Darllen gwefusau: 'Mae 'mywyd i lot gwell'
- Cyhoeddwyd
Mae person byddar wedi ymddangos ar y rhaglen boblogaidd Love Island ar ITV2 am y tro cyntaf erioed gan roi sgwrs ynglŷn ag unigolion byddar ein cymdeithas o dan y chwyddwydr.
Yn dilyn hyn mae llawer o drafod wedi bod ar y rhaglen, sy'n denu 2.4 miliwn o wylwyr yn wythnosol, am "superpower" Tasha Ghouri i ddarllen gwefusau.
Bu Aled Hughes yn sgwrsio gydag Ifan Roberts sydd yn "giamstar," yng ngeiriau'r cyflwynydd, ar ddarllen gwefusau hefyd.
Daw Ifan o Gaernarfon ac mae'n gweithio fel peiriannydd i gwmni Rolls Royce ym Mryste. Fe gafodd ei eni yn fyddar ac un o ganlyniadau hynny ydi ei fod o wedi gorfod addasu i ddeall pobl drwy edrych ar symudiadau ceg.
"Dwi'n gallu darllen gwefus ac mae o yn helpu llwyth," meddai Ifan. "Dros y blynyddoedd dwi 'di dod yn dda yn gwneud o wrth glywed 'chydig bach a darllen gwefus. Dwi'n gallu rhoi'r ddau beth at ei gilydd a ma 'mywyd i lot gwell."
"Dw'i 'di dysgu sgiliau bach i wella a rŵan mae o yn berffaith. Dwi'n gallu darllen gwefus rhywun o ochr arall o'r stafell ac ochr arall o'r adeilad. Dwi'n clywed lot o gossips yn gwaith!"
'Addasu'
Ni wyddai rhieni Ifan ei fod yn fyddar nes oedd yn bedair oed.
"Pan ti'n blentyn bach a ddim yn ymateb a methu siarad dwyt ti methu deud wrth rywun bo chdi methu clywed nhw," meddai.
"Y broblem ydi mewn ardaloedd mewn Caernarfon does 'na ddim lot o bobl fyddar. Does 'na ddim lot o bobl oed fi yng Ngogledd Cymru sydd yn fyddar.
"Ges i help gan y bobl iawn wedyn a wnaeth bob dim newid."
Wrth iddo fynd yn hŷn mae Ifan wedi dod i'r arfer â'r heriau cymdeithasol o fod yn fyddar ac o ganlyniad mi ddysgodd ei hun sut i ddarllen gwefusau, a hynny heb unrhyw hyfforddiant.
"Roedd o i gyd yn naturiol, nes i 'rioed gael hyfforddiant i ddarllen gwefus. Dwi ddim yn gwbod os oedd 'na help yna ond ges i ddim yr help yna.
"Dwi wedi gorfod addasu i bobl. Dwi'n byw yn Bristol ac mae acen fan'ma mor anodd i'w ddallt. Weithiau yng Nghaerdydd dwi'n ffeindio hi'n anodd dallt yr acen ond dwi 'di dod i arfer rŵan ag efo digon o hyder i ddeud wrth rywun 'ti angen slofi lawr rŵan, ti angen siarad yn fwy clir. I helpu ni'n dau i gael sgwrs gall, mae'n rhaid i chdi slofi lawr'."
"Erbyn rŵan mae pawb yn hapus i wneud o. Mae o un o hogiau gwaith o'r Alban a dwi byth yn dallt o ond rŵan 'dan ni di dod i arfer siarad yn ara' bach ac mae o'n gweithio reit dda."
'Cymuned'
Pan nad yw'n creu car Rolls Royce mae'n chwarae pêl-droed i dîm Bristol Deaf FC.
"Nes i ymuno rhyw ddwy flynedd yno ôl ac o'n i 'di symud i le o'n i ddim yn 'nabod neb, i ddinas oedd mor fawr i gymharu â Chaernarfon.
"Wnaethon nhw ddod â fi mewn i'r gymuned a 'dan ni yn chwara' timau ar draws Prydain - mae o yn brofiad anhygoel. Wnaethon ni ennill cwpan yn Peterborough yn ddiweddar ac roedd o yn briliant."
Ac nid unig wrth chwarae daw darllen gwefusau yn ddefnyddiol, ond wrth wylio hefyd…
"Dwi'n gallu dallt be mae'r chwaraewyr yn deud weithiau, mae o'n hwyl."
'Agor y drysau'
Mae Ifan yn falch o weld fod person byddar rŵan yn llygad y cyhoedd ar blatfform mor boblogaidd â Love Island.
"Mae 'na lwyth o bobl yn gwylio. Y mwya' o bobl sy'n deall be 'dan ni'n mynd trwy a deall be di problemau ni a sut i wneud o yn haws i ni yr hawsa ydi o i bawb ar y diwedd," meddai.
"Mae'n bwysig oherwydd 'dan i'n cael y spotlight ac mae 'na fwy o bobl byddar yn meddwl, 'o dwi'n gallu gwneud be ma hi'n neud' a bydd pobl yn deall bod 'na fwy o bobl fyddar yn y byd sydd yn dalentog gan wybod dy fod yn gallu gwneud pethau fel na.
"Mae'n agor y drysau i bawb ac mae'n wych i weld be ma' hi'n gwneud a gobeithio bod pobl ifanc byddar yn meddwl, dwi'n gallu gwneud hyn."
Hefyd o ddiddordeb: