Iechyd meddwl: Troi at gyffuriau tra'n aros am gymorth
- Cyhoeddwyd
Mae yna bryderon y gallai pobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl fod yn ceisio "hunan-feddyginiaethu" gyda chyffuriau, yn hytrach na cheisio cymorth.
Yn ôl gweithwyr cymorth, mae pobl ifanc yn cael canabis a diazepam gan werthwyr cyffuriau yn lle aros am fisoedd i gael cwnsela.
Dywedodd Dave, nid ei enw iawn, wrth BBC Cymru sut y ceisiodd "iacháu" ei hun o gael meddyliau tywyll gyda "choctel" o gyffuriau anghyfreithlon.
Dywed Llywodraeth Cymru fod 92% o gleifion sy'n camddefnyddio sylweddau yn cael eu hasesu o fewn 20 diwrnod gwaith.
'Eisiau gwella fy hun'
Roedd Dave yn 17 oed pan sylweddolodd nad oedd rhywbeth yn iawn.
Dechreuodd dynnu'n ôl rhag ei ffrindiau a byddai weithiau'n mynd am ddyddiau heb fwyta wrth iddo "orfeddwl" tasgau bob dydd fel mynd i siopa.
Dywedodd ei fod yn gwybod nawr ei fod yn cael trafferth gyda'i iechyd meddwl ond ar y pryd nid oedd "hyd yn oed yn gwybod beth oedd iechyd meddwl".
"Doeddwn i ddim eisiau i neb boeni," meddai. "Roeddwn eisiau gwella fy hun."
Ei ateb oedd cymryd coctel o gyffuriau, o ganabis i LSD, mewn ymgais i newid ei gyflwr meddwl a dianc rhag nifer cynyddol o feddyliau negyddol.
"Ro'n i wir yn meddwl pe bawn i'n smygu hwn, neu'n cymryd hynny, y byddwn i'n iawn - y byddwn i'n dod dros fy mhroblemau ac yn symud ymlaen," esboniodd.
"Dros amser byddwn yn creu perthynas dda gyda'r delwyr hyn oherwydd roeddwn i'n teimlo bod y mwyafrif o'r delwyr mewn gwirionedd yn cymryd pethau eu hunain ac yn dioddef yn dawel [gyda'u hiechyd meddwl].
"Ond fe ddechreuodd fynd allan o reolaeth yn araf. Doeddwn i ddim yn sylweddoli pa mor isel oeddwn i, pa mor wallgof oeddwn i, pa mor paranoid oeddwn i."
Episod seicotig
Un o atgofion mwyaf byw Dave oedd ei fod yn eistedd ar ei ben ei hun yn gwylio'r teledu.
"Po fwyaf o gyffuriau roeddwn i'n eu cymryd, y mwyaf roeddwn i'n cael y meddyliau paranoid gwallgof hyn o bobl yn pwyntio saethwyr cudd ataf trwy adeiladau," meddai.
"Rwy'n cofio fy mod yn gwylio teledu ac roedd marathon yn digwydd," meddai. "Ro'n i wir yn credu, pe bawn i'n cefnogi person arbennig yn y ras - pe bawn i'n canu eu henw yna bydden nhw'n ennill.
"Roedd gen i feddyliau o bobl yn llythrennol yn dod i fy nghael i. Roeddwn i'n meddwl 'Mae angen i mi ddianc, mae angen i mi fynd oherwydd ni allaf gael fy rhieni a fy mrawd yn ymwneud â hyn.'
"Rhedais i. Roeddwn i'n wallgof iawn o gwmpas fy mhentref lleol yn y diwedd."
Arweiniodd yr episod seicotig, a achoswyd gan y cymysgedd o gyffuriau yr oedd yn ei gymryd, iddo gael ei dderbyn i ward iechyd meddwl.
"Ar y dechrau, mae'n brofiad brawychus iawn i fynd drwyddo. Rwy'n cymeradwyo unrhyw un sy'n dal i fynd drwyddo nawr," meddai.
"Doeddwn i ddim yn sylweddoli bod unrhyw un yn ceisio fy helpu. Roeddwn i'n dal i fod dan yr argraff bod pawb yn ceisio ymosod arnaf ac yn ceisio fy mrifo.
"Doeddwn i ddim yn gwrando ar y meddygon ac yn ceisio dianc o'r ward. Fe gymerodd ychydig ddyddiau i fi ddod 'rownd."
Ar ôl blynyddoedd o fyw gyda meddyliau iselder a phryderus, dyma oedd profiad cyntaf Dave gyda gwasanaethau iechyd meddwl. Ers hynny mae wedi gwella a dirywio sawl gwaith.
Ar ôl bod yn sobr am chwe mis dywedodd ei fod yn dymuno y gallai fod wedi ceisio cymorth yn gynt.
Ond gall yr amseroedd aros ar gyfer apwyntiadau meddyg teulu a therapïau siarad fod yn ddyddiau, wythnosau neu hyd yn oed fisoedd.
Dywedodd gweithwyr cymorth a phobl ifanc fod apiau cyfryngau cymdeithasol yn caniatáu i werthwyr cyffuriau ddosbarthu sylweddau fel canabis a diazepam mewn munudau.
