Cymraeg clir: 'Ry'n ni'n colli hyder pobl drwy ddefnyddio jargon'
- Cyhoeddwyd
A oes angen i weinidogion a gweision sifil Llywodraeth Cymru "ymrwymo" i "ffocysu" ar "drawsnewid" eu defnydd o iaith?
Dylid osgoi defnyddio 14 gair, yn ôl y llywodraeth, oherwydd "ry'n ni'n colli hyder pobl drwy ddefnyddio jargon".
Mae'r llywodraeth o'r farn bod y geiriau hyn yn aml "yn rhy gyffredinol ac amwys, a gallant arwain at gamddehongli neu destun dibwrpas".
Y cyngor yw y dylid osgoi defnyddio'r geiriau hyn (gydag esboniadau'r llywodraeth mewn cromfachau):
agenda (heblaw ar gyfer cyfarfod)
ymrwymo neu addo (mae angen bod yn fwy penodol - rydym un ai yn gwneud rhywbeth neu ddim)
deialog (ry'n ni'n siarad â phobl)
hwyluso (yn hytrach, dywedwch rywbeth penodol ynghylch sut rydych yn helpu)
ffocysu
maethu (heblaw wrth sôn am blant)
trosfwaol
hyrwyddo (heblaw eich bod yn siarad am ymgyrch hysbysebu neu farchnata arall)
cadarn
cryfhau (heblaw ei fod yn cryfhau pontydd neu strwythurau eraill)
taclo neu ymgodymu (heblaw ei fod am rygbi, pêl-droed, neu ryw chwaraeon arall)
trawsnewid (beth ydych chi'n ei wneud i'w newid?)
Mae'r rhestr yn rhan o ganllaw arddull, dolen allanol i unrhyw un sy'n ysgrifennu ar gyfer gwefan Llywodraeth Cymru.
Ond i ba raddau mae gweinidogion yn dilyn y cyngor?
Wrth edrych ar gofnod trafodion y ddau gyfarfod llawn olaf cyn toriad yr haf yn y Senedd, dyma ddywedodd gweinidogion, mewn datganiadau a baratowyd gan weision sifil ac wrth ateb cwestiynau yn seiliedig ar eu cyngor:
Y Prif Weinidog Mark Drakeford - "rydym wedi cryfhau ein hymrwymiad i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod".
Y gweinidog iechyd Eluned Morgan - "roedd ein rhaglen ar gyfer trawsnewid a moderneiddio gofal wedi'i gynllunio, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill, yn cynnwys ymrwymiad..."
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles - "mae'r cytundeb cydweithio rhwng y Llywodraeth a Phlaid Cymru yn ymrwymo i gyflwyno'r camau rwy'n eu datgan heddiw"; "mae hefyd 10 awdurdod lleol yn ffocysu ar symud ysgolion presennol ar hyd y continwwm ieithyddol"; "beth mwy gallwn ni ei wneud er mwyn cryfhau ein gallu i gynllunio ar y sail honno?".
Y gweinidog cyllid Rebecca Evans - "gwaith yr ydym ni'n ei wneud yn y byrdymor o ran yr agenda i ddiwygio'r dreth gyngor", ac "mae'r cyd-bwyllgorau corfforedig hefyd yn gallu arfer pŵer i wneud unrhyw beth i wella neu hyrwyddo lles economaidd eu hardaloedd".
Gweinidog yr economi Vaughan Gething - "ein hagenda gwaith teg a diogelu'r amgylchedd... ac rwy'n ymwneud â rhai o'r agendâu polisi anghyson a gwrthnysig yn Llywodraeth y DU ar ffiniau a'n masnach barhaus".
Ni wnaeth unrhyw weinidog ddefnyddio "trosfwaol", hynny yw, cyffredin, cynhwysfawr, eang.
Mae 31 gair i'w hosgoi yn Saesneg, yn ôl y canllaw, gan gynnwys: deliver, empower, initiate, key, streamline, tackling, utilise.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod "llai o eiriau Cymraeg ar y rhestr oherwydd ni fydd gan bob un o'r geiriau ar y rhestr Saesneg air sy'n cyfateb yn y Gymraeg".
"Pan fydd testun ar gyfer y wefan wedi'i ddrafftio yn Saesneg, caiff unrhyw jargon ei osgoi gan gyfieithwyr fel arfer wrth gyfieithu i'r Gymraeg," meddai.
'Agored ac yn benodol'
Mae'r canllaw arddull hefyd yn rhoi cyngor i osgoi defnyddio trosiadau, oherwydd "dy'n nhw ddim yn dweud yr hyn yr ydych yn ei olygu, a gallant olygu bod pobl yn cymryd mwy o amser i ddeall".
"Er enghraifft gyrru (gallwch yrru cerbydau, ond nid cynlluniau na phobl)," meddai'r canllaw.
"Gyda'r rhain i gyd, gallwch ddefnyddio geiriau sy'n disgrifio yn union beth yr ydych yn ei wneud, yn hytrach na'r trosiad.
"Byddwch yn agored ac yn benodol."
Mae Arddulliadur BydTermCymru, dolen allanol, sy'n adnodd i gyfieithwyr, yn cynnwys mwy o enghreifftiau o jargon yn y Gymraeg ac yn dadansoddi pam bod y math hwn o air weithiau yn mynd dan groen darllenwyr.
Mae'n awgrymu, er enghraifft, "pennu hyd a lled" yn lle "cwmpasu", a "cyd-fynd" neu "gydweddu" yn lle "alinio".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd26 Awst 2020