'Mor bwysig i bobl cefn gwlad ofyn am help'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Mae Bethan Llwyd Jones am i bobl fod yn barod i wrando yn ogystal â rhannu

Ar ddechrau'r Sioe Fawr yn Llanelwedd, y gyntaf ers y pandemig, dywed teulu mab a fu farw drwy hunanladdiad ac elusennau amaethyddol ei bod hi mor bwysig i bobl cefn gwlad rannu baich a siarad yn agored am unrhyw broblemau.

Dangosodd arolwg diweddar gan elusen Farm Safety Foundation fod 88% o ffermwyr, 40 oed ac iau, yn credu mai problemau iechyd meddwl yw eu gelyn pennaf.

Wrth siarad â'r rhaglen Bwrw Golwg dywedodd Bethan Llwyd Jones o Chwilog, a gollodd fab drwy hunanladdiad, mai ei phrif neges yw "nad oes dim cywilydd gofyn am help" ac mae hi bellach yn helpu elusen amaethyddol Sefydliad DPJ.

Bu farw Twm Bryn, 21, yn Hydref 2021.

Wrth edrych yn ôl dywed Ms Jones ei bod yn credu bod Twm yn cuddio ei deimladau a'i fod yn "trio llenwi ei amser" er mwyn helpu ei iechyd meddwl.

"Mae eisiau codi ymwybyddiaeth bod yn rhaid siarad ond hefyd codi ymwybyddiaeth be' ydy salwch meddwl a sut mae rhywun fod i ymateb pan mae rhywun yn agored.

"Mae'r stigma yn dal i fodoli a does dim pwynt i ni annog pobl i siarad os nag oes anogaeth i'r glust hefyd," meddai.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Twm Bryn, 21, yn Hydref 2021

Fe all pethau fod yn anoddach yn aml yng nghefn gwlad, ychwanega Ms Jones.

"Roedd Twm yn hoffi beicio i lefel rasio - ond doedd dim digon o gyfleoedd yma iddo. Does dim cymaint o gyfleusterau yma chwaith o ran gwaith.

"Ond hefyd mae yna gystadlu o fewn y byd amaeth - pwy sy'n cael y pris gorau, pwy sy'n gallu 'neud pethau o ran cryfder - hyd yn oed o fewn cystadlaethau ffermwyr ifanc - tynnu rhaff, codi carreg..."

Ychwanegodd: "Mae'n anoddach i bobl ifanc. Maen nhw isio cydymffurfio â'r norm cymdeithasol ma' nhw'n feddwl sy'n bodoli. Maen nhw'n teimlo bod rhaid iddyn nhw ddilyn be' mae eu cyfoedion yn ei wneud. Ma' pobl ifanc yn byw yn y byd 'ma o drio cael eu derbyn.

"'Dan ni'n gymdeithas digon beirniadol rili - 'dan ni'n rhagfarnllyd er bo' ni'n ceisio peidio bod."

'Help wastad ar gael'

Ategu ei neges mae Catrin Griffiths, un o wirfoddolwyr elusen Tir Dewi, dolen allanol - elusen sy'n rhoi cefnogaeth i ffermwyr a'u teuluoedd mewn cyfnodau anodd.

"Mae mor bwysig rhannu baich a gorau'i gyd po gyntaf mae rhywun yn 'neud hynny.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr/Tir Dewi
Disgrifiad o’r llun,

"Gorau po gyntaf mae pobl yn gofyn am help," medd Catrin Griffiths o elusen Tir Dewi

"Yn aml ni'n sôn am unigolion cryf a dyw llawer ddim wedi arfer gofyn am help. Mae lot ohonon ni'n dueddol o gau lawr pan mae rhywbeth yn ein poeni ni yn hytrach na gofyn am gymorth - ond mae mor bwysig gofyn am y cymorth yna mewn da bryd ac mae'r cyfan yn gyfrinachol," meddai.

"Mae problemau meddyliol yn gallu dod o berthynas sydd wedi torri, profedigaeth, gwasgfa ariannol, trafferthion olyniaeth neu deuluol ac wrth gwrs ma' 'na faich ofnadwy o waith papur.

"Ma' un problem yn golygu bod mwy o straen mewn man arall - hynna wedyn yn golygu nad yw unigolyn yn gallu ymdopi â'r gwaith sydd gyda nhw'n ddyddiol ac mae'r cyfan yn effeithio ar iechyd meddwl ac yn achosi diffyg cwsg."

Ffynhonnell y llun, Tir Dewi
Disgrifiad o’r llun,

Mae elusen Tir Dewi yn cynnig cefnogaeth i ffermwyr a'u teuluoedd mewn cyfnodau heriol

Ychwanega Ms Griffiths nad oes ateb uniongyrchol ond bod elusen fel Tir Dewi yn gweithio gyda nifer o asiantaethau eraill sy'n gallu bod o gymorth.

"Be' ni'n ffindio'n aml yw mai'r unigolyn ei hun sy'n gwybod beth yw'r ateb... pan bod rhywun wedi dangos parodrwydd i rannu gofid yn gyfrinachol â rhywun dieithr mae'r ateb hwnnw yn dod yn gliriach.

"Yn aml mae rhywun yn dod i benderfyniad wrth drafod - ond be' sy'n bwysig yw bod rhywun yn gwybod bod help cyfrinachol wastad ar gael."

Nos Sul fe fydd 'Moliant y Maes', y gwasanaeth o foliant a chanu emynau, yn cael ei gynnal ac yn ei arwain eleni fe fydd y Parchedig Huw Dylan o Langwm.

'Cymdeithas y Sioe mor bwysig'

"Dwi'n meddwl bod y gymdeithas amaethyddol wedi colli'r Sioe yn fwy na neb," meddai Mr Dylan.

"Ma' ffermio yn gallu bod yn unig iawn ar adegau ac mae'r sioe wrth gwrs yn rhoi cyfle i bobl ddod at ei gilydd - nid yn unig i gymdeithasu, i gael sgwrs ac i gael hwyl ond mae hefyd yn gyfle lle i bobl rannu beichiau ei gilydd, rhannu problemau a chael cymorth efo unrhyw anawsterau a dwi'n meddwl bod hynny yn hynod bwysig."

Ffynhonnell y llun, Huw George
Disgrifiad o’r llun,

Y gynulleidfa yn ystod Moliant y Maes yn Sioe 2019

Ychwanegodd mai prif bwyslais ei neges nos Sul fydd dweud wrth aelodau y gymdeithas amaethyddol pa mor bwysig ydynt i bob agwedd o fywyd.

"Maent yn bwysig, nid yn unig i gefn gwlad, ond i Gymru gyfan," medd Mr Dylan.

"Maen nhw'n edrych ar ôl yr amgylchedd, mae nhw yn sylfaenol bwysig o ran cynnal diwylliant, cynnal y gymdeithas a chynnal yr economi yng nghefn gwlad."

Mae manylion am elusen Tir Dewi yma, dolen allanol a manylion am gymorth pellach ar wefan Action Line y BBC.

Gellir clywed mwy ar y stori hon yn rhifyn ddydd Sul, 17 Gorffennaf o Bwrw Golwg ac yna ar BBC Sounds.