Cynulleidfa fyw yn dychwelyd i Eisteddfod Llangollen
- Cyhoeddwyd
Bydd cynulleidfa fyw yn dychwelyd i Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ddydd Iau wedi dwy flynedd o ddigwyddiadau digidol.
Eleni, mae'r ŵyl yn dathlu ei phen-blwydd yn 75 oed, ond bydd yn llai o ran maint a hyd, a ni fydd gorymdaith ynghanol y dref.
Yn ôl Camilla King, cynhyrchydd gweithredol newydd yr Eisteddfod, cafodd penderfyniad i gwtogi'r ŵyl ei wneud "yn eithaf cynnar".
Roedd hynny gan ystyried amgylchiadau'r pandemig a "gwerthiant tocynnau is" yn y diwydiant yn gyffredinol.
Mae elfennau newydd yn cael eu cyflwyno ar gyfer 2022, gan gynnwys yr hawl i gystadleuwyr ymgeisio yn ddigidol o bell, ac ymgais i "ail ddylunio" maes yr ŵyl.
Roedd Ms King yn arfer rheoli rhaglen Gŵyl Gerddoriaeth Cheltenham, a dywedodd bod "ailgychwyn yn her yn ei hun" wedi dwy flynedd heb Eisteddfod yn y cnawd.
Pedwar diwrnod - nid chwech - fydd hyd y digwyddiad eleni, a dim ond tua 1,500 o seddi fydd yn y pafiliwn gan nad ydy'r estyniad arferol, sy'n codi'r capasiti i tua 4,000, yn cael ei ddefnyddio.
"Mae'r pandemig a'r ansicrwydd am Covid yn golygu bod cynllunio wedi bod yn heriol ac roedd yn rhaid inni benderfynu yn eithaf cynnar beth fyddai'n realistig," meddai Ms King.
"A 'dan ni'n gwybod bod yr orymdaith yn gallu denu degau o filoedd o bobl i'r dref.
"Mae'n golygu y byddai llawer o bobl yn agos iawn i'w gilydd ac roedden ni'n teimlo ei fod yn risg o ran ymbellhau cymdeithasol.
"Yn yr un modd, 'dan ni wedi mynd am lai o seddi gan fod y diwydiant celfyddydau, y diwydiant digwyddiadau yn gwerthu llai o docynnau eleni.
"Mae 'na argyfwng costau byw, mae pobl yn ei chael hi'n anodd, ac roedden ni eisiau lliniaru rhai o'r pethau hynny oedd ar y gweill ac sydd bellach yn ein heffeithio."
Cynhaliwyd digwyddiad y llynedd yn ddigidol ond yn 2022 mae enwau mawr yn dychwelyd i Langollen, gan gynnwys Aled Jones a Russell Watson, a'r chwaraewr sitar, Anoushka Shankar.
Dywedodd Ms King bod maes yr ŵyl wedi cael ei "ddiweddaru" ac mai'r "ail ddylunio hwnnw oedd y peth mwyaf 'dan ni wedi ei newid".
Mae rhai agweddau digidol hefyd wedi cael eu cadw. Er bod mwyafrif y cystadleuwyr yn dod i'r dref, bydd rhai yn cystadlu o bell.
"Mae 'na gôr o Seland Newydd, er enghraifft, fyddai ddim wedi gallu dod yma, ond maen nhw wedi ffilmio eu darnau ar gyfer eu cystadleuaeth dan ganllawiau a rheolau caeth i wneud yn siŵr bod pethau mor deg â phosib," meddai.
"Mae cael yr elfen ddigidol yna yn agor yr hyn 'dan ni'n ei wneud i gymaint mwy o bobl, a dwi'n falch ein bod ni wedi llwyddo gwneud iddo fo weithio."
'Dal i fod yn gyfnod heriol'
Cyn y pandemig, cofnododd y sefydliad golledion ariannol o £21,127 ar gyfer 2018 ac £88,290 ar gyfer 2019.
Yn ôl Ms King, mae'r Eisteddfod wedi derbyn "cefnogaeth sylweddol gan y llywodraeth" yn ystod y pandemig, ond mae'r sefyllfa'n dal i fod yn "heriol".
"Yn sicr o ran cyllideb yr Eisteddfod yn gyffredinol, 'dan ni wedi craffu ar y risgiau 'dan ni'n eu cymryd, ar beth allwn ni fforddio ei gynnal, a sut y gallwn ni wneud i'r safle edrych yn wych heb wario gormod," meddai.
"Mae'n fater o edrych ar y pethau 'ma a'u teilwra fel sydd angen."
Mae'r Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol yn rhedeg o ddydd Iau tan ddydd Sul, gyda chystadlaethau a digwyddiadau eraill yn cael eu cynnal trwy'r dydd tan tua 22:00.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2021