Cwch pysgota 'wedi ei orlwytho ac yn ansefydlog'
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad i gwch wnaeth suddo oddi ar arfordir y gogledd gan arwain at farwolaeth tri physgotwr wedi dod i gasgliad bod y cwch wedi ei "orlwytho ac yn ansefydlog".
Suddodd y Nicola Faith ar 27 o Ionawr 2021 ar ôl gadael harbwr Conwy, wrth i'r criw hel cregyn moch lai na 2.2 milltir oddi ar lannau Llandrillo-yn-Rhos.
Fe gafodd y criw, Ross Ballantine, 39, Alan Minard, 20, a'r capten Carl McGrath, 34, oll eu dal yn sownd rhwng bwrdd y cwch a'r cyfarpar pysgota wrth iddo suddo.
Mae ymchwilwyr yn credu i'r cwch suddo yn gyflym gan nad oedd amser i'r criw gysylltu â'r gwasanaethau brys, a chan nad oedd y tri yn gwisgo siacedi achub, roedd y tebygolrwydd o'u hachub yn isel.
Yn ôl yr adroddiad a gafodd ei gyhoeddi gan y Gangen Ymchwilio Damweiniau Morwrol (MAIB), roedd y cwch yn cael ei reoli a'i weithredu "mewn modd anniogel" yn gyson, gyda mwy o bwyslais ar gludo llwythi mawr o gynnyrch yn hytrach na sicrhau diogelwch y criw.
Darganfuwyd fod nifer o addasiadau strwythurol wedi eu gwneud i'r Nicola Faith gan olygu nad oedd y cwch bellach mewn cyflwr sefydlog wrth hwylio.
Mae'n ymddangos bod y Nicola Faith wedi mynd i drafferthion ar ambell achlysur cyn suddo, a bu bron i'r cwch droi ben i waered ar ddau achlysur arall oherwydd ei fod yn cludo gormod o gynnyrch a chyfarpar.
Er bod y capten wedi mynychu cyrsiau am bwysigrwydd sefydlogrwydd cychod o'r fath, "fe flaenoriaethodd gorlwytho'r cwch er y peryg amlwg", medd yr adroddiad.
Daeth yr adroddiad hefyd i gasgliad bod y cyfle i achub y criw yn is gan nad oedd y cwch hefo cyfarpar digidol EPIRB (Emergency Position Indicating Radio Beacon) fyddai wedi anfon nodyn argyfwng i'r gwasanaethau brys yn dangos bod y cwch yn suddo.
"Roedd y Nicola Faith wedi derbyn nifer o addasiadau nad oedd wedi eu cymeradwyo," yn ôl y Prif Ymchwilwyr, Andrew Moll OBE.
"Er hynny roedd modd i'r cwch gael ei hwylio yn ddiogel gyda gofal.
"Ar ddiwrnod y ddamwain, roedd y criw yn symud eu rhwydi i ardal wahanol ac mi oedd y cwch hefyd yn dal cynnyrch oedd wedi ei gasglu yn ystod y dydd.
"Roedd y cyfuniad o bwysau'r cynnyrch a hefyd yr holl gyfarpar pysgota ar fwrdd y cwch yn rhy drwm i'r hyn oedd y Nicola Faith yn gallu ymdopi, ac fe wnaeth droi ar ei ochr ac fe gollodd y tri aelod o'r criw eu bywydau."
Ar 27 o Ionawr 2021 fe adawodd y cwch harbwr Conwy am tua 10:00 gyda disgwyl y byddai'n dychwelyd yn hwyrach y diwrnod hwnnw er mwyn dadlwytho'r cregyn moch.
Wrth ddod o hyd i'r system fonitro ar fwrdd y Nicola Faith a oedd yn cofnodi lleoliad y cwch, mae ymchwilwyr yn credu iddi suddo am tua 18:00.
Fe yrrodd prynwr cregyn moch lleol neges destun i'r capten i ofyn faint o gynnyrch oedd i'w ddisgwyl y noson honno, ond ni chafodd ateb.
Er hynny, cafodd y gwasanaethau brys a'r ymgyrch i ganfod y cwch ddim ei ddechrau tan 10:00 y bore wedyn.
Fe gafodd ymgyrch enfawr gan y gwasanaethau brys i ganfod y dynion ei lansio'r diwrnod hwnnw, gan edrych ar draws ardal gyfwerth â 500 metr sgwâr, ond cafodd dim olion o'r Nicola Faith na'r criw eu canfod.
Chwe wythnos yn ddiweddarach fe gafodd cyrff y tri physgotwr eu canfod rhwng Cilgwri a Blackpool, ond chafodd y cwch ei hun mo'i ddarganfod tan ddiwedd Mai 2021.
Gwersi i'w dysgu
Yn ôl Andrew Moll, mae nifer o wersi i'w dysgu o'r ddamwain ac yn sgil hynny mae angen gweithredu.
"Y wers gyntaf yw'r addasiadau a gafodd eu gwneud i'r Nicola Faith, oni bai eu bod nhw wedi eu cynllunio yn gywir, mae modd i addasiadau fel hyn amharu ar sefydlogrwydd y cwch.
"Mae'n bwysig bod capteiniaid yn ymwybodol o'r hyn sy'n bosib ar eu cychod a bod unrhyw addasiadau neu newidiadau i'r ffordd mae'r criw yn pysgota yn cael eu hasesu a'u cymeradwyo.
"Yr ail wers ydy bod modd i unrhyw gwch fynd yn ansefydlog os yn cael ei orlwytho.
"Mi fydd pysgotwyr wastad yn gweld temtasiwn i hel stoc fawr o gynnyrch ond mae symud cyfarpar ar yr un pryd yn gallu llethu gallu'r cwch.
"Wrth i brisiau tanwydd gynyddu'n fawr, mae'r temtasiwn i griwiau gludo mwy o stoc a gwneud llai o deithiau yn gwneud synnwyr economaidd, ond pan mae hynny yn amharu ar sefydlogrwydd y cwch fe allai'r sgil-effeithiau fod yn gatastroffig.
'Modd osgoi hyn yn llwyr'
"Mae bywydau tri o deuluoedd wedi eu dinistrio yn y ddamwain hon - roedd modd osgoi hyn yn llwyr.
"I bawb sy'n gweithio ar fwrdd cychod o'r fath mae'r neges yn un syml. Mae sefydlogrwydd yn ganolog i ddiogelwch y cwch. Mae'n rhaid ichi wybod terfyn a gallu eich cwch a sicrhau nad ydach chi'n gwthio hynny i'r eithaf."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mai 2021
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2022