Codi cwch pysgota y Nicola Faith o wely'r môr
- Cyhoeddwyd
Mae'r cwch pysgota Nicola Faith, aeth ar goll oddi ar arfordir gogledd Cymru ym mis Ionawr, wedi cael ei godi o wely'r môr.
Cafodd y cwch ei godi gan y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol (MAIB) ddydd Llun.
Bydd MAIB yn cynnal archwiliad a phrofion pellach i geisio canfod achos y ddamwain, ac yn cyhoeddi adroddiad.
Roedd cyrff y tri physgotwr oedd ar ei bwrdd - Alan Minard, 20, Ross Ballantine, 39, a Carl McGrath, 34 - eisoes wedi cael eu dargandfod mewn gwahanol leoliadau rhwng Cilgwri a Blackpool ganol mis Mawrth.
Methodd y Nicola Faith â dychwelyd i harbwr Conwy ar ôl bod allan yn pysgota ar 27 Ionawr.
Yn dilyn ymchwiliadau pellach, gan ddefnyddio cychod chwilio arbenigol, daethpwyd o hyd i'w lleoliad ar 6 Ebrill, yn gorwedd ar wely'r môr tua dwy filltir i'r gogledd o Fae Colwyn - dim ond 177 metr o ble cafodd ei gofnodi ddiwethaf.
Cynnal ymchwiliad pellach
Bydd y cwch yn cael ei symud i safle pwrpasol er mwyn cynnal ymchwiliadau a phrofion pellach i geisio darganfod beth achosodd iddo suddo.
Dywedodd llefarydd ar ran MAIB y byddai teuluoedd y tri physgotwr yn cael cyfle i'w gweld hi yn y fan honno os ydynt yn dymuno.
Cyn ei godi ddydd Llun, cynhaliodd MAIB arolwg o'r cwch a'r ardal o'i chwmpas ar wely'r môr er mwyn cofnodi lleoliad unrhyw dystiolaeth, megis offer pysgota a chyfarpar arall.
Y gobaith yw y bydd y dystiolaeth yn helpu arbenigwyr i ddeall pam y suddodd.
Cafodd y cwch 11 tunnell ei godi gyda chraen arbennig cyn ei osod ar fwrdd llong gerllaw a'i gludo i'r lan.
Dywedodd Prif Arolygydd Damweiniau Morol MAIB, Capten Andrew Moll, bod angen manylder arbennig wrth gynllunio a gweithredu'r dasg o'i chodi.
"Rydym yn falch o ddweud ein bod wedi cyflawni hynny a chodi'r Nicola Faith yn llwyddiannus.
"Pwrpas ein hymchwiliad yw gwella diogelwch. Cam nesa'r ymchwiliad fydd sefydlu pa ddigwyddiadau arweiniodd at suddo'r cwch.
"Yn ogystal a chynnig eglurhad i'r teuluoedd bydd ein hadroddiad yn anelu i atal damwain drasig o'r fath rhag digwydd eto."
Dywedodd AS Aberconwy, Janet Finch-Saunders bod codi'r cwch yn gam arwyddocaol tuag at gael atebion.
"Gyda'r MAIB yn cyflawni gweithred arbennig i godi'r cwch, bydd y teuluoedd a'n cymunedau yn gallu troi at wella a chofio'r rhai a gollwyd," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2021