Dywedodd yr Athro Euan Hails, cyfarwyddwr elusen iechyd meddwl a dibyniaeth Adferiad Recovery, na fyddai llawer o bobl ifanc sy'n ceisio "hunan-feddyginiaethu" gyda chyffuriau yn sylweddoli bod angen help arnyn nhw nes "dod i gysylltiad â'r gyfraith".
Ychwanegodd fod gwasanaethau'r elusen wedi delio â phobl ifanc 13 a 14 oed oedd angen cymorth ar gyfer eu hiechyd meddwl a'u defnydd o sylweddau, ond eu bod hefyd yn gweld "pobl yn llawer iau na hynny hefyd".
"Mae gan bobl ifanc dueddiad i geisio cymorth ond yn aml nid ydynt yn ei gael," meddai. "Mae yna hefyd fwy o fynediad nag sydd wedi bod at sylweddau amgen.
"Efallai y bydd rhai pobl ifanc yn rhoi cynnig ar y dull hwnnw yn hytrach na mynd at eu meddyg teulu neu eu hanwyliaid.
"Gall fod yn ffordd o gadw pethau'n breifat nes iddo ddod yn broblem yn ei rinwedd ei hun."
Ychwanegodd yr Athro Hails fod cymryd cyffuriau yn gallu gwaethygu problemau i lawer o bobl ifanc ac y gallai fod yn sbardun i rai problemau iechyd meddwl.
Dechreuodd Jordan, nid ei enw iawn, gymryd cyffuriau ar ôl cael trafferth gyda'i iechyd meddwl yn 15 oed.
Bellach yn 18 oed, dywedodd ei fod wedi ceisio cael cymorth gan ei feddyg teulu am y tro cyntaf fis diwethaf.
"Roeddwn i ar y ffôn am awr a 14 munud yn aros, o gynnar yn y bore," meddai.
"Roedd fy apwyntiad yr wythnos ganlynol oherwydd dywedais nad oeddwn i eisiau siarad ar y ffôn - roedd angen i mi siarad yn bersonol.
"Pan fyddwch chi eu hangen dydyn nhw ddim yna, does neb yna."
Pum mis o aros
Dywedodd Jordan ei bod wedi cymryd misoedd iddo fagu'r dewrder i siarad â'i feddyg teulu, ond dywedwyd wrtho fod tua phum mis o aros am therapi siarad yn ei ardal.
"Rydych chi'n mynd yn grac ac mae'ch pen yn mynd yn wallgof oherwydd mae'n amser hir - ac mae angen yr help arnoch chi," meddai.
"Rydych chi'n ceisio atal yr hyn rydych chi'n ei wneud ond allwch chi ddim oherwydd ei fod yn bum mis [o aros].
"Mae yna lawer o ffyrdd [i gael cyffuriau]," meddai. "Os gwnewch yr alwad yna fe fyddan nhw yno mewn pum munud, efallai dau funud.
"Fe fyddan nhw'n dod â beth bynnag y dymunwch, mae ganddyn nhw bopeth. Nid yw llawer o bobl eisiau mynd at eu meddyg teulu."
Gall y risgiau i Dave, Jordan ac eraill fod yn enbyd.
Awgrymodd ymchwil gan Brifysgol Abertawe fod pobl dan 25 oed â phroblemau iechyd meddwl a phroblemau defnyddio sylweddau naw gwaith yn fwy tebygol o farw'n ifanc.
Mae dod o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru yn golygu bod pobl deirgwaith yn fwy tebygol o gael trafferth gydag iechyd meddwl a dibyniaeth.
"Rwy'n meddwl ei bod yn bwysig iawn gwybod mai dim ond am bobl sy'n cyflwyno i'r gwasanaethau iechyd y mae'r ffigyrau hyn," meddai awdur yr adroddiad, Sarah Rees.
"Rydym yn gwybod bod ein cyfraddau yn debygol o fod yn llawer llai na'r gwir angen."
'Cefnogi iechyd meddwl yn flaenoriaeth'
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi darparu £50m yn ychwanegol eleni ar gyfer cymorth iechyd meddwl a lles.
"Mae cefnogi iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth," meddai llefarydd.
"Rydym wedi darparu'r cyllid mwyaf erioed i gefnogi dysgwyr [gan arwain] at 24,000 o sesiynau cwnsela ychwanegol, cymorth iechyd meddwl ar-lein a [dros] £5.3m i ddarparu cymorth yn uniongyrchol mewn ysgolion mewn ardaloedd peilot ledled Cymru."
Dywedodd y llefarydd bod bron i £2m y flwyddyn wedi cael ei wario ar raglenni i addysgu pobl ifanc am beryglon camddefnyddio sylweddau ers 2004.
"Mae derbyniadau ysbyty ar gyfer defnydd opioid o fewn pobl ifanc 25 oed ac iau hefyd wedi gostwng 27% yn y pum mlynedd diwethaf.
"Mae ffigyrau diweddar yn dangos bod dros 92% o bobl a atgyfeiriwyd am driniaeth camddefnyddio sylweddau wedi cael gofal o fewn 20 diwrnod gwaith."
Mwy ar Wales Live, BBC One Wales am 22:35 ddydd Mercher, neu'n hwyrach ar BBC iPlayer.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd28 Mai 2022