Aduniad emosiynol ffrindiau ysgol ar ôl ffoi o Wcráin

  • Cyhoeddwyd
Nataliia ac Yuliia
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nataliia ac Yuliia wedi bod yn ffrindiau agos ers yn blant bach

Mae dwy ffrind ysgol o Wcráin wedi cael aduniad emosiynol ym Maes Awyr Manceinion.

Roedd Nataliia, sy'n byw yng Nghaernarfon gyda'i gŵr Dewi a'u plant, wedi bod yn gweithio'n ddiflino ers wythnosau i helpu ei ffrind Yuliia gyda'r gwaith papur er mwyn iddi gael caniatâd i ddod i fyw ym Mhrydain.

Mae Newyddion S4C wedi bod yn dilyn hanes Yuliia a'i merched sy'n dair, chwech a 12 oed, ers iddyn nhw ffoi o'r rhyfel yn Mariupol ddechrau fis Ebrill.

Wedi taith hunllefus, fe lwyddon nhw i groesi'r ffin i Wlad Pwyl ac erbyn hyn, maen nhw wedi cyrraedd Cymru.

Ffynhonnell y llun, Yuliia
Disgrifiad o’r llun,

Ychydig ddyddiau ar ôl i'r rhyfel ddechrau mi aeth teulu Yuliia i fyw mewn byncer gyda degau o bobl eraill

Roedd Nataliia yn ysu i gael Yuliia a'i merched ddod i fyw i ogledd Cymru, ond gan eu bod nhw eisoes yn noddi ei mam a'i llys-dad dan y cynllun Cartrefi i Wcráin, doedd dim lle i bawb yn y tŷ.

Ers wythnosau mae Nataliia wedi bod yn trio dod o hyd i noddwr i Yuliia yng nghyffiniau Caernarfon fel ei bod hi'n gallu bod yn gefn iddi.

Gyda'u dinas dan warchae, fe adawodd Yuliia a'i thair merch Wcráin, heb ei gŵr a'u tad, ym mis Ebrill.

Ychydig ddyddiau ar ôl i'r rhyfel ddechrau mi aeth y teulu i fyw mewn byncer gyda degau o bobl eraill.

Wrth iddyn nhw gysgodi dan ddaear, mi gafodd eu fflat ei daro gan daflegrau.

Ar y pryd, eglurodd Yuliia fod ganddi ddau ddewis: "Dianc, neu'r dewis arall oedd aros yn Mariupol a marw."

Fe lwyddodd y teulu i groesi i Wlad Pwyl ond buon nhw'n byw yno am ddeufis cyn cael cadarnhad rhyw dair wythnos yn ôl fod cwpl o Fangor ar gael i roi llety iddynt.

Noddfa ym Mangor

Disgrifiad o’r llun,

Mae Yuliia a'i merched wedi cael llety ym Mangor ar ôl ffoi o'r rhyfel yn Wcráin

Mae Nia ac Owen yn falch iawn eu bod nhw yma.

Pan ofynnwyd i Nia, be wnaeth eu hysgogi fel cwpl i gynnig cartref i'r teulu, ei hateb yn syml oedd "Pam lai?"

Cymryd pethau yn ara' deg fydd y ddau deulu, gyda Nia yn dweud mai ei phrif obaith dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf ydy y bydd y teulu "yn teimlo'n saff ac y bydd y genod yn cael bod yn blant eto".

Wrth drefnu i gartrefu ffoaduriaid, mae yna gryn waith llenwi ffurflenni o'r ddwy ochr, ac mae Nia yn rhoi pob clod i ffrindiau Yuliia yng Nghaernarfon am eu help.

Dywedodd nad oedd angen iddi hi ysgwyddo fawr ddim o'r llwyth gweinyddol gan fod Nataliia "wedi gwneud yr holl waith swyddogol".

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r teulu wedi cael taith hir ac anodd i Gymru ers ffoi o Wcráin fis Ebrill

Mae'r teulu ym Mangor, fodd bynnag, wedi bod yn brysur yn cael pethau'n barod yn eu cartref gan drefnu'r ystafelloedd gwely a pharatoi digon o welyau i'r pedair.

Mae angen digon o bethau yn y tŷ i ddiddanu'r merched.

Dywedodd Nia ei bod wedi cadw rhai o drugareddau ei phlant ei hun yn ddiogel mewn bocsys dros y blynyddoedd ac wedi "dod â hen deganau'r plant i lawr".

"Mae pobl o'n cwmpas ni'n hael gyda'u hamser a'u rhoddion," ychwanegodd.

Ar y dechrau mae'r ddau deulu yn cyfaddef fod cyfathrebu yn mynd i fod yn her, ond mae Nia yn edrych ymlaen: "Google Translate amdani, llawer o ystumiau a digon o chwerthin gobeithio!"

Faint o ffoaduriaid sydd wedi cyrraedd Cymru?

Mae fisas ar gyfer 6,787 o ffoaduriaid Wcráin wedi eu cymeradwyo i ddod i Gymru.

Ond er hynny, llai na hanner - 2,979 - o'r rheiny sydd wedi cyrraedd yma.

Yn ôl ystadegau'r Swyddfa Gartref, mae Llywodraeth Cymru yn noddi 3,984 o ffoaduriaid, ond 1,087 yn unig o'r rheiny sydd wedi cyrraedd Cymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn anodd canfod pan nad ydy rhai ffoaduriaid wedi cyrraedd Cymru eto, ond eu bod yn amau fod ffactorau fel eu bod yn "disgwyl i weld os fydd y sefyllfa yn Wcráin yn gwella, arbed arian ar gyfer trefniadau teithio neu wedi gneud cais am sawl cynllun ar draws Ewrop".

"Mae ein canolfan gyswllt mewn trafodaethau cyson gyda'r rheiny sy'n dod i Gymru - gan wneud 20,000 o alwadau hyd yma - i ddarparu unrhyw gefnogaeth o fewn ein gallu," meddai llefarydd.

Dywedodd y Swyddfa Gartref mai dyma "un o'r cynlluniau fisa cyflymaf a mwyaf yn hanes y DU".

"Mae'r system yn gweld ceisiadau'n cael eu prosesu cyn gynted ag y maen nhw'n cael eu cyflwyno. Ar 14 Mehefin roedd dros 130,000 o fisas wedi'u rhoi i bobl o Wcráin."

Pynciau cysylltiedig