Nicola Faith: Teuluoedd yn helpu diogelu pysgotwyr eraill
- Cyhoeddwyd
Mae teuluoedd y tri pysgotwr fu farw oddi ar arfordir y gogledd wedi "derbyn clod am eu nerth" wrth geisio gwella diogelwch pysgotwyr eraill yn y môr.
Mae'n flwyddyn ers i Ross Ballantine, 39, Alan Minard, 20, a Carl McGrath, 34, foddi ar ôl i'w cwch, y Nicola Faith, fethu â dychwelyd i harbwr Conwy ar 27 Ionawr 2021.
Cafodd miloedd o bunnoedd ei godi i helpu teuluoedd y tri dyn er mwyn cynnal archwiliad preifat i ddod o hyd i'r cwch. Cafwyd hyd iddo ddeufis yn ddiweddarach.
Flwyddyn ers y drychineb, mae teuluoedd y tri yn dweud eu bod eisiau atal eraill rhag dioddef, gan gyfrannu peth o'r arian oedd yn weddill o'r gronfa chwilio i wasanaeth y bad achub er mwyn gwella diogelwch pysgota masnachol.
Mae teuluoedd y dynion wedi bod yn cynorthwyo gyda chwrs hyfforddiant hefyd, lle mae criwiau pysgota'n dysgu sut i oroesi petai nhw mewn sefyllfa beryglus neu annisgwyl ar y môr.
"Mae sawl cyfnod tywyll wedi bod dros y flwyddyn ddiwethaf," meddai chwaer Ross Ballantine, Lowri Taylor.
"Mae cefnogaeth y teuluoedd eraill wedi bod yn anhygoel.
"Doedd dim un o aelodau'r teuluoedd yn adnabod ei gilydd cyn i hyn ddigwydd, ac fe gafon ni'n taflu'n sydyn i mewn i sefyllfa o straen ac emosiwn uchel na fydden ni erioed wedi meddwl bod ynddi," ychwanegodd.
"Ond ry'n ni i gyd wedi gallu gweithio gyda'n gilydd ac mae hynny wedi bod yn anhygoel. Os oedd rhywun arall yn cael diwrnod gwael, yna byddai rhywun arall yn gallu eu cysuro."
Mae'r teuluoedd hefyd wedi penderfynu cyfrannu arian o sawl apêl ychwanegol i ddod o hyd i'r cwch i'r RNLI - un o'r sefydliadau a oedd yn chwilio am y Nicola Faith pan ddiflannodd.
Mae trafodaethau'n parhau ynglŷn ag ar beth fydd yr arian yn cael ei wario, ond y cynllun yw y bydd y gronfa'n mynd tuag at offer a hyfforddiant i wella diogelwch criwiau pysgota masnachol yn y môr.
'Ddim eisiau i unrhyw deulu arall ddioddef'
Ychwanegodd Lowri Taylor: "Flwyddyn yn ddiweddarach, ry'n ni eisiau sicrhau gwaddol barhaus i'r bechgyn a defnyddio'n profiadau i rannu'n stori a gobeithio, achub mwy o fywydau.
"Ross oedd fy mrawd, roedd e'n dad i'w ddau fab. Ry'n ni eisiau iddyn nhw dyfu yn ein gweld ni'n gwneud rhywbeth positif yn ei enw ef ac yn enwau Alan a Carl.
"Mae'n rhy gynnar i ddweud pa fesurau allai fod wedi atal y digwyddiad ofnadwy hyn, ond mae unrhyw beth sy'n gwella diogelwch ac sy'n rhoi cyfle gwell i bysgotwyr yn beth da.
"Dy'n ni ddim eisiau i unrhyw deulu arall ddioddef yn y ffordd y gwnaethom ni ac wrth i ni gefnogi'r RNLI, ry'n ni'n teimlo y gallwn ni wneud gwahaniaeth."
Mae'r teuluoedd wedi cychwyn ar eu gwaith o gefnogi'r RNLI yn ymarferol, trwy ymuno mewn cwrs hyfforddi i griwiau a thrafod gyda physgotwyr am eu profiadau o golli anwyliaid ar y môr.
Mae'r cwrs, sy'n cael ei gynnal yn Sir Gaerhirfryn, yn dysgu aelodau criwiau sut i fod yn ddiogel trwy eu rhoi mewn pwll nofio sydd â thonnau gwyllt, tra'n gwisgo eu dillad gwrth-ddŵr a wellingtons.
Dywedodd Rheolwr Diogelwch Pysgota y RNLI, Frankie Horne: "Mae'r teuluoedd wedi dangos cymaint o nerth a chydymdeimlad i eisiau defnyddio'u profiad trasig i atal rhagor o fywydau rhag cael eu colli."
Ychwanegodd bod yr hyfforddiant "wir yn gwneud iddyn nhw [pysgotwyr] feddwl yn ofalus am wneud newidiadau".
"Fodd bynnag, un elfen allweddol sydd ar goll yw'r profiad go iawn a gall teulu sydd wedi profi colled siarad am yr effaith y mae digwyddiadau trasig yn ei gael ar deuluoedd.
"Ry'n ni mor ddiolchgar i'r teulu am helpu ni i ddarparu'r elfen hon o'r cwrs, a dw i'n credu'n gryf mai dyma fydd yr offeryn mwyaf pwerus i geisio newid agweddau ac ymddygiad.
Mae ymchwiliad swyddogol i'r digwyddiad wedi cael ei gynnal gan Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol (MAIB).
Mae disgwyl i ganlyniad yr adroddiad gael ei gyhoeddi'n ddiweddarach eleni.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Mai 2021
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd7 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2021