, ond bod pobl wedi bod yn 'neud o'n anghywir," meddai Aled, sy'n gweithio mewn siop leol.

"Dyla nhw ganolbwyntio ar 'neud yn siŵr fod y system yn gweithio rhwng y meysydd parcio a lle mae pobl isio mynd, mewn ffordd sydd yn parchu'r mynyddoedd a'r bobl sy'n byw yma."

Disgrifiad o’r llun,

Y bwriad ydy dymchwel y ganolfan ymwelwyr er mwyn ehangu'r maes parcio ger Llyn Padarn

Yn eu cais i Gyngor Gwynedd dywedodd First Hydro y byddai'r datblygiad yn helpu i daclo'r "prinder cronig o lefydd parcio yn Llanberis, sydd yn arbennig o enbyd yn ystod yr haf, er mwyn hybu'r economi dwristiaid leol a safonau'r cyfleusterau yn y pentref".

"Yn ychwanegol i hynny, gan fod y maes parcio arfaethedig yn agos iawn at gyfnewidfa fws Llanberis, mae potensial i ychwanegu at y mesurau gafodd eu hawgrymu gan Bartneriaeth Yr Wyddfa, gan gynnig cyfraniad positif i drafnidiaeth gynaliadwy a rheolaeth barcio yn yr ardal."

Ychwanegodd y cwmni eu bod yn bwriadu i'r maes parcio fod "ar gael i ddigwyddiadau cymunedol lleol, yn achlysurol, drwy gydol y flwyddyn".

'Rhan o fywyd cymunedol'

Dywedodd Engie UK, rhiant-gwmni First Hydro, y byddan nhw'n "parhau i drafod pob opsiwn gyda chyrff lleol a grwpiau cymunedol" ynglŷn â'u cynlluniau ar gyfer y safle.

"Rydyn ni'n cydnabod fod Canolfan Ymwelwyr Mynydd Gwefru wedi chwarae rhan ym mywyd cymunedol a bod awydd cryf yn lleol i weld y safle'n cael ei ddatblygu mewn ffordd sydd o fudd i'r ardal leol," meddai llefarydd wrth BBC Cymru.

"Rydyn ni wedi bod yn gweithio law yn llaw â chynrychiolwyr y gymuned a phartneriaid lleol i sicrhau dyfodol priodol i'r safle.

"Gyda'n gilydd rydyn ni wedi edrych ar ystod o opsiynau ac fe gafodd y cynigion diweddaraf eu cyflwyno i aelodau'r gymuned gydag esboniad o gynigion First Hydro ar gyfer safle'r ganolfan ymwelwyr.

"Byddai'r wybodaeth yma'n golygu bod modd gwneud sylwadau gwybodus ar y cais cynllunio i Gyngor Gwynedd."

Pynciau cysylltiedig