Chwe iaith, dwy goes, un ymennydd
- Cyhoeddwyd
Rhif un ym Mhrydain a 12fed yn y byd mewn rasys rhedeg chwe diwrnod. Siarad chwech iaith ac yn ddysgwr Cymraeg. Wedi teithio'r byd yn brwydro leprosi, malaria, colera ac ebola fel nyrs salwch heintus.
Mae'n deg dweud bod Garfield Jones, 64, yn gymeriad nad yw rhywun yn dod ar ei draws yn aml.
Ond wrth droed mynydd Drws y Coed ym mhentref Talysarn yng Ngwynedd mae'n bosib darganfod y gŵr diymhongar sydd ar frig tabl rasys rhedeg chwe diwrnod Prydain - o unrhyw oedran - ac yn 12fed yn y byd ar ôl rhedeg 582.3km mewn ras yn Yr Eidal ym mis Mawrth 2022.
Os yw hynny yn eich syfrdanu mae hefyd werth nodi fod Garfield Jones yn siarad chwe iaith sy'n cynnwys dwy iaith o Indonesia, iaith Lao, iaith Thai, Saesneg a'r Gymraeg fel dysgwr (mae hefyd yn darllen Groeg).
"Dyma pam nes i ddod adref i Gymru. Roeddwn yn meddwl 'O, fi'n gallu siarad rhain i gyd, ond ddim yn siarad y Gymraeg... this is no good!' meddai Garfield yng nghanol y pentwr o dlysau rhedeg yn ei 'stafell fyw.
Ar ôl degawdau yn teithio'r byd fel nyrs salwch heintus a chyfnod yng Nghaerffili roedd Garfield eisiau ailafael yn y Gymraeg wedi iddo ei cholli yn ifanc yn ystod ei fagwraeth yn ardal lofaol Pont-y-pŵl, Torfaen yn y 70au.
Gweithio, rhedeg, dysgu
Rhwng y rhedeg a'r dysgu mae Garfield yn gweithio fel nyrs gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr lle mae'n cael y cyfle i baratoi at ei ras eithafol nesaf yn ogystal ag ymarfer ar ei Gymraeg.
"Dwi'n hapus ar y wardiau yn gwneud shifft nos yn ysbytai Betsi Cadwaladr," meddai Garfield, sy'n ychwanegu fod shifftiau dydd yn dda i ddim.
"Oherwydd fy mod yn flexible yn fy mhen i ac yn gweithio night shiffts caled mae'n llawer o help i fi mewn rasys hir.
"Weithiau yn yr ysbyty mae shifft yn gant y cant yn Gymraeg hefyd - dyna'r ffordd i ymarfer yr iaith."
Ac mae Garfield yn rhoi cant y cant i bob dim. Ym mis Mawrth eleni fe deithiodd Garfield i Policoro yn ne'r Eidal i gymryd rhan mewn ras redeg eithafol chwe diwrnod o hyd.
Dychwelodd i Eryri yn rhif un ym Mhrydain ac wythfed yn y byd. Ac er ei fod bellach wedi disgyn i safle 12fed yn fyd eang enw'r Cymro sydd yn dal ar frig tabl Prydain.
"Italian Ultra Festival oedd hon yn Policoro. Mae sawl rhedwr yn rhedeg un neu ddau farathon pob diwrnod. Method arbennig fi yw rhedeg 80 cilomedr, cysgu pedair awr, codi a rhedeg eto. A gwneud yr un peth. Ond yn ystod y 30 awr olaf fi'n rhedeg non-stop. Dyna method Garfield Jones.
"Nawr fi'n rhif 12 yn y byd ac yn rhif un ym Mhrydain. Dwi'n hapus gyda'r safle achos dwi ddim yn berson hynod o sporty. Medi yma byddwn yn trio eto gyda ras chwe diwrnod ac yn ceisio ennill fy record a chyrraedd 600 cilomedr."
'Cryf yn y pen'
Rygbi a bocsio oedd pethau Garfield yn ifanc a dim ond i gadw'n heini y byddai'n rhedeg. Ond mi fyddai hefyd yn rhywbeth hawdd iddo wneud wrth deithio'r byd o Indonesia i Cambodia a Sudan i Sierra Leone wrth weithio gyda Sefydliad Iechyd y Byd a'r Groes Goch.
"Doeddwn i ddim yn gyflym iawn nac yn gryf iawn fel chwaraewr rygbi ond roeddwn yn gryf yn y pen," meddai.
"Nes i drio ras hanner marathon, ras man vs horse yn Llanwrtyd cyn gwneud marathons llawn a dyma fi'n meddwl fod hyn ddim yn ddigon i fi."
Yna fe glywodd am rasys rhedeg 24 awr a meddwl fod "rhaid iddo drio unwaith."
Ers hynny mae Garfield wedi rhedeg 30 marathon, 98 marathon eithafol (ultra), 31 ras 24 awr, pedair ras 48 awr a dwy ras chwe diwrnod.
