Cymuned i ddathlu carreg filltir clwb pêl-droed o Wynedd

  • Cyhoeddwyd
Alex Philp
Disgrifiad o’r llun,

Y rheolwr, Alex Philp, yn trafod tactegau cyn gêm Mountain Rangers yn erbyn Llanystumdwy nos Fercher

Mae disgwyl torf sylweddol yn un o bentrefi Gwynedd brynhawn Sadwrn wrth i glwb pêl-droed cymunedol ddathlu canrif ers ei sefydlu.

Chwaraeodd clwb Mountain Rangers ei gêm gyntaf yn 1920, ac mae'n parhau i fod yn ganolbwynt i gymuned Rhosgadfan a'r cylch.

Ond er y bu'n rhaid gohirio'r dathliadau canmlwyddiant yn sgil y pandemig, mae disgwyl tyrfa fawr a sawl wyneb cyfarwydd ar gyfer ymweliad tîm o gyn-chwaraewyr CPD Tref Caernarfon.

Ffynhonnell y llun, Mountain Rangers
Disgrifiad o’r llun,

Un o dimau Mountain Rangers o'r 1990au

Mae'n debyg fod Rhosgadfan yn fwyaf adnabyddus fel man geni'r awdur Kate Roberts, gyda'i chartref, Cae'r Gors, dafliad carreg o'r clwb.

Bydd gwylwyr craff o'r rhaglen gomedi C'mon Midffîld hefyd yn ei adnabod, wedi i faes enwog y clwb wneud ymddangosiad yn y gyfres.

Ond ymysg yr enwogion fydd yn chwarae yno brynhawn Sadwrn fydd cyn-chwaraewr Torquay a thîm dan-21 Cymru, Nathan Craig, a phêl-droediwr sydd yr un mor adnabyddus am ei dalentau cerddorol, Yws Gwynedd.

Gyda thîm Caernarfon yn cael ei reoli gan Sean Eardley, bydd chwaraewyr eraill o gyfnod y clwb yn y Cymru Premier hefyd yn gwneud ymddangosiad, gan gynnwys Gareth Edwards, Rhys Roberts, Jamie Breese a Danny Brookwell.

Oddi ar y cae, bydd Dafydd Iwan hefyd yn canu 'Yma o Hyd' cyn y gêm, gyda chymorth plant o gymuned Rhosgadfan a Rhostryfan.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Wythnosau wedi canu Yma o Hyd cyn gem Cymru ac Awstria, bydd Dafydd Iwan yn ei pherfformio unwaith eto ar Gae Gors

Atgyfodi'r clwb

Ond tra mai dathliad bydd y gêm, mae hefyd yn gyfle i nodi ymdrech y gymuned wrth atgyfodi'r clwb yn dilyn sawl blwyddyn heb gicio pêl o gwbl.

Roedd y clwb wedi blasu llwyddiant yn y gorffennol wrth ennill Cwpan Alves yn 1980 ac yna Cynghrair Gwynedd yn ystod y 1990au.

Ond wedi i Mountain Rangers dynnu allan o Gynghrair Gwynedd yn 2012, segur oedd Cae Gors tan i bwyllgor o bobl leol benderfynu atgyfodi'r clwb.

Wedi sefydlu academi yn wreiddiol, a thîm merched am gyfnod, ail gychwynnwyd y tîm dynion yn 2019, sydd bellach yn chwarae ym mhumed haen y pyramid Cymreig.

Disgrifiad o’r llun,

Dylan Pritchard ydy cadeirydd CPD Mountain Rangers

Dywedodd cadeirydd presennol y clwb, Dylan Pritchard, wrth BBC Cymru Fyw: "Mae'n deg dweud nad ydy rhedeg clwb ar y lefel yma yn hawdd, ond 'da ni'n falch iawn i hefyd gael tri thîm ieuenctid o dan 14, 10 ac wyth oed.

"Lle bach ydy Rhosgadfan, does 'na ond rhyw 300 o dai yma, sydd reit ar ochr mynydd felly does 'na ddim byd wedyn!

"Ond 'da ni'n lwcus fod o'n gymuned mor agos, ac mae 'na lot o bobl yn falch fod y clwb dal yma."

Gobeithio am achlysur

Dywedodd rheolwr y clwb, Alex Philp: "Mae dydd Sadwrn am fod yn anferth i ni fel clwb, o'ddwn i'n arfer bod yn kit man gyda Caernarfon Town felly dwi'n 'nabod yr hogia i gyd.

"Yn ffodus mae 'na ddipyn o enwau mawr yn lleol am ddod, felly 'da ni'n gobeithio fydd hi'n achlysur grêt.

"Mae'n hwb nid yn unig i'r clwb ond i Rosgadfan hefyd, mae'n helpu i roi'r pentra' ar y map."

Ffynhonnell y llun, CPD Mountain Rangers
Disgrifiad o’r llun,

Carfan CPD Mountain Rangers yn y 60au cynnar

Ychwanegodd y rheolwr: "Mae 'na glwb cymdeithasol wedi'i glymu i'r clwb pêl-droed felly mae lot o'r gymuned yn mynd yno, ac wrth gwrs mae 'na dri tîm ieuenctid sy'n cynnwys lot o'r plant lleol.

"Efo cychwyn y clwb hogia lleol yn gweithio yn y chwareli oedd yn troi allan bob wythnos, mae 'na hanes mawr iawn i'r clwb ac mae'n beth braf fod ni o'r diwedd yn gallu dathlu hwnnw."

Mwynhau ydy'r peth pwysicaf

Yn dilyn buddugoliaeth ganol wythnos yn eu gêm gartref olaf o'r tymor, dywedodd Alex fod y tymor wedi bod yn un "fyny ac i lawr" o ran canlyniadau, er iddynt orffen yn ail yng Nghynghrair Môn yn nhymor 2019/20, a'i thorrwyd yn fyr oherwydd Covid.

Ond ychwanegodd fod y dyfodol yn edrych yn ddisglair gyda sawl chwaraewr ifanc wedi ymuno, ar ôl cynnal sesiynau agored i lenwi'r garfan.

Disgrifiad o’r llun,

Carfan bresennol clwb Mountain Rangers

"Mae 'na lot o hogia yn gadael ysgol ac os nad ydyn nhw'n cael eu cymryd i fewn gan dîm oedolion neu academi, mae nhw just yn stopio chwarae.

"Oddwn i'n gweld o'n gymaint o bechod, felly y bwriad ydy cynnal ail dîm a gobeithio creu mwy o gyfleoedd a chadw nhw o fewn y gêm, gan hefyd wneud yn siŵr fod eu hyfforddiant yn parhau.

"Ar ein lefel ni o bêl-droed, y mwynhad ydy'r peth pwysicaf ar ddiwedd y dydd."

Cynhelir y gêm rhwng CPD Mountain Rangers a Sêr Tref Caernarfon brynhawn Sadwrn, 30 Ebrill gyda'r gic gyntaf am 15:00. Mynediad £3 oedolion, £2 henoed a £1 i blant.

Pynciau cysylltiedig