Y straeon tu cefn i gerfluniau Cymru
- Cyhoeddwyd

Enwogion, anifeiliaid a chacen… mae 'na bob math o gerfluniau cyhoeddus i'w gweld yn yr awyr agored ar hyd a lled Cymru a nawr mae 'na gatalog ar-lein newydd yn eu nodi nhw.
Ac mae pori drwy'r rhestr, sy'n rhan o gofnod elusen ArtUK, dolen allanol o waith celf o bob math ym Mhrydain, yn datgelu stori'r cerfluniau - a hefyd rhan o stori Cymru.

Y potsiwr

Fe gafodd y ceflun yma ei greu gan yr artist Sidney Colwyn Foulkes
Dyma waith celf sy'n eich gwylio chi ymhell cyn i chi ei weld... Y Potsiwr sydd wedi ei leoli yn Afon Rheidiol.
Cafodd ei greu pan addaswyd tirwedd yr afon ger Felin Newydd, Ceredigion, yn 1962 ac mae'r gwaith yn adlewyrchu'r potsiwr, sydd wastad yn gwylio'r afon.
Mae'n un o sawl gwaith celf gyhoeddus anarferol yng Nghymru.
Yn Y Trallwng, mae'r Frenhines Elizabeth yn cael ei phortreadu nid gan gerflun ohoni hi fel person, ond yn hytrach rhywbeth sy'n symbol ohoni erbyn hyn.

Mae enwau noddwyr wedi eu nodi ar y gwaith celf
Mae'r bag llaw glas anferth, sydd tu allan i'r Lanfa, yn 1.74m o uchder ac wedi ei greu gan yr artist Andy Hancock i nodi jiwbili'r Frenhines yn 2002.
Ac yn Llandudno mae 'na gerflun o gacen, sy'n rhan o gyfres o gerfluniau i nodi cysylltiad y dref gyda Lewis Carroll a'i nofel Alice in Wonderland.

Peidiwch a chael eich temptio... cacen o bren yw hon
Tywysog Cymru?
Mae'n gyffredin i weld cerfluniau o'r teulu brenhinol ymhob gwlad, ond yng nghefn gwlad Cymru mae 'na un Tywysog yn sefyll allan.

Caerynwch Tywysog y Chweched, gan Gavin Fifield
Yn Llanfair-ym-muallt, tu draw i'r afon o safle'r Sioe, mae clamp o gerflun efydd i glamp o darw. Roedd Caerynwch Tywysog y Chweched yn Darw Du Cymreig lleol gafodd lwyddiant mewn nifer o sioeau amaethyddol.
Mae cerfluniau o anifeiliaid eraill o gwmpas hefyd, yn cynnwys Gelert y Ci, ym Meddgelert, a Billy y Morlo, ym Marc Fictoria, Caerdydd. Ond o holl greaduriaid byd natur, yn ôl rhestr ArtUK y barcud coch sydd fwyaf poblogaidd fel gwaith celf gyhoeddus yng Nghymru gyda phedwar o gwmpas y wlad.

Billy, y morlo fu'n byw ym Mharc Fictoria, Caerdydd, yn ystod dechrau'r ganrif diwethaf. Mae'r gwaith celf yma, gan David Petersen, yn chwarter canrif oed erbyn hyn
O ran cerfluniau i aelodau o deuluoedd brenhinol dynol, yn ôl rhestr ArtUK mae un i Harri V, dau i Harri VII, tri i Edward VII, un i Edward VIII, a dau i Victoria.
Mae hefyd un cerflun i'r Tywysog Llywelyn ap Gruffudd, un i'r Arglwydd Rhys, un i arweinydd y Celtiaid, Buddug, ac un i Owain Glyndŵr.
Ble mae'r merched?
Dim ond saith cerflun o fenywod penodol sydd ar y rhestr - ac mae dau o'r rheiny i'r Frenhines Fictoria.

Dau gerflun i'r Frenhines Victoria (yr un ar y chwith yn Wrecsam a'r un ar y dde yn Aberystwyth), a Buddug yn y canol, sydd i'w gweld yn Aberhonddu
Un sydd o'r Forwyn Fair, ac un yr un hefyd o'r awdur Elaine Morgan, yr addysgwr Betty Campbell, Santes Gwenffrewi ac arweinydd y Celtiaid, Buddug.
Byddai rhestru'r holl ddynion yn dipyn o faich - gan fod 81 cerflun o ddyn penodol, yn cynnwys ffigurau o'r byd diwydiannol, gwleidyddol a chwaraeon.
A'r un gyda'r nifer mwyaf o gerfluniau? David Lloyd George.

Lloyd George yng Nghaernarfon, Llanystumdwy a Chaerdydd
Mae un ohono tu allan i Amgueddfa Lloyd George, ger cartref cyn-Brif Weinidog Prydain yn Llanystumdwy, un arall yng Ngherddi Gorsedd, Caerdydd, a'r drydedd ar Y Maes, tu allan i Gastell Caernarfon.
Cerfluniau anferth

Cafodd Footplate ei ddadorchuddio yn 1999
Petai gweddill y corff yn rhan o'r droed yma, siawns mai dyma fyddai un o'r cerfluniau mwya' yn y byd…
Fe gafodd Footplate, gan yr artist Brian Fells, ei greu fel rhan o waith i wella'r ardal o gwmpas gorsaf drenau'r Fflint. Mae'n 3.5m o uchder, wedi ei leoli ger llwybr beicio, Llwybr Arfordir Cymru a'r rheilffordd ac mae'n cyfleu'r ffordd symlaf a hynaf o drafnidiaeth - cerdded.

Ond nid dyma'r gwaith celf cyhoeddus mwyaf yng Nghymru, ond yn hytrach Sultan y merlyn pwll glo - gwaith gan Mick Petts sydd wedi ei greu fel rhan o hen dirwedd pwll glo Parc Penallta, Ystrad Mynach, ger Caerffili. Dim siawns i hwn fod mewn amgueddfa - mae'n mesur 200m ar draws.

Sultan y Merlyn Pwll Glo
Hefyd o ddiddordeb: