Newid 10 o ysgolion Sir Gâr i rai Cymraeg eu hiaith

  • Cyhoeddwyd
Plant yn chwaraeFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Y bwriad yw troi 10 o ysgolion y sir i fod yn rai lle fydd y Gymraeg yn brif iaith addysgol

Fe all 10 o ysgolion Sir Gâr newid i fod yn rhai Cymraeg eu hiaith fel rhan o strategaeth Llywodraeth Cymru.

Byddai'r newidiadau'n digwydd dros gyfnod o ddegawd, gyda phedair ysgol gynradd i newid o fod yn rhai dwyieithog neu sy'n cynnwys dwy ffrwd iaith o fewn y bum mlynedd gyntaf.

Dywedodd y cyngor y bydd yn gweithio gyda'r ysgolion, sydd heb eu henwi eto, yn ogystal â'r gymuned ehangach cyn cychwyn ar y broses ffurfiol o newid y cyfrwng addysg.

Mae'n rhaid i bob cyngor gyflwyno cynllun strategol addysg Gymraeg i ddatgan sut y bydd yn cyflawni canlyniadau a thargedau Llywodraeth Cymru.

Mae gweinidogion eisiau gweld system addysg a hyfforddiant sy'n ymateb i'r galw cynyddol am addysg Gymraeg.

Eu nod yw cynyddu'r nifer o bob oed sy'n gallu siarad Cymraeg gyda'u teuluoedd, yn y gwaith ac yn eu cymunedau.

Mae targed eisoes yn bodoli o filiwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050.

Trafodaethau 'sensitif'

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, sy'n dal y portffolio addysg, fod y cyngor yn benderfynol o roi cyfle iaith teg i bob plentyn, a bod trochi yn y Gymraeg tra'n ifanc yn bwysig iawn.

Dywedodd fod 57.5% o blant meithrin a 62.5% o blant dosbarth derbyn yn dysgu Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin, a bod y cyngor am weld y sefyllfa gref hon yn cael ei throsglwyddo i'r cyfnod sylfaen.

Disgrifiad o’r llun,

Glynog Davies ydy deilydd portffolio Addysg a Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Gaerfyrddin

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast dywedodd: "Dyma'r hewl yr ydym yn dymuno gweld ysgolion yn teithio arni, symud ymlaen yn ofalus er mwyn cyflwyno mwy o Gymraeg yn ein hysgolion.

"Y bwriad yw gweld cynnydd amlwg mewn 10 ysgol mewn 10 mlynedd... gweld yr hyn allwn wneud, newid y ddarpariaeth yn yr ysgol.

"Alla'i ddim ymhelaethu ar enwau'r ysgolion ond mi fyddwn fel adran yn adnabod 10 ysgol ry'n ni'n credu sy'n barod am y newid."

'Celwydd noeth'

Ychwanegodd byddai trafodaethau "sensitif" rhwng yr ysgolion a llywodraethwyr o flaen y newid, a'i ddisgrifiodd fel "taith ar y cyd".

Ond disgrifiodd "newyddion ffug" yn awgrymu na fyddai'r un ysgol Saesneg ei chyfrwng yn y sir yn dilyn y newidiadau fel "celwydd noeth".

"Nod Sir Gar yw gweld sir dwyieithog, yn bersonol fyswn wrth fy modd os fyddai pob plentyn sy'n gadael yr ysgol yn hyderus ddwyieithog."

Yn dilyn penderfyniad cabinet y sir i dderbyn y cynllun strategol Cymraeg mewn addysg diwygiedig ar gyfer 2022-32, bydd y ddogfen nawr yn cael ei hanfon at Lywodraeth Cymru i'w hystyried.

Pynciau cysylltiedig