Rhoi hawl i gynghorau reoli niferoedd ail gartrefi

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

'Hen bryd' ymateb i'r argyfwng ail dai

Bydd gan gynghorau Cymru y pŵer i reoli niferoedd ail gartrefi a thai gwyliau yn sgil cynlluniau newydd gan y llywodraeth.

Mae strategaeth drwyddedu ar gyfer pobl sydd eisiau rhedeg tai gwyliau byr-dymor hefyd ar y gweill.

Cafodd y cynllun ei gyhoeddi gan y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ac arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, fel rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng y blaid â Llafur Cymru.

Ond mae un grŵp sy'n cynrychioli'r sector twristiaeth wedi dweud bod y cyhoeddiad yn ergyd arall i'r diwydiant.

Mae'r llywodraeth yn dweud y bydd newidiadau i reolau cynllunio yn cael eu cyflwyno cyn diwedd yr haf.

Fe ddywedon hefyd y byddan nhw yn cyflwyno tri dosbarth newydd o eiddo yn y system gynllunio, sef: prif gartref, ail dŷ a llety gwyliau byr-dymor.

Bydd awdurdodau lleol, "lle bo tystiolaeth", wedyn yn gallu cyflwyno addasiadau i'r systemau cynllunio i'w gwneud yn ofynnol i gael caniatâd cynllunio i newid defnydd tŷ o naill ddosbarth i'r llall.

Mae awdurdodau lleol eisoes wedi derbyn yr hawl i gynyddu treth cyngor ar ail gartrefi hyd at 300% o'r flwyddyn nesaf.

Drakeford/Price
Disgrifiad o’r llun,

Daw'r cynllun fel rhan o gytundeb cydweithio rhwng Llafur Cymru a Phlaid Cymru

Dywedodd Mr Drakeford bod twristiaeth yn "allweddol" i economi Cymru ond bod cael "gormod" o lety gwyliau ac ail dai sy'n wag yn ystod rhan helaeth y flwyddyn "ddim yn creu cymunedau lleol iach".

Ychwanegodd bod hynny yn "prisio pobl allan o'u marchnadoedd tai lleol".

Dan y system newydd, bydd awdurdodau lleol yn "gallu penderfynu gosod cyfyngiadau", dywedodd Mr Price.

Ychwanegodd bod "cynnydd aruthrol" wedi bod mewn tai gwyliau ac y bydd y strategaeth drwyddedu yn "helpu i reoli'r system dai gan ei gwneud hi'n decach i ddarparwyr llety twristiaeth".

Pistyll
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth pobl ymgasglu mewn gwahanol bentrefi ym Mhen Llŷn yn 2021 er mwyn tynnu sylw at broblem ail dai

Fe gofnodwyd bod 24,873 o ail dai wedi eu cofrestru yng Nghymru ar ddechrau 2021.

Bydd gwaith hefyd yn dechrau ar system fydd yn caniatáu cynghorau i osod treth tir uwch ar bryniant ail gartrefi a llety gwyliau.

Fel rhan o'r ymdrech i "helpu pobl leol" i brynu tai, dywedodd y prif weinidog bod y llywodraeth yn "ymchwilio i'r posibilrwydd" o ail-gyflwyno morgeisi awdurdod lleol, yn enwedig ar gyfer pobl sy'n prynu am y tro cyntaf.

Dywedodd Mr Drakeford: "Yn yr argyfwng costau byw hwn, byddai cefnogaeth gan yr awdurdod lleol yn helpu pobl i gael mynediad i forgeisi gyda blaen-daliadau llai."

Ann Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ann Williams yn dweud bod ganddi teulu sy'n ei chael yn anodd dod o hyd i gartref

Wrth i BBC Cymru holi pobl yn nhref Pwllheli, dywedodd Ann Williams bod aelodau o'i theulu'n ei chael yn anodd i ddod o hyd i dŷ.

"Mae o'n broblem mawr ofnadwy - dw i'n gwybod bod teulu methu cael tai o gwbl yma'n lleol, so mae o yn broblem mawr, a phoeni am y dyfodol hefyd i blant," meddai.

Dywedodd bod angen mynd gam ymhellach i warchod cymunedau lleol.

"Dwi'n meddwl bod nhw angen 'neud mwy i ddweud y gwir i gefnogi yn lleol."

Louise Kemp
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen tai ar bobl ifanc yn ôl Louise Kemp sy'n byw ger Pwllheli

"Dwi'n cytuno efo nhw [y cynllun newydd] yn hollol, mae'n bwysig iawn i'r cymuned dwi'n meddwl," dywedodd Louise Kemp sy'n byw ger Pwllheli.

"Dydyn nhw [pobl ifanc] ddim yn medru fforddio y tai - dyw hi ddim yn iawn."

'Ergyd arall i dwristiaeth'

Ond, mewn ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd Suzy Davies, Cadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru, bod angen i'r llywodraeth gydnabod cymaint y mae "busnesau twristiaeth go iawn" yn cyfrannu i gymunedau.

"Mae busnesau llety gwyliau'n cael eu rhedeg yn broffesiynol, yn aml gan berchnogion lleol sy'n cyflogi pobl leol, yn darparu cyfleoedd i fusnesau lleol ac yn talu premiwm busnes ar gyfer pethau fel casglu sbwriel," dywedodd.

"Fodd bynnag, ar draws Cymru gyfan, maen nhw'n barod wedi'u dal gan bolisi Llywodraeth Cymru i reoli'r broblem o gynnydd mewn ail gartrefi mewn rhai cymunedau penodol."

Ychwanegodd bod y diwydiant twristiaeth yng Nghymru yr un mor awyddus â'r llywodraeth a Phlaid Cymru i weld economi lwyddiannus ond bod pob cyhoeddiad yn "dod fel ergyd i hyder y diwydiant" ac nad yw eu "profiad, arbenigedd a bywoliaeth" yn cael unrhyw sylw.

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, Sam Rowlands, bod "cyfleoedd a chyfrifoldeb" i awdurdodau lleol i'w groesawu ond bod "pryder" hefyd am gyllido.