'Siom' yr Eisteddfod Genedlaethol wedi 'twyll' tocynnau am ddim

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
arwydd
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn digwydd rhwng 30 Gorffennaf-6 Awst

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cefnogi honiadau fod "nifer o docynnau" am ddim i'r brifwyl eleni wedi'u hawlio gan bobl nad oedd yn gymwys i'w cael.

Yr wythnos diwethaf daeth cadarnhad bod 15,000 o docynnau am ddim ar gael i "deuluoedd lleol sydd ddim fel arfer yn mynychu'r Eisteddfod".

Ond mewn neges ddamniol ar ei thudalen Facebook, dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Tregaron, Elin Jones, fod pobl "farus" wedi hawlio tocynnau "ar draul plant mewn tlodi a ffoaduriaid".

Mae'r Eisteddfod wedi cefnogi'r sylwadau gan fynegi "siom enfawr am yr hyn sydd wedi digwydd dros y penwythnos".

'Rhag eich cywilydd'

Er mai ond tocyn un dydd oedd hawl ymgeisio amdanyn nhw, dywedodd yr Aelod o'r Senedd lleol bod rhai wedi ceisio cael tocynnau ar gyfer bob un dydd o'r wythnos.

Dywedodd Elin Jones, AS Ceredigion: "Dwi ar ddeall fod nifer fawr o docynnau oedd wedi eu neilltuo am ddim ar gyfer teuluoedd difreintiedig i Eisteddfod Ceredigion wedi eu hawlio ar gam/dwyll dros y penwythnos.

"Bosib fod cod unigryw wedi ei rannu, bosib fod rhai nad sy'n ddifreintiedig o gwbwl, nag yn lleol, wedi gwneud ceisiadau am docynnau teulu am ddim, a gwneud hynny am bob un dydd o'r wythnos!

"Bydd yr Eisteddfod nawr (ar amser pan fod digon o bethe arall i'w wneud), yn gorfod mynd drw'r ceisiadau yma a'u annilysu. Chi'n gwbod pwy ydych chi bobol, chi'n meddwl bo chi'n glyfar?

"Chi ddim, chi'n farus - a hynny ar draul plant mewn tlodi a ffoaduriaid - dyna pwy sy'n gymwys am y tocynnau yma. Rhag eich cywilydd."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Elin Jones ei hurddo i'r Orsedd yn Eisteddfod Bae Caerdydd yn 2018

Ond mewn sylw pellach, wedi i sawl person nodi siom am dôn ei sylwadau ac nad oedden nhw'n ymwybodol o'r rheolau, dywedodd Ms Jones: "Dwi'n cael negeseuon wrth rai sy'n lleol a wedi gwneud cais am un diwrnod yn unig fel teulu a heb sylwi nad oedd y côd o bosib fod iddyn nhw.

"Ar gam wnethoch chi y cais, a does dim bai arnoch am hynny. Nid chi oedd targed fy neges, ond eraill. Ac ymddiheuriadau os nad oedd hynny'n ddigon clir o fy neges wreiddiol."

Ychwanegodd: "Cynllun i deuluoedd difreintiedig a ffoaduriaid oedd hwn. Nhw oedd y rhai cymwys i dderbyn y côd.

"Y rhai barus yw'r rhai wnaeth geisiadau am docynnau am ddim am bob dydd o'r wthnos! Fel y soniais i. Os wnaethoch chi ddim sylwi taw teuluoedd cymwys lleol i Geredigion oedd fod cael y côd yna dydych chi ddim yn farus."

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwefan yr Eisteddfod yn dangos bod yr holl docynnau 'Haf o Hwyl' wedi gwerthu allan

Yn ôl gwefan yr Eisteddfod, sydd bellach yn dangos fod yr holl docynnau 'Haf o Hwyl' wedi gwerthu allan, dolen allanol, roedd yr ŵyl yn "awyddus i gymaint o blant cynradd â phosibl gael profi un o wyliau mwya'r byd gyda'u teuluoedd, a dod i chwarae a mwynhau yn y Pentref Plant".

Mae'n nodi fod y tocynnau "ar gael ar gyfer grwpiau penodol drwy gronfa Haf o Hwyl Llywodraeth Cymru," gydag amod o uchafswm o pum tocyn am un diwrnod yn unig.

Mae tocynnau dydd arferol yn costio £20 i oedolion a £10 i blant rhwng 5-15 oed, gyda thocyn teulu ar gyfer un oedolyn a dau blentyn yn £30.

'Siom enfawr'

Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol: "Rydyn ni'n cefnogi sylwadau Cadeirydd ein pwyllgor gwaith yng Ngheredigion, ac yn nodi ein siom enfawr am yr hyn sydd wedi digwydd dros y penwythnos.

"Ydi, mae'n mynd i achosi oriau o waith i ni fel sefydliad, ond yn llawer gwaeth na hynny yw'r ffaith bod pobl yn teimlo'i fod yn dderbyniol i ymgeisio am docynnau a oedd ar gyfer teuluoedd difreintiedig, a hynny gan wybod yn iawn nad oedden nhw'n gymwys.

"Byddwn yn cydweithio gyda Chyngor Sir Ceredigion a'n partneriaid eraill er mwyn sicrhau bod y tocynnau'n cyrraedd y rheini oedd i fod i'w derbyn a'u bod nhw'n cael amser arbennig yn y Pentref Plant yn ystod yr wythnos.

"Ni fyddwn yn gwneud sylw cyhoeddus pellach ar y mater hwn."

Pynciau cysylltiedig