Marwolaeth Lola James: Mam y ferch 2 oed a dyn yn pledio'n ddieuog

  • Cyhoeddwyd
Lola JamesFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Lola James yn yr ysbyty ar 21 Gorffennaf 2020

Mae dau berson wedi gwadu cyhuddiadau yn ymwneud â marwolaeth merch ddwy oed.

Plediodd Kyle Bevan, 30, yn ddieuog i lofruddio Lola James, tra bod mam y plentyn bach, Sinead James, 29, wedi pledio'n ddieuog i achosi neu ganiatáu ei marwolaeth.

Ymddangosodd y ddau o flaen y Barnwr Paul Thomas QC yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mercher.

Clywodd gwrandawiad blaenorol fod Lola wedi dioddef anaf "trychinebus" i'w phen yn ei chartref yn Hwlffordd yn 2020.

Cafodd yr heddlu eu galw yno ar 17 Gorffennaf y flwyddyn honno a bu farw Lola bedwar diwrnod yn ddiweddarach yn Ysbyty Plant Arch Noa, Caerdydd.

Dywedodd y Barnwr Thomas fod achos llys pedair wythnos yn debygol o gael ei gynnal y flwyddyn nesaf gerbron barnwr o'r Uchel Lys.

Cafodd Kyle Bevan, o Aberystwyth, ei gadw yn y ddalfa, tra bod Sinead James, o Neyland yn Sir Benfro, wedi'i rhyddhau ar fechnïaeth amodol.

Pynciau cysylltiedig