"Yn y ras hir ultra marathon dwi'n gallu paratoi yn dda iawn. Un peth sydd yn sbesial mewn ras ultramarathon, yn y canol, weithiau, rwyt yn collapsio ac yn meddwl dwyt ti ddim am allu rasio eto.
"Ond rwyt ti yn mynd trwy recovery yng nghanol y ras. Ti'n gorfod cadw ati - dyma'r gic i fi - dyna'r peth sbesial."
O Cambodia i Sierra Leone
Ag yntau yn fab i löwr mae shifftiau gwaith caled yn yr oriau mân yng ngwaed Garfield ac mae'r oriau hir ar ei draed yn ei siapio ar gyfer ei rasys.
Dechreuodd ei yrfa fel nyrs arbennig salwch heintus yn India yn y 70au yn ymdrin â haint leprosi cyn mynd ymlaen i dreulio 12 mlynedd yn Indonesia.
Dychwelodd i Gymru i wneud cwrs meistr mewn Iechyd Cyhoeddus yng Nghaerdydd cyn mynd i weithio yn Laos yn Asia.
"Ar ôl Laos a Cambodia es i Southern Sudan i weithio gyda malaria a neglected diseases. Wedyn es i i Sierra Leone gyda ebola a weithiau gyda'r WHO [World Health Organisation] i wneud aseiniadau tymor byr, fel arfer i India," meddai Garfield.
Mae Garfield wedi cael haint malaria 50 gwaith ac wedi dal llawer iawn o heintiau eraill hefyd wrth weithio dramor am ugain mlynedd. Er hynny, mae'n hapus iawn yn y gwaith peryg a chaled ac mae'n parhau i sefyll wrth gefn gyda'r Groes Goch.
"Dwi'n hapus gyda gwaith caled yn trin salwch heintus. Roedd y gwaith yn Indonesia a Laos yn waith maes - mewn remote areas oedd yn anodd i'w cyrraedd. Ond ar hyn o bryd dwi'n hapus ar y wardiau Covid ac yn gwneud shifft nos yn ysbytai Betsi Cadwaladr.
"Yn aml dim ond shifft nos dwi'n gwneud, dwi ddim yn hapus mewn shifft dydd. Dwi'n gwneud shifft nos ers dwi'n 16 oed.
"Dwi ddim yn hapus gyda gwaith hanner hanner."
'Gwneud llawer iawn gyda chydig bach'
Ar ôl degawd yng Nghaerffili mae Garfield bellach yn byw yn Nhalysarn ers deunaw mis lle mae'n gallu byw ei fywyd drwy'r Gymraeg o ddydd i ddydd.
Meddai: "Dyma fi'n symud i lle mae 80 y cant yn siarad Cymraeg ar y stryd. Mae pawb yn siarad Cymraeg fel mamiaith.
"I fi does dim talent mewn dysgu ieithoedd. Mae pobl yn dweud 'oh, you probably have a knack for languages'. A fi'n meddwl na, na, na. Oherwydd dwi'n mynd i lawer o wledydd mae'n rhaid i fi ddysgu'r iaith i weithio.
"Dwi'n gwneud llawer iawn gyda 'chydig bach - dyw gramadeg ddim yn berffaith a vocabulary ddim yn llawn ond dwi'n gallu dal ati. Dwi ddim yn ofn gwneud camgymeriad a gwneud ffŵl o fy hunan - os ti ddim yn ofn hyn ti'n gallu dysgu iaith.
'Lle arbennig iawn'
Mae'r ardal mae'n byw ynddo yn "lle arbennig iawn ac yn bert iawn," meddai Garfield, sy'n cael y rhyddid yno i gamu trwy ddrws ei dŷ i ymarfer yng nghanol harddwch ei filltir sgwâr.
"Dwi'n rhedeg 90 munud y diwrnod. Mi af dros Graig Cwm Silyn a Mynydd Mawr i ymarfer ac weithiau byddwn yn mynd i draeth Dinas Dinlle.
"Weithiau yn y bore, weithiau yn nos. Weithiau yn bwyta cyn rhedeg, weithiau yn gwneud fasting run. Dyna sy'n helpu ultra marathon - does dim patrwm a dyna sy'n helpu'r flexibility."
Mae personoliaeth hwyliog, penderfynol ac ifanc yn perthyn i Garfield, 64, ac nid yw'n syndod felly ei fod yn paratoi at haf prysur arall o redeg ble fydd yn ceisio ennill ei record bersonol mewn ras 6 diwrnod.
Yn Hwngari ym mis Medi fydd honno ble fydd y rhedwr yn ceisio cyrraedd ei darged o 600km. Ond cyn hynny mae ganddo bentwr rasys dipyn 'byrrach' er mwyn paratoi…
…Dwy ras 60 milltir yng Nghymru a'r Alban, ras 100 milltir yn Lloegr, a ras 100 milltir ar hyd Wal Berlin ym mis Awst ble mae'n cystadlu am y 7fed tro.
Hefyd o ddiddordeb: