Eisteddfod Ceredigion 2022: Seremoni y Fedal Ddrama

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Y Fedal Ddrama
Disgrifiad o’r llun,

Medal Ddrama AmGen 2021

Seremoni y Fedal Ddrama fydd prif seremoni'r dydd ym mhafiliwn y brifwyl ddydd Iau.

Y dasg oedd cyfansoddi drama lwyfan ac nid oedd unrhyw gyfyngiad o ran hyd.

Am 17:00 brynhawn Iau bydd y beirniaid Janet Aethwy, Sharon Morgan a Sera Moore Williams yn datgelu, os oes teilyngdod, ffugenw'r buddugol.

Fel yn achos seremoni Medal Goffa Daniel Owen, seremoni fer fydd hon a dyw'r Archdderwydd na'r Orsedd ddim yn rhan o'r seremoni.

Mae'r buddugol yn ennill y fedal (er cof am Urien Wiliam) a £750 o Gronfa Goffa Huw Roberts, Pwllheli.

Gwobrwyir drama sydd â photensial i'w datblygu ymhellach o gael gweithio gyda chwmni proffesiynol.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Gareth Evans-Jones gipio'r Fedal Ddrama yn 2019 a 2021

Enillydd Medal Ddrama Eisteddfod AmGen 2021 oedd Gareth Evans-Jones, o Draeth Bychan ger Marian-glas, Ynys Môn.

Hon oedd yr eildro iddo gipio'r Fedal gan iddo hefyd ennill y wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy yn Llanrwst yn 2019 am ei ddrama Adar Papur.

Ddydd Iau hefyd bydd y beirniaid yn yr adran gerddorol yn dewis pwy fydd yn cael cystadlu am y Rhuban Glas eleni.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Selwyn Jones a'i wraig Neli i fod yn llywyddion anrhydeddus yn y Brifwyl yn Nhregaron

Yn ystod y dydd bydd Llywyddion Anrhydeddus Ceredigion yn cael eu croesawu i'r llwyfan - sef Bethan Bryn, Delyth Hopkins Evans, Neli Jones, Rhiannon Lewis ac Owain Schiavone.

Roedd gŵr Neli Jones, Selwyn Jones, i fod yn llywydd anrhydeddus gyda'i wraig Neli ond bu farw yn gynharach eleni ac felly fe fydd rhan o'r digwyddiad yn coffáu ei gyfraniad.