Cyhoeddi aelodau panel i ddatganoli darlledu
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi aelodau panel arbenigol newydd a fydd yn dechrau ar y gwaith o sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu cysgodol i Gymru.
Mae'r panel wedi'i greu fel rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru gyda'r nod o gryfhau llais y cyfryngau yng Nghymru drwy greu "fframwaith rheoleiddio effeithiol ac addas".
Y prif ddarlledwyr cyhoeddus sy'n gwasanaethu cynulleidfaoedd yng Nghymru yw'r BBC, ITV Cymru ac S4C, ac ar hyn o bryd mae S4C yn cael ei ariannu gan gyfuniad o ffi'r drwydded deledu, gyda swm llawer llai yn dod o'r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS).
Ers tro mae ymgyrchwyr iaith wedi bod yn galw am ddatganoli darlledu er mwyn gwarchod dyfodol S4C a BBC ac ITV Cymru.
Bydd y panel arbenigol yn cael ei gyd-gadeirio gan y darlledwr Mel Doel a'r Athro Elin Haf Gruffydd Jones.
Fe fydd yr awdurdod darlledu yn ceisio cryfhau democratiaeth Cymru, dwyn ynghyd a chydgysylltu ymdrechion presennol Llywodraeth Cymru i gryfhau'r cyfryngau yng Nghymru, a gwireddu datblygiadau arloesol i gefnogi'r Gymraeg yn y maes digidol.
Bydd hefyd yn "gwneud y cyfryngau'n fwy lluosogaethol", yn sicrhau bod yr iaith Gymraeg ar holl blatfformau'r cyfryngau ac yn casglu tystiolaeth i gefnogi'r achos dros ddatganoli pwerau i Gymru.
Mae aelodau'r panel yn cynnwys Nia Ceidiog, Llion Iwan, Arwel Ellis Owen, Ceri Jackson, Clare Hudson, Ed Gareth Poole, Richard Martin, Geoff Williams, Shirish Kulkarni a Carwyn Donovan.
'Creu fframwaith sy'n gweithio i Gymru'
Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon: "Rwy'n falch iawn y gallwn heddiw gyhoeddi aelodau'r panel arbenigol a all, gyda'u cyfoeth o brofiad a gwybodaeth, ein helpu i edrych ar y gwaith o sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu cysgodol i Gymru.
"Ceir consensws nad yw'r fframwaith darlledu a chyfathrebu presennol yn diwallu anghenion Cymru a bod angen cymryd camau i ddatblygu fframwaith sy'n fwy addas i'r diben.
"Mae bygythiadau parhaus ac ymosodiadau ar ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus gan Lywodraeth y DU, a chyhoeddiadau diweddar gan Weinidogion y DU am ddyfodol ffi drwydded y BBC a phreifateiddio Channel 4, yn cryfhau'r achos bod y system bresennol yn ddiffygiol.
"Rwy'n edrych ymlaen at gael argymhellion y panel arbenigol fel y gallwn greu fframwaith cyfathrebu a darlledu sy'n gweithio i Gymru."
Dywedodd yr AS Plaid Cymru, Cefin Campbell: "Mae gan hyn y potensial i fod yn ddatblygiad hanesyddol i Gymru, i roi hwb go iawn i'n democratiaeth.
"Rydym yn credu y dylai penderfyniadau am faterion darlledu a chyfathrebu yng Nghymru gael eu gwneud yng Nghymru, er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n democratiaeth genedlaethol ifanc, ein hiaith yn ogystal â bywyd cymunedol lleol yn ei holl amrywiaeth.
"Bydd sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu yn ein gwlad sy'n gallu gwarchod, arallgyfeirio a gwella ein platfformau gwasanaeth cyhoeddus lleol a chenedlaethol yn gam hollbwysig ymlaen.
"Mae cyfryngau lleol a chenedlaethol bywiog yn hanfodol i adlewyrchu tapestri bywyd ledled y wlad - trafod, rhoi gwybodaeth a dathlu ein holl ddiwylliannau a'n cymunedau."
Ychwanegodd: "Rydym yn credu mewn dyfodol lle ceir cyfryngau lluosog, democrataidd, wedi'u gwreiddio'n lleol sy'n gwella bywyd cenedlaethol Cymru."
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu'r "cam i'r cyfeiriad cywir", meddai Mirain Owen o'r mudiad.
Ond dywedodd y "byddai'n well gyda ni petai'r awdurdod cysgodol yn cael ei greu yn syth, mae'n gwbl amlwg bod angen datganoli darlledu cyn gynted â phosibl".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2018