Breuddwydio am uno Cymru a Mecsico drwy fwyd a chelf

  • Cyhoeddwyd
Chris ag Anna HigsonFfynhonnell y llun, Anna Higson
Disgrifiad o’r llun,

Chris ac Anna Higson

Mae Chris ag Anna Higson wedi bod ag obsesiwn gyda Mecsico ers dyddiau eu plentyndod a rŵan mae'r ddau yn ceisio creu perthynas rhwng Cymru a'r wlad honno drwy fwyd a chelf.

Yn eu harddangosfa, Mexico, yn Oriel Carn Caernarfon bu'r brawd a chwaer sy'n byw ym Moduan ym Mhen Llŷn, yn dechrau ar daith i geisio creu pont ddiwylliannol rhwng y ddwy wlad.

Tan yn ddiweddar maen nhw wedi bod yn rhedeg bwyty Pontoon ym Mhwllheli sydd wedi ei ysbrydoli gan fwyd Mecsicanaidd. Maen nhw bellach yn rhedeg y busnes fel pop-yp a bu'r ddau yng Ngwŷl Fwyd Caernarfon ym mis Mai 2022 lle'r oedd y gwaith i'w weld a'r bwyd i'w flasu.

Gyda'r ddau yn artistiaid - Chris gyda'r brwsh ac Anna tu ôl i'r lens - a'r ddau yn ymddiddori ym mwyd Mecsico, roedd hi'n broses naturiol i gymysgu'r pethau maen nhw'n eu caru a'u harddangos yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, Anna Higson
Disgrifiad o’r llun,

El Chico Toro, Chris Higson

Obsesiwn

Anna: Chris oedd yn gyntaf. Roedd o yn obssessed efo hanes Mecsico. Roedd o'n darllen am yr Aztecs a phethau.

Chris: O'n i wedi gwirioni efo Mecsico yn hogyn ifanc. Mae hanes y wlad yn ddiddorol iawn - cefndir yr Aztecs a'r Mayans.

Pan roeddwn yn hogyn bach roedd y syniad yma o'r dreigiau a'r eagle warriors wedi aros yn fy meddwl!

Ffynhonnell y llun, Anna Higson
Disgrifiad o’r llun,

The Purple Marauder, Chris Higson

Trwy hyn nes i ddarganfod fod bwyd Mecsico yn bwysig iawn yn eu hanes nhw. Roedd o fel match made in heaven... o'n i yn barod yn obsessed gyda hanes y lle a roeddwn i wedi dysgu sut i wneud y bwyd.

Anna: Nath Chris gael y cynnig i wneud noson pop-yp yn Pwllheli am 'gwpwl o nosweithiau'. Ond nath o arwain ato fo yn coginio bob noson! Ar ôl dod yn ôl o'r brifysgol nes i ddechrau helpu fo.

Chris: Yn naturiol roedd o'n 90% wedi ei ysbrydoli gan Fecsico.

Ffynhonnell y llun, Anna Higson
Disgrifiad o’r llun,

Tacos madarch

O'n i jest eisiau gwneud bwyd Mecsicanaidd go iawn yng Nghymru a roedd gen i'r syniad neis 'ma o gael bwyty yng Nghymru wledig oedd yn gwneud bwyd Mecsicanaidd.

'Byw yn fy atgofion'

Chris: Rydan ni wedi bod i Mecsico deirgwaith rŵan er mwyn gwneud gwaith ymchwil. Trwy'r profiad mi wnaeth o ddod yn fwy o obsesiwn.

Daeth o i'r pwynt lle os doeddwn i ddim yn cwcio bwyd Mecsicanaidd, ro'n i yn paentio delweddau o'r lle.

Ffynhonnell y llun, Anna Higson

Mae'n teimlo fel dwi'n gallu byw yn fy atgofion o Fecsico. Mae o ychydig fel escape neu rhyw fyd ffantasi dwi'n gallu mynd iddo.

Anna: Nes i wneud gradd mewn Fashion Communication - sef edrych ar brandio, ffotograffiaeth, graffeg a phethau fel 'na.

Wedyn nes i wneud prosiect olaf fi ar thema Wandering neu Wander - pryd ti'n mynd i wahanol llefydd a jest yn wondro a gwmpas a tynnu lluniau.

