'Helo Osian, Elton sy' 'ma'
- Cyhoeddwyd
Mae'r taflwr morthwyl o Gaernarfon, Osian Dwyfor Jones, yn brysur yn gwneud y paratoadau terfynol ar gyfer Gemau'r Gymanwlad 2022 yn Birmingham.
Bydd y cyn-ddisgybl yn Ysgol Syr Hugh Owen yn taflu'r morthwyl ar ddydd Iau 4 Awst, ac yna'n gobeithio mynd ymlaen i'r rownd derfynol ar ddydd Sadwrn 6 Awst. Mae Osian hefyd yn gyd-gapten ar dîm athletau Cymru gyda Olivia Breen.
'Birmingham 2022: Cymru yn y Gemau': bob nos am 22:00 ar S4C yn ystod y gemau.
Y llynedd fe ddywedodd Osian ei fod yn aelod o'r gymuned LHDTQ+, ac ym mis Ebrill eleni fe siaradodd yn agored am y tro cyntaf am ei rywioldeb mewn podlediad i'r BBC.
Y diwrnod wedi iddo drafod hyn ar y podlediad fe gafodd Osian alwad ffôn annisgwyl, gan un o gantorion enwoca'r byd, Elton John.
Mewn cyfweliad gyda Catrin Heledd ar gyfer y rhaglen 'Birmingham 2022: Cymru yn y Gemau' fe soniodd Osian am y dydd pan gafodd yr alwad.
"Es i am goffi efo ffrind yn y p'nawn a wedyn dyma'r ffôn yn mynd a nes i ateb o - 'Hello Osian, it's Elton' medda' fo."
Doedd Osian ddim yn siŵr iawn sut i ymateb i siarad ag Elton John, fel esbonia: "O'dd o fatha ryw out of body experience, o'n i ddim yn siŵr iawn be oedd yn digwydd.
"'Nath o ofyn i fi sut oedd yr ymateb [i'r podlediad] a sut oedd yr ymarfer yn mynd."
Ydy hyn yn golygu bod gan Osian rif Elton yn ei ffôn? "Ella" meddai Osian gan chwerthin.
Mae Osian yn rhan o dîm o 199 o athletwyr fydd yn cynrychioli Cymru yn Birmingham - 100 o fenywod a 99 o ddynion.
Y gobaith ydy y bydd Cymru yn gallu gwella ar y canlyniadau o gemau 2018, ble enillodd y tîm 10 o fedalau aur.
Hefyd o ddiddordeb: