Dathlu 20 mlynedd o ganu'r corn gwlad

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dewi Griffiths yn dathlu 20 mlynedd o ganu'r corn gwlad

Mae Dewi Griffiths wedi bod yn un o ffanfferwyr Gorsedd Cymru ers 2002 ar ôl iddo ddechrau dysgu chwarae'r cornet yn saith oed yn Ysgol Bethel ger Caernarfon.

Fe gamodd Dewi a'i gyd-ffanferwr, Paul Hughes, i esgidiau'r ddau frawd Gareth ac Eifion Hughes oedd yn rhoi'r gorau iddi ar ôl chwarter canrif ugain mlynedd yn ôl.

Mae Dewi yn cyfaddef ei fod yn teimlo'r straen weithiau pan fydd y goleuadau a'r sylw i gyd arnyn nhw ym mhafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol.

"Ti'n gwybod pan mae'r trwmped 'na yn codi i fyny bod llygaid pawb yn y pafiliwn arnat ti, a pawb adra yn gwylio ar y teledu... mae na dipyn o pressure i wneud yn saff bod bob dim yn mynd yn iawn," meddai.

"Ar hyd yr 20 mlynedd, un o'r pethau dwi'n poeni fwya' amdano - fi a Paul sy' di bod yn gneud y joban ers 2002 - ydy bod y ddau ohonan ni'n chwarae yr un ffanffer.

"Achos dwi ddim yn gwybod faint o bobl sy'n gwybod hyn, ond mae 'na 10 ffanffer gwahanol ganddon ni, er ma dim ond un mae pawb yn ei adnabod!"