Cwrdd mewn archfarchnad a pherfformio o flaen 60,000

  • Cyhoeddwyd
Côr Meibion CwmbachFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Côr Meibion Cwmbach yn Stadiwm Principality, Caerdydd

Canlyniad cyfarfod damweiniol mewn archfarchnad a arweiniodd at berfformiad côr meibion o flaen degau o filoedd o bobl yn Stadiwm Principality dros y penwythnos.

Roedd y stadiwm dan ei sang am ddwy noson wrth i'r Stereophonics a Tom Jones ddiddanu 60,000 o bobl ac roedd miloedd yn fwy yn gwylio'n fyw ar y teledu.

Ond ymysg y perfformiadau mwyaf cofiadwy oedd un Côr Meibion ​​Cwm-bach a gafodd wahoddiad i ganu'r anthem genedlaethol ar y ddwy noson.

Yn ôl un aelod o'r côr, serch hynny, cyfarfod annisgwyl a diarwybod mewn archfarchnad dair blynedd yn ôl oedd yn gyfrifol am eu hymddangosiad.

'Wedi bod yn freuddwyd'

Roedd cyfarwyddwr Côr Meibion ​​Cwm-bach, Mike Thomas, yn arfer dysgu yn ysgol prif leisydd y Stereophonics, Kelly Jones, sef Ysgol Gyfun Blaengwawr yn Aberaman, Rhondda Cynon Taf.

Disgrifiad o’r llun,

Gwahoddwyd y côr i ganu gan brif leisydd y Stereophonics, Kelly Jones

Cyfarfu'r pâr wrth siopa a chytunwyd y gallent gydweithio ar ôl clywed bod y côr yn dathlu ei ganmlwyddiant yn 2021.

"Mae wedi bod yn freuddwyd," meddai Mr Thomas.

Eglurodd sut y cysylltodd rheolwyr y band i ofyn iddynt berfformio y llynedd ond bu'n rhaid gohirio hynny oherwydd y pandemig.

Meddai: "Tua tair mlynedd yn ôl cwrddais i â Kelly yn dod mas o'r siop wrth i fi fynd mewn, a dyma Kelly'n dweud 'Hello Mr Thomas, how are you? How are things?'

Disgrifiad o’r llun,

Rob Davies a Mike Thomas, sy'n aelodau o Gôr Meibion Cwm-bach

"So, roedd fy mab yn starstruck, a ffaelu siarad, wedyn ni'n cael chat bach, dwedais i fod Côr Meibion Cwm-bach yn dathlu canmlwyddiant blwyddyn nesaf a mae'n rhaid i ni wneud rhywbeth. So, 'na beth yw dechrau y stori."

'O'dd e'n drydanol'

Ddeufis yn ôl fe gawson nhw gais swyddogol i berfformio yn Stadiwm Principality nos Wener a Sadwrn, ac fe wnaethon nhw ganu'r anthem genedlaethol o flaen tua 60,000 o gefnogwyr bob nos.

"O'dd yr egni yn y bowl… yn y cauldron, o'dd e jest yn wych,"dywedodd Mr Thomas.

"Dyna beth mae'r bois eisiau creu - reit ar ddechrau'r perfformiad yw teimlad Cymraeg, ac o'dd en llwyddiant hefyd.

"O'dd canu yn y stadiwm yn topio popeth."

Disgrifiad o’r llun,

Gwahoddwyd Côr Meibion ​​Cwm-bach i ganu'r anthem genedlaethol ar y ddwy noson

"Mae'r caneuon [We'll Keep a Welcome a Hen Wlad fy Nhadau] yn eithaf cyfarwydd i'r bois so dim gormod o waith… y broblem fwyaf yw'r nerves a'r teimlad i sefyll ar y llwyfan o flaen 60,000.

"Yng nghanol y stadiwm, mae e' fel Eglwys Gadeiriol… ac o'dd y bois yn ffantastig, ac mae'r dorf - o'dd y dorf yn rhan fwyaf o'r perfformiad. Mae nhw'n perfformio gyda ni so o'dd e'n drydanol," ychwanegodd.

Dywedodd cadeirydd y côr a'r ail denor, Rob Davies, ei fod yn "drydanol" perfformio ar lwyfan gyda'r "bechgyn" eraill, rhwng 24 ac 89 oed.

"Pan wnaethon ni daro'r rhan olaf yna o'r anthem genedlaethol, wel, os ydych chi'n Gymro a mae gennych chi'r angerdd yna yn eich calon, dydych chi ddim yn mynd i wella ar hynny."

Pynciau cysylltiedig