Ffynhonnell y llun, Anna Higson

A dyna dwi 'di neud pan 'da ni 'di bod i Mecsico. Mynd rownd a tynnu lluniau o bethau gwahanol, o bobl, ac o sut mae'n teimlo yn y llefydd gwahanol.

Mae Mecsico jest yn edrych yn nyts - mae 'na graffeg anhygoel, lliwiau anhygoel. Dwi mewn dreamland pan dwi yna a jest yn tynnu llunia o bob dim.

Ffynhonnell y llun, Anna Higson

Chris: Weithiau mae fy ngwaith yn dod o foment sydd wedi aros yn fy mhen fel cymeriad nes i weld ar y stryd.

Mae'n teimlo fel dwi'n gallu byw yn fy atgofion o Fecsico. Mae o ychydig fel escape neu rhyw fyd ffantasi dwi'n gallu mynd iddo.

Ffynhonnell y llun, Chris Higson
Disgrifiad o’r llun,

The Overseer of Oaxaca

Anna: Maen nhw yn dod drosodd fel lluniau mewn ffilm. Dwi'n cael y syniad yn fy mhen fod rhywun am gerdded mewn i'r llun a ti'n meddwl am y characters a be' sydd yn mynd i ddigwydd a phethau fel 'na.

Chris: Dwi jest eisiau ail-greu elfennau o Fecsico dwi'n caru.

Ffynhonnell y llun, Anna Higson
Disgrifiad o’r llun,

O garnifal ym Mecsico

Cymru a Mecsico

Anna: Adeg locdown 2020 nes i ddechrau meddwl... mae 'na debygrwydd rhwng Mecsico a Chymru. Nes i grwydro o gwmpas pentrefi gwahanol o gwmpas Boduan lle dwi'n byw a cymryd lluniau.

Dwi yn obsessed efo'r carnifals yn Mecsico. Ges i'r syniad o greu alter-universe rhwng Mecsico a Chymru, rhwng y pentrefi gwahanol a meddwl - os fysa ni efo carnifal - pa fath o fasgiau a dillad a phethau fel 'na fysa ni yn defnyddio ar sail hanes?

Ffynhonnell y llun, Anna Higson
Disgrifiad o’r llun,

Syniadau am wisgoedd hynafol yn yr ardal

Chris: Roeddan ni eisiau creu'r perthynas yna rhwng Cymru a Mecsico...

Dwi'n gweld llawer o gymariaethau lle mae 'na lawer iawn o draddodiadau diwylliannol tebyg. Ond yr un peth 'swn i yn licio gweld yn digwydd mwy yma ydi mwy o ddathliadau o'r traddodiadau hyn yma o ran y chwedloniaeth.

Ffynhonnell y llun, Chris Higson
Disgrifiad o’r llun,

El Toro Grande, gan Chris Higson

Mae 'na garnifals yna o hyd a ti'n cael teimlo yr hanes pre-hispanic sydd yn y strydoedd yn cael eu hyrwyddo.

Faint o bobl yng Nghymru sydd yn gwybod am chwedlau lleol a pethau fel hanes y Paganiaid a'r Druids cyn Catholigiaeth a Christnogaeth?

'Creu sgwrs'

Anna: Mae o bach yn wahanol.. haha! 'Da ni efo arddangosfa yn Galeri, Caernarfon yn 2024 ond 'da ni isio mynd a fo i lefydd arall yng Nghymru a gobeithio i Fecsico hefyd.

Ffynhonnell y llun, Anna Higson

Fysa fo yn neis mynd a fo i Mecsico iddyn nhw gael gwbod mwy am Gymru achos os ti'n siarad efo nhw dim ond Gareth Bale maen nhw yn gwbod amdan!

Chris: Y syniad ydi, bob tro mae 'na arddangosfa gelf, fod bwyd hefyd yn rhan. Dwi'm yn teimlo fel fedra'i wahanu nhw.

Mae'n brosiect lle rydyn ni eisiau creu sgwrs rhwng Cymru a Mecsico a'r cynllun ydi creu arddangosfeydd ym Mecsico gan gymryd Cymru gyda ni yno a gweld y cymysgedd yma o ddiwylliannau.

Ffynhonnell y llun, Chris Higson
Disgrifiad o’r llun,

The Butcher of Quetzalan, gan Chris Higson

Hefyd o ddiddordeb: