Teyrnged dyweddi wedi marwolaeth hyfforddwr dringo

  • Cyhoeddwyd
Slabiau IdwalFfynhonnell y llun, Eric Jones/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Tom Furey wedi pasio dau ddringwr arall ar Slabiau Idwal cyn iddyn nhw weld maes o law ei fod wedi syrthio

Mae dyweddi hyfforddwr mynydda o Wrecsam wedi rhoi teyrnged emosiynol iddo wedi iddo farw wrth ddringo yn Eryri.

Syrthiodd Tom Furey, oedd yn 30 oed, 150 o droedfeddi yng Nghwm Cneifion ddydd Sadwrn.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor mewn hofrennydd Gwylwyr y Glannau ond bu farw o'i anafiadau.

Mewn neges ar Facebook, dywedodd ei ddyweddi Katie Simmons ei fod "wedi ysbrydoli" llawer o bobl yn y byd dringo, mynydda a chwaraeon dŵr.

Roedd Mr Furey yn rhedeg cwmni antur awyr agored yn Wrecsam ac yn ôl gwefan y cwmni roedd wedi arwain teithiau dringo ar draws y byd.

'Sioc anhygoel'

Gan ei ddisgrifio fel "enaid hoff cytûn" dywedodd Ms Simmons yn ei neges: "Dwi'n addo gwireddu ein breuddwydion, Tom!"

Dywedodd: "Roeddan ni'n trysori bob dydd y cawson ni gyda'n gilydd... a dweud wrth ein gilydd gymaint roedden ni'n caru ein gilydd bob dydd.

"Rydym oll dan sioc anhygoel ac wedi torri calon yn llwyr ond roedd yn gwneud rhywbeth roedd yn ei garu a dyna sy'n bwysig."

"Fe wnes ti ysbrydoli gymaint o bobl yn y byd dringo a mynydda, ond hefyd mewn bywyd bob dydd ac, yn anhygoel, yn y byd chwaraeon dŵr hefyd. Roeddan ni i gyd mor lwcus dy fod wedi dod i'n bywydau."

'Mynyddwr lleol adnabyddus a phoblogaidd'

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw gan ddyn a'i fab 16 oed oedd yn dringo Slabiau Idwal, a welodd bod dyn, oedd wedi eu pasio'n gynharach, wedi ei anafu.

Dywedodd Chris Lloyd, o Dîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen bod Mr Furey "yn fynyddwr proffesiynol lleol adnabyddus a phoblogaidd".

Ychwanegodd: "Rydym yn diolch i'r tad a'r mab a brofodd y digwyddiad brawychus yma."

Dyw hi ddim eto'n glir gan ba amgylchiadau y syrthiodd Mr Furey ond roedd yr amodau'n wyntog iawn ar y pryd yn ôl aelodau'r tîm achub.