Byw â ffoaduriaid wedi ysbrydoli Arweinydd Cymru a'r Byd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Ann GriffithFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Ann Griffith o Washington, ond yn wreiddiol o Aberystwyth, yn cael ei hanrhydeddu yn y Gymanfa nos Sul

Dywed Arweinydd Cymru a'r Byd yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion bod ei magwraeth yn Aberystwyth wrth i'w rhieni groesawu ffoaduriaid i'w cartref wedi dylanwadu yn fawr arni.

Mae Ann Griffith wedi byw ar bum cyfandir a bellach wedi ymgartrefu yn Washington.

Nos Sul fe fydd hi'n siarad yng Nghymanfa Ganu y Brifwyl a hynny wrth iddi dreulio cyfnod yng Nghymru am y tro cyntaf ers y pandemig.

"Dwi ddim yn berson eisteddfodol, cofiwch, ond mi ydw i'n berson rhyngwladol," meddai.

"Dwi ddim yn chwarae telyn, dwi ddim yn canu mewn côr - na dwi ddim yn gerddorol o gwbl, ond dwi wrth fy modd yn gwrando."

Cafodd ei magu yn ferch i'r Parchedig Huw a Mair Wynne Griffith - ei thad yn weinidog ar gapel Seilo yn Aberystwyth ac fe wnaeth eu cartref yno groesawu cannoedd o fyfyrwyr ar hyd y blynyddoedd.

"Ond be dwi'n gofio yw'r croeso roedd ffoaduriaid yn ei gael yn ein cartref," meddai Ann Griffith.

"Mae gen i atgofion cryf iawn am un o Hwngari yn dod atom a dwi mewn cysylltiad ag e o hyd.

"Dwi'n cofio hefyd am fyfyrwraig o'r Almaen ac fe ddaeth myfyriwr o Iran i fyw gyda ni - rwy' mewn cysylltiad ag e hefyd. Do mi ges i fagwraeth ryngwladol iawn a dwi'n sobor o falch o hynny."

Mae hi hefyd yn cofio cenhadon yn dod i'r tŷ a'u llu o straeon.

"Pan o'n i'n ifanc ro'n i eisiau bod yn genhades. Dwi'm yn meddwl bo' fi'n deall beth oedd bod yn genhades yn ei olygu ond ro'n nhw'n teithio ac yn gwneud pethau diddorol - felly mae'n siŵr bod yr hedyn teithio wedi'i hau ynof yr adeg honno."

'Awydd cael profiad y ffoadur'

Wedi cyfnod yn Llundain a Chasnewydd aeth Ann hi i astudio Diwinyddiaeth ym Manceinion, cyn ei phenodi'n Gaplan ar gyfer myfyrwyr tramor yno, lle y gwnaeth gyfarfod â Steve Hollingworth o Illinois, sydd bellach yn ŵr iddi ers 39 o flynyddoedd.

Mae eu plant - Gwennan, Angharad, ac Aled - i gyd yn siarad Cymraeg er nad ydyn nhw wedi byw yng Nghymru.

"Ymhlith y myfyrwyr tramor ym Manceinion roedd ffoaduriaid a dyna yn y pen draw a sbardunodd fi i fynd tramor," meddai.

"Ro'n i wedi gweld y profiad o ddod i fyw yn y wlad yma - ond ro'n i â diddordeb ym mhrofiad y ffoaduriaid a dyna sut es i dramor."

Ffynhonnell y llun, Heddwch Nain/Mam-gu
Disgrifiad o’r llun,

Fe lofnododd dros 390,000 o ferched Cymru ddeiseb wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf yn gofyn am gymorth America i gael byd heb ryfel

Mae Ann yn is-lywydd Cymdeithas Dewi Sant yn Washington ac mae'n gyfrannwr cyson i raglenni radio a theledu yng Nghymru ar faterion cymdeithasol, gwleidyddol a chrefyddol.

Hi yw cydlynydd ymgyrch Heddwch Nain/Mam-gu yn yr Unol Daleithiau - ymgyrch sy'n cofio y ddeiseb heddwch a lofnodwyd gan dros 390,000 o ferched Cymru wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Disgrifiad o’r llun,

Geiriad y ddeiseb heddwch a gafodd ei llofnodi gan 390,000 o ferched Cymru a'i hanfon i'r Unol Daleithiau yn y 1920au

Roedd y ddeiseb yn gofyn i ferched America ddylanwadu ar y wlad er mwyn i America ddod yn rhan allweddol o Gynghrair y Cenhedloedd ac i gyfrannu at y nod o fyd heb ryfel.

Yn 2017, daeth grŵp bach o ferched o Wynedd at ei gilydd i ffurfio ymgyrch 'Heddwch Nain/Mam-gu' - y nod yw darganfod mwy am yr apêl a'r ddeiseb, canfod hanes y rhai lofnododd a hefyd gwireddu breuddwyd am heddwch a chyfiawnder yn y cyfnod presennol.

"Fe dderbyniais i'r gwahoddiad i fod yn Arweinydd Cymru a'r Byd dros ddwy flynedd yn ôl ac mae'r hyn dwi'n fwriadu ei ddweud wedi newid sawl gwaith ers hynny ond mae'n fraint i gael dychwelyd at fy ngwreiddiau yng Ngheredigion."