CPD Caernarfon: 'Anoddach cystadlu bob blwyddyn'
- Cyhoeddwyd
Mae un o glybiau mwyaf y gogledd wedi lansio apêl am noddwyr a chymorth ariannol yn dilyn pryderon ei bod hi'n mynd yn anoddach cystadlu ym mhrif haen pêl-droed Cymru.
Wedi sicrhau dyrchafiad i'r Cymru Premier yn 2018, mae Caernarfon yn denu rhai o dorfeydd mwyaf y pyramid Cymreig.
Ond yn ôl cadeirydd y clwb, dydy'r incwm sy'n dod drwy'r giât ddim yn ddigon i gystadlu gyda rhai o'r timau mwyaf llwyddiannus a chefnog.
Er bod y mwyafrif o dimau'r gynghrair yn lled-broffesiynol, diolch i arian UEFA, gall y rhai mwyaf llwyddiannus hawlio cannoedd o filoedd o bunnoedd drwy gymhwyso ar gyfer y cystadlaethau Ewropeaidd.
O ganlyniad, mae'r clwb bellach wedi lansio apêl ar gyfer noddwyr, dolen allanol ac i bobl ddod ymlaen i ymuno â phwyllgor casglu arian, mewn ymgais i barhau i gystadlu gyda'r mawrion.
Arian Ewrop yn 'anferthol'
Mae pêl-droed Cymru yn mwynhau oes aur dros y blynyddoedd diwethaf wrth i dîm cenedlaethol y dynion gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.
Ond er yr holl gyffro yn sgil llwyddiant y tîm, mae pryderon cynyddol o fewn y gêm ddomestig - sy'n teimlo fel byd gwahanol i'r miliynau o bunnoedd sy'n cael ei wario ar haen uchaf y gêm.
Dywedodd Cadeirydd CPD Tref Caernarfon, Paul Evans, wrth Cymru Fyw: "Mae 'na fwy o arian yn dod i fewn i'r gynghrair, pobl busnes sy'n dod i fewn ac yn amlwg mae hyn yn gwneud petha'n anoddach.
"Mae ganddyn nhw fantais os oes gan y cadeirydd dipyn o arian, wrth gwrs, a be' 'da ni'n ffeindio wrth i amser fynd ymlaen ydi bod cyflogau'r chwaraewyr yn mynd yn uwch.
"Tydi budget ni heb godi ers dwy flynedd ond be' 'da ni'n gweld hefo'r dynion busnes yn dod i fewn ydi fod y cyflogau'n codi ac os mae'r clwb yna'n cyrraedd Ewrop yna mae'n gwneud gwahaniaeth hefyd.
"Mae'r arian mae nhw'n gael o chwarae'n Ewrop, hyd yn oed os ydyn nhw'n colli yn y rownd gyntaf, yn anferthol.
"I glwb fel ni, ac eraill sy'n dibynnu ar volunteers ac heb benefactor, mae'n rhaid ffeindio ffyrdd arall o godi arian ond bob blwyddyn mae'n mynd yn anoddach i ni a chlybiau yn yr un cwch â ni."
Mewn unrhyw dymor arall mae'n debyg y byddai Caernarfon yn paratoi am eu hymgyrch gyntaf erioed yng nghystadlaethau UEFA, wedi i'r clwb ddod yn fuddugol yng ngemau ail-gyfle y JD Cymru Premier.
Ond wedi i Uwchgynghrair Cymru ddisgyn i safle rhif 51 o ddetholion UEFA, mae nifer y safleoedd Ewropeaidd sydd ar gael wedi gostwng o bedwar i dri eleni.
O ganlyniad, yn hytrach na chwarae yng Nghyngres Europa a derbyn o leiaf £129,000 - a mwy os yn llwyddiannus - gwobr Caernarfon fydd lle yng Nghwpan Her yr Alban, ac isafswm o £5,500.
Yn hedfan y faner dros Gymru yn Ewrop eleni fydd y Seintiau Newydd, Y Bala a'r Drenewydd.
Er hyn, dywedodd Mr Evans: "Sa'n well ganddon ni wedi bod yn Ewrop ond da ni'n hapus i chwarae yn hon, mae'n beth positif iawn i'r clwb, chwaraewyr a chefnogwyr."
'Ddim isho cael ein gadael ar ôl'
Caernarfon oedd yn denu'r torfeydd cyfartalog uchaf ym mhrif adran Cymru yn nhymor 2021/22, sef 569.
Ond gyda'r niferoedd wedi syrthio rywfaint ers y tymor olaf a chwaraewyd cyn y pandemig, pwysleisiodd y cadeirydd bod costau eraill yn ogystal â thalu cyflogau'r chwaraewyr a staff yn unig.
"Mae sefyllfa ariannol y clwb yn dda iawn o gysidro be' sydd wedi digwydd drwy Covid a costau byw cynyddol, ond tydan ni ddim isho cael ein gadael ar ôl," ychwanegodd Mr Evans.
"Mae'n job anoddach bob blwyddyn am fod hi'n mynd yn job drytach i gadw'r tîm yn y gynghrair.
"Dwi'm isho neb feddwl fod problem ariannol yma, ond mae'n anoddach cadw yn competitive."
"Tydi arian y giât ddim digon, ond tydi o ddim just yn fater o gyflogau, ond rhedeg clwb dydd i ddydd heb ddyled, mae na gostau eraill.
"Mae na glybiau 'efo cae 3G a gallu'i logi allan, ond da ni ddim yn y sefyllfa yna am fod ni isho cadw'r Oval fel pitch gwair, a da ni'n teimlo fod o reit sbesial fel mae o.
"Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn trio'i gorau a mae isho cofio fod clybiau grass roots sydd dipyn waeth allan na ni yn stryglo, ac mae isho bod yn deg efo pawb.
"Tydi o ddim yn waith hawdd iddyn nhw gadw pawb yn hapus."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mai 2022
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd24 Mai 2021
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2021