Deddfau Cymreig ar gyfer 'dyfodol tecach a gwyrddach'

  • Cyhoeddwyd
Bagiau plastigFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Gallai bagiau plastig untro gael eu gwahardd o dan y ddeddfwriaeth

Bydd deddfau newydd arfaethedig i wahardd amrywiaeth o blastigau untro, gwella ansawdd aer a diwygio cymorth amaethyddol yn cael eu rhoi gerbron y Senedd dros y flwyddyn nesaf, yn ôl Prif Weinidog Cymru.

Bydd biliau hefyd ar ddiogelwch tomenni glo ac i symleiddio'r broses ar gyfer cytuno ar brosiectau seilwaith mawr.

Dywedodd Mark Drakeford fod gan y cynlluniau "uchelgeisiol... ffocws clir ar ddyfodol cryfach, tecach a gwyrddach Cymru".

Beirniadodd y Ceidwadwyr gynllun i ehangu'r Senedd.

'Rhuthro'

Dywedodd arweinydd y Torïaid yn Senedd Cymru, Andrew RT Davies, fod "rhuthro" cynigion i godi nifer gwleidyddion Bae Caerdydd o 60 i 96 "yn dangos mor allan o gysylltiad yw gweinidogion Llafur".

Wrth groesawu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar y cyfan, dywedodd arweinydd Plaid Cymru Adam Price ei fod yn "edrych yn denau iawn o'i gymharu â'r rhaglenni deddfwriaethol a welwn yn yr Alban".

Cafodd y cynlluniau i ddiwygio'r Senedd, sydd hefyd yn newid y system bleidleisio ar gyfer etholiadau'r Senedd, eu datgelu gan Mr Drakeford a Mr Price ym mis Mai ac fe'u cefnogwyd gan gynhadledd arbennig Llafur Cymru y penwythnos diwethaf.

Yn ystod trydedd flwyddyn Llywodraeth Cymru a etholwyd ym mis Mai 2021, bydd bil i ailwampio'r diwydiant bysiau a allai yn y pen draw arwain at un rhwydwaith i fysiau ac un system docynnau ledled Cymru.

Bydd deddfwriaeth, meddai gweinidogion, i wella'r ffordd y codir y dreth gyngor i'w gwneud yn decach, hefyd yn cael ei chyflwyno'r flwyddyn honno.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mark Drakeford mai'r nod yw gwella bywydau pawb yng Nghymru

Cyfreithiau newydd arfaethedig ar gyfer y flwyddyn i ddod

  • Bil ar Blastigau Untro a fydd yn gwahardd neu'n cyfyngu ar werthu eitemau sy'n cael eu taflu fel sbwriel yn aml, fel gwellt a chytleri plastig

  • Bil Aer Glân i gyflwyno targedau a rheoliadau "uchelgeisiol" i leihau allyriadau a gwella ansawdd aer

  • Bil Amaeth i ddiwygio cymorth i amaethyddiaeth Cymru, gan "ganolbwyntio ar gynhyrchu bwyd cynaliadwy a gwobrwyo ffermwyr sy'n cymryd camau i ddiogelu'r amgylchedd"

  • Bil ar Gydsynio Seilwaith i "symleiddio'r broses o gytuno ar brosiectau seilwaith mawr, gan roi mwy o sicrwydd i gymunedau a datblygwyr"

  • Bil ar Ddiogelwch Tomenni Glo i wella'r rheolaeth ar domenni glo nas defnyddir, "gan ddiogelu cymunedau sy'n byw yng nghysgod y tomenni hyn, wrth i'r risg o niwed sy'n gysylltiedig â'r tywydd gynyddu iddynt".

Ychwanegodd y prif weinidog: "Mae gennym agenda ddeddfwriaethol lawn o'n blaenau wrth inni osod y sylfeini tuag at y Gymru yr ydym am ei gweld.

"Er mwyn cyflawni hyn byddwn yn parhau i weithio ar draws y Siambr i sicrhau bod ein deddfwriaeth y gorau y gall fod a'i bod yn gwella bywydau pobl Cymru gyfan."

Pynciau cysylltiedig