'Ymddiswyddwch' medd grŵp o weinidogion cabinet i Boris Johnson

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Beth nesaf i'r prif weinidog, Boris Johnson?

Roedd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart ymhlith grŵp o weinidogion cabinet sydd wedi dweud wrth y Prif Weinidog Boris Johnson i ymddiswyddo, mae'r BBC yn deall.

Roedd hynny cyn i Mr Hart ymddiswyddo o'i rôl yn ddiweddarach nos Fercher.

Y gred yw bod Nadhim Zahawi, a dderbyniodd rôl y canghellor ddydd Mawrth ar ôl i Rishi Sunak ymddiswyddo, ymhlith y ddirprwyaeth hefyd.

Mae Golygydd Gwleidyddol y BBC hefyd yn dweud bod yr Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel - sydd wedi bod yn gefnogol o Mr Johnson - wedi dweud wrth y Prif Weinidog i ymddiswyddo.

Ond y gred yw bod Mr Johnson wedi gwrthod y galwadau, a hynny ar ôl addewid i barhau yn y swydd yn gynharach yn y dydd.

Mae'r BBC yn deall bod y grŵp hefyd yn cynnwys Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, Brandon Lewis a'r Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Grant Shapps.

Yn gynharach dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru bod cefnogaeth i'r prif weinidog yn fwyfwy "tenau".

Nos Fercher, James Davies oedd y trydydd AS Ceidwadol o Gymru i ymddiswyddo o'r llywodraeth.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Elliw Gwawr

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Elliw Gwawr

Yn y cyfamser, mae Boris Johnson wedi diswyddo Michael Gove, yr Ysgrifennydd Tai a chyn-ymgeisydd am yr arweinyddiaeth, a hynny ar ôl iddo alw ar y prif weinidog i roi'r gorau iddi.

Fe alwodd yr Ysgrifennydd Busnes, Kwasi Kwarteng, i'r prif weinidog ymddiswyddo hefyd.

Dywedodd Mr Hart wrth Rif 10 ddydd Mawrth bod y "gêm drosodd" i'r prif weinidog, ond ni ddylai fod yn rhaid i'r diwedd ddod oherwydd ymddiswyddiadau gweinidogol.

Mae rhai aelodau o'r cabinet, gan gynnwys Jacob Rees-Mogg, yn dal i ddweud eu bod yn cefnogi Mr Johnson.

Disgrifiad,

Dywedodd Liz Saville Roberts o Blaid Cymru bod etholwyr yn ddibynnol ar y Ceidwadwyr i "dyfu asgwrn cefn"

Ar hyn o bryd mae'r grŵp yn mynd at y prif weinidog i ddweud wrtho fod ei amser wrth y llyw ar ben, nid eu bod nhw'n ymddiswyddo.

Mae un o bob pump AS sydd â swyddi llywodraeth wedi rhoi'r gorau iddi ers dydd Mawrth.

Ddydd Mawrth, fe ymddiswyddodd y Canghellor Rishi Sunak ac Ysgrifennydd Iechyd Lloegr, Sajid Javid o gabinet Boris Johnson.

Fe gamodd y ddau i lawr mewn ymateb i'r ffordd wnaeth Boris Johnson ymdrin â honiadau o gamymddwyn yn erbyn Chris Pincher, cyn-Ddirprwy Brif Chwip y Ceidwadwyr.

Disgrifiad,

'Dyddiau neu oriau' ar ôl i Boris Johnson, medd Elliw Gwawr

Brynhawn Mercher, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru, Andrew RT Davies, "dwi'n meddwl ein bod ni ar fin gweld y diwedd nawr ac mae'n fater o amser oherwydd yn amlwg mae'r mwyafrif seneddol yna wedi diflannu".

Dywedodd Mr Davies wrth y BBC ei bod hi'n "amser i'r prif weinidog fyfyrio ar ei sefyllfa a chaniatáu i rywun arall ymgymryd â'r fantell honno i gyflawni maniffesto'r Ceidwadwyr".

Yn gynharach yn y dydd, roedd Mr Davies wedi cydnabod bod cefnogaeth i'r prif weinidog ymhlith ASau Ceidwadol yn edrych yn fwyfwy "tenau".

Mae Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford wedi galw am etholiad cyffredinol i benderfynu pa blaid wleidyddol ddylai feddiannu Stryd Downing.

"Gadewch i bobl y Deyrnas Unedig benderfynu a yw hon yn llywodraeth y maen nhw am ei gweld yn parhau neu, fel dwi'n credu y bydden nhw eisiau, i weld dechrau newydd," meddai.