Cyngor wedi gwario dros £400,000 ar ymadawiad cyn-Brif Weithredwr

  • Cyhoeddwyd
Ian WestleyFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Penfro

Mae Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Penfro wedi datgelu bod yr awdurdod wedi gwario dros £400,000, hyd yn hyn, ar gostau yn ymwneud ag ymadawiad y cyn-Brif Weithredwr, Ian Westley.

Fe adawodd Mr Westley yr awdurdod ym mis Tachwedd 2020 "trwy gytundeb" yn ôl y cyngor, a gyda thaliad o £95,000 oedd wedi ei gytuno gan yr arweinydd, David Simpson.

Mewn cyfarfod llawn o'r cyngor yn Hwlffordd ddydd Iau fe ofynnodd y Cynghorydd Jamie Adams am ddadansoddiad manwl o'r costau yn ymwneud ag ymadawiad Mr Westley.

Cadarnhaodd y Dirprwy Arweinydd, Paul Miller bod yr awdurdod wedi gwario dros £400,000 hyd yn hyn.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Cyngor Sir Penfro yn 2020 eu bod wedi dod i gytundeb gyda Mr Westley am ei ymadawiad

Ym mis Ionawr 2021 dywedodd Archwilio Cymru ei bod wedi dechrau ymchwiliad i ymadawiad Ian Westley o Gyngor Sir Penfro, a'r setliad ariannol gan yr awdurdod.

Gadawodd ei swydd fis Tachwedd 2020, gyda rhai cynghorwyr yn honni bod hynny oherwydd perthynas wael gydag aelodau'r cabinet.

Dywedodd Cyngor Sir Penfro ar y pryd eu bod wedi dod i gytundeb gyda Mr Westley dros adael.

Cafodd Mr Westley, 60, ei benodi'n brif weithredwr ym mis Gorffennaf 2015 ar ôl gweithio i'r cyngor mewn sawl rôl ers 2003.

Wrth gyhoeddi ei ymadawiad yn 2020, dywedodd bod "yr amser yn iawn i symud ymlaen a gadael i arweinyddiaeth newydd adeiladu ar y seiliau cadarn sydd mewn lle".

Y costau

Wrth nodi'r costau cysylltiedig ag ymadawiad y cyn-Brif Weithredwr ddydd Iau dywedodd y Dirprwy Arweinydd nad oedd hi'n bosib rhoi ffigwr ar gostau mewnol ond bod y canlynol wedi'i wario:

  • £5,280 ar gyngor allanol yn ymwneud ag adnoddau dynol a negodi;

  • £157,310 ar gyngor cyfreithiol allanol;

  • £38,122 ar ymgynghorwyr i'r broses;

  • £67,000 i Archwilio Cymru mewn costau ychwanegol;

  • £95,000 i Ian Westley fel rhan o'r cytundeb i adael ei swydd; a

  • £39,500 ar y broses recriwtio i gyflogi uwch swyddogion newydd.

Ym mis Ionawr eleni fe ddaeth Archwilio Cymru i'r casgliad bod y penderfyniad i roi taliad i Mr Westley yn "groes i'r gyfraith".

Pynciau cysylltiedig