Cymru gyfan i ddod dan rybudd ambr tywydd poeth

  • Cyhoeddwyd
Dau'n torheulo

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi ail rybudd ambr am dywydd poeth eithriadol ddechrau wythnos nesaf, sy'n golygu bod angen i bobl gymryd pwyll ymhob rhan o Gymru.

Roedd yr arbenigwyr eisoes wedi rhybuddio bod disgwyl tridiau o dymereddau uchel yn siroedd dwyreiniol Cymru - rhwng 00:00 bore Sul a 23:59 nos Fawrth.

Mae'r rhybudd hwnnw'n parhau ond mae'r rhybudd ambr diweddaraf hefyd yn effeithio ar weddill Cymru.

Bydd hwnnw'n dod i rym am 00:00 fore Llun ac yn para tan 23:59 nos Fawrth.

Mae Trafnidiaeth Cymru'n cynghori cwsmeriaid ond i deithio os yw'n hanfodol, ac i beidio teithio o gwbl yn ardal y gororau ddydd Llun a dydd Mawrth.

Mae Network Rail wedi annog pobl ond i deithio os oes wir angen yn ystod y cyfnod poethaf ddydd Llun.

Ffynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r map yn dangos ardaloedd y ddau rybudd ambr yng Nghymru - a rhybudd coch yn rhannau o Loegr

Mae disgwyl i'r tymereddau gyrraedd y 30au uchel mewn rhannau o Gymru, ac fe fydd hi'n boeth gyda'r nos hefyd.

Am y tro cyntaf erioed, dan drefn a ddaeth i rym y llynedd, mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd coch mewn rhannau o Loegr, yn cynnwys Llundain a Birmingham.

Mae Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) hefyd wedi codi'r rhybudd iechyd o Lefel 3 i Lefel 4, sy'n gyfystyr ag "argyfwng cenedlaethol".

Mae Lefel 4 yn rhybuddio y gallai salwch a marwolaeth daro unigolion iach a ffit, ac nid pobl o fewn grwpiau risg uchel yn unig.

Mae yna gyngor hefyd gan gynrychiolwyr milfeddygon i bobl gymryd gofal arbennig o'u hanifeiliaid yn ystod y tywydd poeth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl yn gallu dioddef trawiad haul wrth i dymheredd y corff godi uwchben 40 selsiws

Bydd gofyn i bawb geisio amddiffyn eu hunain rhag llosg haul, lludded gwres a thrawiad gwres, meddai'r Swyddfa Dywydd.

Mae symptomau treulio gormod o amser yn y gwres yn cynnwys dadhydradu, cyfog a blinder, ac i osgoi salwch fe allai pobl orfod addasu eu trefniadau arferol.

Cyhoeddodd Llyfrgelloedd Caerdydd ddydd Gwener bod digwyddiadau tu allan i'w hadeiladau ddydd Llun a dydd Mawrth wedi eu canslo fel cam rhagofal.

Dywedodd Morgan Evans, uwch achubwr bywyd ym Mhort Einon, ym Mhenrhyn Gŵyr: "Rydym yn gofyn i bobl fod yn ymwybodol o'r hawl achos mae'n mynd i fod yn eitha' twym.

"Rydym yn gofyn i bobl wisgo crys-t a het, a rhoi digon o eli haul. Rydym yn argymell nofio ar draethau gydag achubwyr bywyd fel eich bod o hyd yn ddiogel."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n fwy diogel i nofio ar draethau gydag achubwyr bywyd yn ystod y tywydd poeth, medd Morgan Evans o'r RNLI

Effaith gwres ar reilffyrdd

Fe allai'r sefyllfa amharu ar gynlluniau teithwyr ac ar offer a systemau sy'n sensitif i'r gwres, gan arwain at doriadau trydan lleol a cholli gwasanaethau.

Yn sgil y rhybuddion, mae Trafnidiaeth Cymru'n cynghori cwsmeriaid i beidio â theithio ar y trenau yn yr ardaloedd ble mae rhybudd coch mewn grym, ac ond i wneud teithiau hanfodol yn ardaloedd y rhybuddion oren.

Maen nhw'n rhagweld trafferthion yn bennaf yn ardal y gororau.

Mae Network Rail wedi annog pobl ond i deithio os oes wir angen yn ystod y cyfnod poethaf ddydd Llun.

Mae cwmni GWR yn rhagweld penwythnos prysur yn sgil y gwres ond yn rhybuddio eisoes y bydd rhai teithiau trên yn cymryd mwy o amser.

Wrth i'r tymereddau godi ddydd Sul a dechrau'r wythnos nesaf, maen nhw'n dweud y bydd angen "mwy o gyfyngiadau cyflymder, a fydd yn anffodus yn golygu bydd rhai gwasanaethau'n cael eu canslo neu eu dargyfeirio".

Mae'r cwmni'n annog teithwyr i gymryd camau "synhwyrol" fel dod â digon o ddŵr gyda nhw, caniatáu mwy o amser na'r arfer ar gyfer eu siwrne a gwirio'r manylion diweddaraf cyn gadael am yr orsaf reilffordd.

Mae Network Rail hefyd yn disgwyl trafferthion, er gwaethaf "paratoadau gydol y flwyddyn" ar gyfer tywydd eithafol o'r fath.

Dywed y cwmni bod tymereddau uchel iawn yn "gallu achosi i'r cledrau metel chwyddo", a bod peirianwyr "wedi bod yn brysur yn nodi rhannau o'r rheilffyrdd â'r risg fwyaf".

Mae'r mesurau i geisio lliniaru ar drafferthion posib yn cynnwys peintio'r cledrau yn wyn a'u tensiynu i'w cadw'n syth.

Mae'r gwasanaethau tân yn apelio ar y cyhoedd i fod yn fwy gwyliadwrus na'r arfer o ran y risg o achosi tanau gwair, i gymryd pwyll arbennig os yn ystyried cynnal barbeciw ac i ailgylchu sbwriel mewn canolfan os yn ystyried ei losgi.

Pynciau cysylltiedig