Bron traean o drafodion siambr y Senedd yn Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Roedd 30% o'r trafod yn siambr y Senedd yn Gymraeg yn 2021-22, o gymharu â 23% yn 2020-21.
Ond dim ond 12% o drafodaethau'r pwyllgorau oedd yn Gymraeg - i fyny o'r 9% y flwyddyn flaenorol.
Dim ond 4% o'r cwestiynau ysgrifenedig a gyflwynwyd oedd yn Gymraeg neu yn ddwyieithog yn 2021-22, o gymharu â 6% yn 2020-21.
Mae Comisiwn y Senedd, sy'n rhedeg y sefydliad o ddydd i ddydd, yn cydnabod bod "angen gwneud mwy eto i annog hyder mewn defnydd o'r Gymraeg".
Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar y Senedd "i arwain a gwneud y Gymraeg yn brif iaith y sefydliad".
'Angen annog hyder'
Mae canran y cyfraniadau Cymraeg yn y siambr - lle cynhelir y cyfarfod llawn - wedi codi 10% ers 2017-18, pan roedd 20% o'r cyfraniadau yn Gymraeg.
Yr AS Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, sydd â chyfrifoldeb dros ieithoedd swyddogol ar ran Comisiwn y Senedd.
Dywedodd: "Tra bod trafodion dwyieithog yn norm yn Senedd Cymru gyda nifer o gyfranogwyr yn teimlo'n hyderus a chyffyrddus wrth ddefnyddio'r naill iaith neu'r llall, mae angen gwneud mwy eto i annog hyder mewn defnydd o'r Gymraeg ac i ddeall unrhyw rwystrau."
Dywed Cymdeithas yr Iaith bod unrhyw gynnydd yn y defnydd o'r iaith "i'w groesawu" a bod clywed ASau'n defnyddio'r Gymraeg ar lawr y siambr a mannau eraill "yn arbennig o bwysig o ran statws y Gymraeg".
Ond maen nhw'n rhybuddio bod "statws dwyieithog y Senedd yn golygu mai'r Saesneg fydd y brif iaith o hyd, gyda gwaith gweinyddol y sefydliad yn digwydd yn Saesneg gyda chyfieithu i'r Gymraeg fel sydd angen".
Dywedodd is-gadeirydd cyfathrebu'r Gymdeithas, Tamsin Davies bod "angen newid hynny ac mae modd gwneud", gan ddadlau bod "lle gan y Senedd i arwain yn hynny o beth a gwneud y Gymraeg yn brif iaith y sefydliad".
Mae hi hefyd yn dweud bod angen annog swyddogion cyflogedig i ddefnyddio'r Gymraeg.
Gofynnodd: "Mae swyddi yn gofyn am lefel benodol o allu yn y Gymraeg er enghraifft, ond beth sydd mewn lle i wella sgiliau iaith staff wedi hynny a chynyddu eu hyder i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gwaith?
"Bydd mesurau o'r fath yn galluogi'r Senedd i symud i weithio trwy'r Gymraeg, ond mae angen gosod nod o wneud hynny yn y lle cyntaf."
Dywed Comisiwn y Senedd bod papurau'n cael eu paratoi'n ddwyieithog ar gyfer pwyllgorau, a bod timau'r pwyllgorau hynny'n "pwysleisio'r angen i dystiolaeth a phapurau gan drydydd partïon fod yn ddwyieithog hefyd".
Ychwanegodd bod yna drefniadau "unigryw ar gyfer briffio aelodau pob pwyllgor, gan gynnwys pryd ac ar ba ffurf y caiff y papurau briffio eu darparu", a dewis iaith yr aelodau unigol.
Mae'r camau i annog swyddogion y Senedd i ddefnyddio mwy o'r Gymraeg yn cynnwys cynyddu "capasiti'r tîm tiwtora er mwyn ein galluogi i ddarparu rhagor o gefnogaeth i Aelodau, staff cymorth a staff y Comisiwn".
Gyda'r tîm hwnnw bellach yn ei le, mae'n fwriad i weithio "ar ddarpariaeth hyd yn oed yn fwy hyblyg ac arbenigol".
Ychwanegodd y bydd "rhai o'n dysgwyr yn sefyll arholiadau CBAC dros y flwyddyn sydd i ddod" a bydd y tîm hefyd "yn mynd ati i ddenu dysgwyr newydd ar draws y sefydliad, boed yn gyn-ddysgwyr, yn Aelodau neu'n staff cymorth sydd wedi ymuno ers etholiadau'r Senedd fis Mai eleni".
Mae'r adroddiad blynyddol, dolen allanol diweddaraf ar gynllun ieithoedd swyddogol Comisiwn y Senedd yn dangos na chafodd unrhyw gwynion ffurfiol eu derbyn ynghylch y cynllun.
Ond mae'n cydnabod "ein bod ar adegau wedi methu â chyrraedd y safonau uchel sydd wedi eu gosod yn y cynllun, neu wedi bod mewn perygl o fethu â chwrdd â disgwyliadau defnyddwyr ein gwasanaethau".
Mae'r achosion hynny'n ymwneud â dau faes:
Diffyg eglurder am y broses o drefnu cyfieithu ar y pryd mewn digwyddiadau a noddir gan Aelodau o'r Senedd
Camgymeriad o ran cyhoeddi tystiolaeth a ddarparwyd i bwyllgor gan gorff cyhoeddus ar y wefan - nid oedd tystiolaeth y corff allanol ar gael yn ddwyieithog ar y wefan, er gwaetha'r ffaith fod y corff ei hun wedi darparu'r dystiolaeth yn y ddwy iaith.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth: "Yn yr achosion prin a ddaeth i law, ymchwiliwyd yn syth i ddarganfod beth oedd achos y broblem, a chymerwyd camau i unioni'r sefyllfa'n syth. Rydym hefyd wedi nodi unrhyw wersi y gellir eu dysgu o'r achosion hyn."
Ers etholiad y Senedd ym Mai 2021, mae sawl gweinidog nad sy'n rhugl yn Gymraeg weithiau yn dechrau eu hatebion neu ddatganiadau yn yr iaith yn y siambr, gan gynnwys y Cwnsler Cyffredinol Mick Antoniw a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt.
Mae'r gweinidogion rhugl - y Prif Weinidog Mark Drakeford, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Jeremy Miles a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Eluned Morgan - yn defnyddio'r iaith yn aml.
Mae cofnod, dolen allanol swyddogol y trafodion - trawsgrifiad gair am air o'r hyn a ddywedwyd - yn ymddangos yn hollol ddwyieithog.
Ond mae trawsgrifiadau pwyllgorau'n cynnwys y cyfieithiad ar y pryd o'r Gymraeg i'r Saesneg a ddarlledwyd yn ystod y cyfarfod, ac ni chaiff y cyfraniadau Saesneg eu cyfieithu i'r Gymraeg.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd16 Mai 2022
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd26 Awst 2020