Eryri: Cynllun bws yn annog pobl i adael y car gartref
- Cyhoeddwyd

Mae gwasanaeth bws Sherpa'r Wyddfa ar ei newydd wedd yn cael ei lansio ddydd Gwener.
Y nod yw annog mwy o bobl i adael y car gartref a dewis ffyrdd mwy ecogyfeillgar o deithio o amgylch Eryri.
Dywed y cynghorydd Dafydd Meurig, aelod cabinet Gwynedd â chyfrifoldeb am yr amgylchedd, fod yna bwyslais mawr wedi ei roi i anghenion bobl leol, nid ar ymwelwyr yn unig.
Yn y gorffennol mae parcio mewn llefydd answyddogol wedi achosi anhrefn yn ardal Llanberis ac mae'r cynllun Sherpa yn rhan o fesurau i fynd i'r afael â'r broblem.
Mae bws Sherpa'r Wyddfa yn teithio o amgylch troed mynydd uchaf Cymru gan greu cyswllt rhwng chwe phrif lwybr y mynydd, prif feysydd parcio a phentrefi'r ardal.

Mae parcio answyddogol wedi bod yn broblem yn yr ardal
"Un peth ydy cyfyngu ar y parcio yn y llefydd poblogaidd, [ond] mae eisiau cynnig rhyw fodel i bobl deithio," meddai'r cynghorydd Meurig ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru.
"Dyna sydd gennym ni fan hyn ydy darparu Sherpas fydd yn mynd o gwmpas yr Wyddfa ac i bentrefi cyfagos i gynnig ffordd arall i bobl gyrraedd."
"Dim jest ar gyfer ymwelwyr maen nhw [ond] ar gyfer pobl leol. Mae'r amserlenni wedi cael eu rhoi ati ei gilydd fel bod nhw'n gallu eu defnyddio yn lleol," meddai.
"Oherwydd mewn gwirionedd ma' eisiau meddwl am y bobl sydd yn byw yma nid yr ymwelwyr sydd yn dŵad.
"Mae'r rheiny yn gadael ar ddiwedd y dydd neu ar ddiwedd y tymor ond wrth gwrs 'de ni yn byw yma drwy'r amser, felly mae eisiau darpariaeth ar ein cyfer ni hefyd."

Mae disgwyl y bydd mwy o alw ar y gwasanaeth bysiau yn ardal yr Wyddfa ar ôl newidiadau diweddar i'r modd mae meysydd parcio yn gweithio.
Erbyn hyn mae'n rhaid archebu lle o flaen llaw, neu does dim modd parcio mewn meysydd parcio fel Pen-y-pass, meddai'r cynghorydd.
Ychwanegodd fod y trefniadau newydd hefyd yn cynnwys gwasanaethau bws o drefi cyfagos Bangor a Chaernarfon i gyrraedd yr ardal.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2021
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2020