'Nath yr ham dasgu a glanio ar Clint Eastwood'

  • Cyhoeddwyd
Nanw RowlandsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Y cyfarwyddwr castio Nanw Rowlands, neu 'Nanwa' fel mae Clint Eastwood yn hoffi ei galw

Mae'r cyfarwyddwr castio Nanw Rowlands wedi hen arfer cymysgu gydag actorion adnabyddus ond roedd cyfarfod Clint Eastwood yn dipyn o wefr - ac yn achos ychydig o embaras, dan yr amgylchiadau.

"O'n, o'n i yn starstruck - fel arfer dwi'n dweud 'Na, mae pawb yn gwneud yr un job, ni jyst yn gweithio'," meddai Nanw wrth siarad am ei gwaith ar raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru.

"Pan nes i cwrdd â Clint o'n i'n crafu sbarion bwyd i mewn i'r bin a 'nath yr ham dasgu a glanio ar law Clint Eastwood.

"O'n i eisiau marw!

"Ond 'nath e edrych lan a dweud 'Oh, no worries Nanwa'.

"Achos mai Clint Eastwood nath galw fi'n Nanwa, dyna fy enw nawr! Mae'n ddyn lyfli!"

Ffynhonnell y llun, Frazer Harrison
Disgrifiad o’r llun,

Bathodd Clint enw newydd i Nanw a doedd dim ots ganddo ei bod wedi taflu darn o ham arno!

Os ydych chi erioed wedi meddwl wrth wylio brwydrau epig mewn ffilmiau mawr pwy sydd wedi trefnu yr holl bobl yna i gymryd rhan yn yr olygfa, neu sut gafodd yr union actor yna ei ddewis ar gyfer y brif ran, yr ateb ydy pobl fel Nanw, sy'n wreiddiol o'r Bont-faen.

"Mae pob cyfarwyddwr yn defnyddio cyfarwyddwyr castio fel fi; fel Stephen Spielberg, oni'n neud job iddo fe blwyddyn diwethaf," meddai.

Roedd hynny ar gyfer ei ffilm hunan-gofiannol The Fabelmans a'i gwaith oedd ceisio dod o hyd i fachgen i chwarae rhan y Spielberg ifanc.

Rhan allweddol o'r cynhyrchiad

"Dwi'n teimlo bod e'n job pwysig iawn a falle un diwrnod falle bydd yr Oscars yn meddwl yr un peth ac yn rhoi'r wobr i gastio achos does dim un ar hyn o bryd," meddai Nanw.

Mae cyfarwyddwyr castio yn dueddol o adnabod mwy o actorion na neb arall, mae'n rhan o'u gwaith, felly nhw sydd yn y sefyllfa orau i ddewis pwy sydd yn gweddu i ba rôl.

"Mae'r cyfarwyddwr castio yn dechrau ar y broses reit yn y dechre, weithiau cyn i'r sgriptiau gael eu gorffen," eglurodd Nanw.

Ffynhonnell y llun, Snow White and the Huntsman
Disgrifiad o’r llun,

Snow White and the Huntsman: un o'r ffilmiau mae Nanw wedi gweithio arnyn nhw fel castiwr torf

"Ti'n creu rhestr i bob cymeriad o bobl ti'n meddwl fyddai'n dda i'r rhan, pobl fydd y cynhyrchiad yn gallu ei fforddio, ydy hi'n realistig [gofyn iddyn nhw wneud y rhan].

"Rhaid iti fod yn adnabod dy fusnes i weld pa actorion fyddai'n gwneud pa ran, wedyn ti'n gwneud cyfweliad, a fi sy'n gwneud y deal ariannol hefyd."

Prin yw'r swyddi yng Nghymru, meddai: "Does dim traddodiad o gyfarwyddwyr castio yng Nghymru.

"Fel arfer y cynhyrchwyr sy'n castio actorion mewn teledu yng Nghymru.

"Ond mae hwnna yn newid nawr ac yn Llundain mae cannoedd ohonon ni ac mae cyfarwyddwyr castio yn gweithio ar draws y byd."

O Pobol y Cwm i Captain America

Dechreuodd Nanw ei gyrfa fe rhedwr ar Pobol y Cwm.

Barodd y swydd honno ddim mwy na rhai dyddiau felly symudodd i Lundain i weithio yn y diwydiant ffilm.

Cafodd swydd yn gweithio fel castiwr torfeydd ac actorion ychwanegol (extras) ar ffilmiau mawr fel Cinderella i Disney, Captain America i Marvel a Maleficent gydag Angeline Jolie.

Ffynhonnell y llun, Bobby Bank
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Nanw yn un o'r rhai wnaeth gastio'r torfeydd ar gyfer ffilm Marvel Captain America: The First Avenger

Ei gwaith yn y ffilmiau hynny oedd castio cannoedd o bobl ar gyfer golygfeydd torfol.

"Os oes gyda ti olygfa brwydr, bydd 'da ti marchogion a milwyr a pobl stunts.

"Mewn ffilm mawr fel 1917, lle mae 'da ti 1,000 o bobl neu fwy yng ngolygfa gynta'r ffilm yna, bydd un person fel fi yn castio pob un o'r bobl yna.

"Neu fel yn Cinderella, oedd 'da fi bron i 1,000 o bobl bob dydd fel cerddorion, cantorion.

"Pob dydd o'n i 'di castio nhw i gyd, 'neud yn siŵr bod nhw i gyd ar y set, bod nhw 'di cyrraedd, bod nhw'n cael eu bwydo, a bod nhw'n 'neud beth dylen nhw 'neud.

"Dyw e ddim mor hawdd a stopio pobl yn y stryd a dweud 'Hei, tishe bod mewn ffilm?!' Mae rhaid iti ffeindio'r wynebau [iawn] ... ydyn nhw'n edrych fel milwyr, ydyn nhw'n gallu symud fel milwyr, ydyn nhw'n gallu saethu gwn?

"Oedd scene oedd rhaid i fi 'neud yn Snow White and the Huntsman, oedd rhaid i fi ffeindio pobl oedd yn gallu gwneud to gwellt - thatchers.

"Mae'n job anodd so nes i symud o wneud hwnna i [gastio] actorion, sydd dipyn bach yn haws!"

Sylweddolodd ei bod yn mwynhau gwaith castio, ond nid o anghenrhaid trefnu cannoedd o bobl bob dydd, felly symudodd ymlaen i gastio prif rannau yn lle.

Ar hyn o bryd mae hi'n castio ar gyfer cyfres wyth pennod am y ferch wnaeth guddio teulu Anne Frank rhag y Natsiaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Felly cadwch lygad am yr enw Nanw yn rhestr y criw ar y diwedd - neu 'Nanwa' chwedl Clint.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig