Nôl i Nyth Cacwn ar ôl dros 30 mlynedd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Cast Nôl i Nyth Cacwn (o'r chwith): Meleri Morgan, Dafydd Jones, Gwyneth Davies, Ifan Gruffydd, Susan ReesFfynhonnell y llun, Euros Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Cast Nôl i Nyth Cacwn (o'r chwith): Meleri Morgan, Dafydd Jones, Gwyneth Davies, Ifan Gruffydd, Susan Rees

Ar ôl dros 30 mlynedd o aros, ac am ddwy noson yn unig, bydd Ifan Gruffydd a'r ddrama Nyth Cacwn yn ôl ar nos Fercher a Iau, 3 a 4 Awst, ym Mhafiliwn Bont, Pontrhydfendigaid.

Gwerthwyd holl docynnau Nôl i Nyth Cacwn, drama lwyfan yn seiliedig ar gyfres deledu boblogaidd o'r wythdegau mewn hanner awr ym mis Mehefin.

Euros Lewis, cyfarwyddwr artistig Theatr Gydweithredol Troedyrhiw sydd wedi cyfarwyddo a chyd-ysgrifennu'r sioe gyda'r digrifwr a seren Nyth Cacwn, Ifan Gruffydd.

Cymru Fyw fu'n sgwrsio gyda Euros am ail-ymweld â Nyth Cacwn, y ffarm fach deuluol a gododd wên yn 1989, a diddanu sawl cenhedlaeth ar ôl hynny trwy fideo a DVD, a Bocs Set ar S4C Clic.

Beth oedd Nyth Cacwn?

"Mae'n gyfres yn seiliedig ar ffarm fach deulu a 'dan ni wedi dod i 'nabod y ffarm yna fel un sydd yn sefyll ar y groesffordd oesol rhwng y gorffennol a'r dyfodol."

Dyna sut mae Euros yn crynhoi beth oedd Nyth Cacwn 'nôl yn 1989.

Disgrifiad o’r llun,

Euros Lewis: "Nid unigolion talentog yw'r theatr Gymreig ond cymdeithas sydd yn greadigol."

Roedd y gyfres yn seiliedig ar hynt a helynt Wiliam, gwas newydd a oedd wedi dod i weithio ar fferm gwraig weddw o'r enw Gwyneth a'i merch Delyth.

Y diddanwr a'r amaethwr enwog Ifan Gruffydd o Dregaron sy'n chwarae rhan Wiliam. Fel pob comedi dda mae yna sail ddifrifol i'r gomedi.

Nid yw’r post yma ar YouTube yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar YouTube
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
I osgoi fideo youtube gan Sain Records

Caniatáu cynnwys YouTube?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.
Diwedd fideo youtube gan Sain Records

Meddai Euros: "Mae tyndra rhwng yr hen ffordd o wneud pethe a'r gwas ifanc dynamig yma sydd yn gweld pethe'n wahanol. A Wiliam sy'n codi'r nyth cacwn."

"Er yn ffarm fach 'dyw hi ddim ar fin cwmpo'n ddarnau chwaith. Dyna sy'n bwysig amdani. Mae hi yn lle 'na 30 mlynedd yn ôl lle o'n nhw'n godro mewn beudy nid mewn parlwr."

Ai Tregaron yw cartref Nyth Cacwn?

Daw Euros o'r Rhondda yn wreiddiol ond mae'n byw yng Ngheredigion ers blynyddoedd. Mae'n daer y gallai Nyth Cacwn fod yn fferm "yn unrhyw le yng nghefn gwlad Cymru".

Eglura: "Yn sicr mae e yn y gorllewin ond fel Lleifior Islwyn Ffowc Elis, mae pobl yn dweud ei fod e am Ddyffryn Ceiriog neu Ddyffryn Clwyd ac yn cwympo mas ambyti fe, gall e fod yn unrhyw le.

"'Run i'n lleoli'r llefydd yma mewn rhyw diriogaeth sy'n perthyn i'n dychymyg."

Ffynhonnell y llun, Nyth Cacwn
Disgrifiad o’r llun,

Teulu Nyth Cacwn gynt (o'r chwith): Henri (Dafydd Aeron), Delyth (Gwyneth Davies), Wiliam (Ifan Gruffydd), Mam (Grett Jenkins), Herbert Thomas (William Vaughan), Einon (John Phillips) a Twm Post (Phil Harries)

Cyd-greu gydag Ifan

Mae partneriaeth Euros ac Ifan fel sgriptwyr wedi bod "yn broses rhyfeddol o gytunus erioed er bod ein syniad o ddigrifwch yn eitha' gwahanol," yn ôl Euros.

Wedi hen arfer gweithio â'i gilydd, o gyd-sgwennu Nyth Cacwn yn 1989 i ysgrifennu ar gyfer y sioe boblogaidd Ma' Ifan 'Ma ar S4C, mae'r un bartneriaeth gadarn wedi parhau ar gyfer sioe eleni.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Ifan Gruffydd, neu Ifan Tregaron, yn chwarae ei gymeriad enwog, Idwal

"Does dim cweit yr un pethe yn hala ni chwerthin a mae'r peth o sgwennu ffisegol yn eitha gwahanol. Mae Ifan - ma' fe'n perthyn i'r bobl hynny fel Dic Jones fydde wrth eu gwaith ac yn stopo'r tractor yn sydyn ac yn whilo paced o ffags i 'sgwennu.

"Mae gymaint o bethe sydd yn Nyth Cacwn yn bethe ddoth i Ifan wrth ei waith yn lle bynnag oedd e. I radde fy ngwaith i yw i saernïo hynna wedyn ac i drial tyfu y syniade yna ac i gael nhw i lifo."

Dod â Nyth Cacwn i 2022

Yn dilyn poblogrwydd Nyth Cacwn 'nôl yn 1989, roedd Euros yn siomedig nad oedd S4C am gomisiynu ail gyfres.

"Wnaethon ni fwrw y lle anlwcus yna lle roedd goruchwyliaeth newydd yn dod i mewn i S4C, yn gweld bod gormod o arlliw cefn gwlad ar S4C ar y pryd a bo' nhw isie y peth rhyfedd yna o foderneiddio y diwyg fel pe bai cefn gwlad yn perthyn i'r gorffennol," meddai.

Y sbardun sy'n gyfrifol am ddod â Nyth Cacwn yn ei ôl unwaith eto yw Eisteddfod Tregaron.

Meddai Euros: "Dyw e ddim yn gyd-ddigwyddiad - mae'r ffaith fod y 'Steddfod wedi dod i Dregaron - oedd e yn gwneud beth mae'r ŵyl fod i wneud wrth deithio i le i le - oedd e yn sbarduno ac yn hala ni i gwestiynu beth os, ac os 'y ni mynd i ddod â Nyth Cacwn yn ôl - os na wnawn ni e nawr, ni byth yn mynd i 'neud e.

Ffynhonnell y llun, Nyth Cacwn
Disgrifiad o’r llun,

Einon (John Phillips), Delyth (Gwyneth Davies), Mam (Grett Jenkins) a Wiliam (Ifan Gruffydd)

Ar ddiwedd cyfres Nyth Cacwn, mae Wiliam y gwas yn gadael yn y car gyda Delyth, merch y fferm wedi iddi ddianc o'i pharti dyweddïo. Dros 30 mlynedd yn ddiweddarach, mae llawer o gwestiynau i'w hateb.

"Mae Wiliam yn dod nôl i Nyth Cacwn am y tro cynta' ers 30 mlynedd heb wybod pwy na beth na pha iaith sy'n ei ddisgwyl e."

Ifan Gruffydd a Gwyneth Davies, oedd yn actio Delyth, yw'r unig ddau o'r cast gwreiddiol fydd ar y llwyfan a mae eu cyfarwyddo unwaith eto yn "brofiad braf".

"Mae fe'n braf iawn iawn iawn, mae e'n codi bach o ofn, ry'n ni gyd ar flaen ein traed. Mae 'na gymaint o ddyfnder i'r cymeriadau a 'y ni yn treulio lot o'r amser yn trafod ble mae'r cymeriadau yma - eu seicoleg a'u perthynas gyda'i gilydd a'r byd o'u cwmpas.

"Mae e'n broses ddiddorol iawn a fydd y broses ddim yn dod i ben nes fyddwn ni o flaen cynulleidfa - a fydd hynny yn newid y dynameg eto, ac yn ein haddysgu ni ymhellach fyth.

'Pobl theatr yw Ifan a finne'

Er mai cyfres deledu oedd Nyth Cacwn yn wreiddiol mae'r theatr yn agor drysau newydd.

Meddai: "Yn y bôn pobl theatr yw Ifan a finne, a mae'r theatr yn gymaint o gyfrwng cefn gwlad. Mae cael dychwelyd ati yn rhyddid - ry'n ni yn rhydd o holl hierarchiaeth a biwrocratiaeh a'r holl bethe masnachol a chwestiynau am ddelwedd - pethe sydd i wneud gyda dim byd sy'n bwysig.

Ffynhonnell y llun, Nyth Cacwn
Disgrifiad o’r llun,

Mwy o'r archif (o'r chwith): Wiliam (Ifan Gruffydd), Einon (John Phillips), Delyth (Gwyneth Davies) a Mam (Grett Jenkins)

"Mae'r theatr yn rhoi y rhyddid yna i ti. Does dim arian na grant tu ôl y cynhyrchiad yma o gwbl - ry'n ni'n gweithio gyda'r adnoddau pwysicaf oll - a hynny yw dychymyg.

"Nid dychymyg unigolion yw hwnna. Nid unigolion talentog yw'r theatr Gymreig ond cymdeithas sydd yn greadigol. A hwnna yw beth rwy' mor falch ohono a sy'n codi ofn arna i hefyd - y creu a dod a'r cast a'r gynulleidfa ynghyd sydd mor greiddiol i'r theatr Gymreig."