Gŵyl LezDiff yn rhoi llwyfan arbennig i ffilmiau lesbiaidd

  • Cyhoeddwyd
drag King and QueenFfynhonnell y llun, Lezdiff
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r brenin a'r frenhines drag, Adam All ac Apple Derrieres, yn cyflwyno cabaret fel rhan o'r ŵyl ar nos Sul 10 Gorffennaf

"Gallwn ni barhau i siarad am y peth, a gallwn ni gwyno, ond os nad ni, pwy?"

Mae grŵp o fenywod oedd wedi blino ar beidio gweld cynrychiolaeth deg o straeon a gwaith menywod LHDT+ mewn gwyliau ffilm wedi penderfynu mynd ati i drefnu eu gŵyl ffilmiau lesbiaidd eu hunain yng Nghaerdydd, ysgrifenna Bethan Jones-Arthur.

Mae gŵyl ffilm a chelfyddydau lesbiaidd LezDiff, sef digwyddiad wedi'i sefydlu i 'gynrychioli, annog, addysgu, cynnwys ac adlonni', yn digwydd ar draws nifer o leoliadau yn y brifddinas rhwng 8 - 10 Gorffennaf.

Yn ogystal â dangosiadau ffilm, mae'r ŵyl yn cynnwys cerddoriaeth, barddoniaeth ar lafar, paneli i drafod dyfodol lesbiaid mewn llenyddiaeth, perfformiad gan y brenin drag Adam All, a mwy.

Ffynhonnell y llun, Lezdiff
Disgrifiad o’r llun,

"Mae mwy ohonom ni allan o'r closet nag erioed, a mwy ohonom yn creu mwy o bethau nag erioed," meddai'r cadeirydd Rachel Dax

Dywedodd cadeirydd a rhaglennydd yr ŵyl, Rachel Dax: "Pryd bynnag rwy' wedi teithio o gwmpas y byd i wyliau fel gwneuthurwr ffilmiau, er bod lesbiaid yn cael eu cynnwys, dim ond ychydig o le oedd wedi'i gadw i ni.

"Mae ceisio ffitio pawb i mewn yn golygu mai dim ond cymaint o le sydd i lesbiaid - gallwch fynd i ŵyl ffilm LGBTQIA+ ac weithiau dim ond dwy ffilm â thema lesbiaidd fydd yna.

"Rhan ohono oedd gofyn a oes lle i gael gŵyl wedi'i neilltuo i ffilmiau a chelfyddydau lesbiaidd? Mae mwy ohonom ni allan o'r closet nag erioed, a mwy ohonom yn creu mwy o bethau nag erioed.

"Rydyn ni'n dweud bod croeso i bawb yn y gynulleidfa, ond gadewch i ni ei chysegru i'r hyn y mae lesbiaid, menywod deurywiol, menywod cwiyr yn ei wneud o ran allbwn. Nid oes cymaint o bethau ymlaen i lesbiaid yng Nghaerdydd mewn gwirionedd, felly nawr yw'r amser."

Os nad ni, pwy?

Mae trefnwyr yr ŵyl yn dweud ei bod yn gyffredin i weld cymeriadau lesbiaidd yn cael eu lladd yn fuan ar ôl iddynt ffurfio perthynas lesbiaidd gadarn mewn ffilmiau, a bydden nhw'n ffafrio gweld mwy o straeon gyda lesbiaid yn ffynnu yn hytrach na marw.

Hefyd, maen nhw'n codi'r pwynt bod ffilmiau lesbiaidd prif ffrwd yn tueddu i fod yn ddramâu cyfnod a gyfarwyddir gan ddynion, gyda menywod syth yn chwarae'r prif rannau, ac yn aml mae diffyg cywirdeb o ran cynrychiolaeth.

Disgrifiad,

"Mater o wneud, nid dweud oedd hi," meddai Nia Medi, un o drefnwyr yr ŵyl a oedd hefyd yn siarad ar raglen Dros Frecwast, Radio Cymru

Dywed Nia Medi, un o drefnwyr yr ŵyl: "Mater o wneud, nid dweud oedd hi. Am sbel hir, roeddwn i a Rachel a menywod eraill yn trafod yr angen yna o brofi 'lens' menywod LDHT. Mae'r lens yna'n wahanol i'r male gaze. A gallwn ni barhau i siarad am y peth, a gallwn ni gwyno, ond os nad ni, pwy?

"Dyna pam oedd rhaid i ni recriwtio menywod oedd gyda'r un weledigaeth, a rhoi pethau yn ei lle. Math o arbrawf yw eleni oherwydd sai'n credu ei fod wedi cael ei wneud o'r blaen yn y ddinas. Y gobaith yw cario ymlaen a'i gwneud yn gryfach yn y dyfodol."

Mae ffilmiau'r ŵyl wedi'u grwpio'n dair thema; straeon am gynrychiolaeth lesbiaidd hŷn ar y sgrin, ffilmiau byr gyda phrif gymeriadau ifanc oedolyn lesbiaidd/deurywiol/cwiyr, a ffilmiau am famau lesbiaidd/deurywiol/cwiyr a'u plant.

Gobeithio creu cymuned

Am gynrychiolaeth lesbiaid hŷn yn y rhaglen, dywedodd Rachel: "Cefais fy ysbrydoli gan y ffilmiau ar y rhaglen 'menywod hŷn' - Marguerite a Snapshot, ond hefyd gan fynd i ŵyl wahanol ychydig flynyddoedd yn ôl.

"Roedden nhw'n dangos rhaglen ddogfen o'r 90au am lesbiaid hŷn - dyna pa mor bell nôl roedd yn rhaid iddyn nhw fynd - ac roedd yr holl fenywod yma yn y gynulleidfa yn dweud 'dyma ni, mae angen mwy o gynrychiolaeth o'n bywydau'."

Ffynhonnell y llun, Lezdiff
Disgrifiad o’r llun,

Mae pethau'n well ond mae yn dal angen am fwy o blatfformau ar gyfer straeon cwiyr meddai'r animeiddiwr Efa Blosse-Mason

Mae ffilm Efa Blosse-Mason, Cwch Deilen, yn ffilm fer wedi'i hanimeiddio sy'n cael ei dangos ar ddydd Sadwrn.

Yn cynnwys gwaith llais gan Sara Gregory a Catrin Stewart, mae'r ffilm yn dilyn dwy fenyw ifanc sy'n trio llywio perthynas newydd.

Dywed yr awdur-gyfarwyddwr, Efa: "Mae pethau'n well i bobl LHDT+ nawr, ond dwi'n dal yn meddwl ei bod yn dal yn bwysig i gael mwy o blatfformau ar gyfer straeon cwiyr.

"Mae'n gyffrous hefyd i gael gŵyl yn sbesiffig i lesbiaid a menywod cwiyr - dydy hi ddim yn gyffredin iawn. Mae llawer o lefydd i ddynion hoyw ond mae'n gyffrous iawn i gael rhywbeth sbesiffig i ni. Dwi'n gobeithio bydd yn creu cymuned ac ysbrydoli pobl ifanc sydd eisiau creu ffilms, lle mae nhw'n gallu gweld eu ffilmiau nhw cael eu dangos, a dechrau sgyrsiau gyda phobl fel nhw."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig