Gemau'r Gymanwlad yn 'gyfle enfawr' i gamp eChwaraeon

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
eChwaraeonFfynhonnell y llun, British eSports
Disgrifiad o’r llun,

Am y tro cyntaf erioed mae eChwaraeon wedi cael eu cynnwys fel camp beilot yng Ngemau'r Gymanwlad eleni

"Mae'n enfawr. Mae'n gyfle i eChwaraeon gyrraedd y cyfryngau prif ffrwd."

Mae'n glir bod John Jackson yn edrych 'mlaen at Bencampwriaethau eChwaraeon y Gymanwlad, sy'n cael eu cynnal yn Birmingham y penwythnos yma.

Mae'n gyfle i reolwr Tîm Cymru a phrif swyddog gweithredol eChwaraeon Cymru arddangos talent Gymreig ar lefel rhyngwladol, ar blatfform mae e'n gobeithio fydd yn denu cynulleidfaoedd newydd i gamp sy'n tyfu ac yn tyfu.

Am y tro cyntaf erioed mae eChwaraeon wedi cael eu cynnwys fel camp beilot yng Ngemau'r Gymanwlad, gyda'r cystadlu ar 6 a 7 Awst.

Ffynhonnell y llun, British eSports
Disgrifiad o’r llun,

Mae John Jackson yn gobeithio y bydd eChwaraeon yn ymddangos yn barhaol yn y calendar chwaraeon traddodiadol

Yn ôl John, sydd hefyd yn cael ei 'nabod fel Slayer John ym myd eChwaraeon, mae'n gyfle i ddenu chwaraewyr newydd i'r gamp a rhoi rhywbeth iddyn nhw anelu amdano.

"Mae e am greu'r uchelgais 'na - cael chwaraewyr i feddwl y gallan nhw gynrychioli Cymru," meddai.

"Fel byddech chi'n cael rhywun yn gwneud athletau, ac mewn pedair blynedd bydden nhw'n cael cynrychioli eu gwlad os y'n nhw'n gweithio'n ddigon caled, mae'r un peth yn wir i'r rhai sy'n cystadlu ym myd eChwaraeon, a ry'n ni'n gweld taw dyma'r llwybr i ni.

"Un o'r pethau ni'n sylwi o ran cael gwlad, a chynrychioli eich gwlad yw ei fod e'n denu lot o bobl, yn tynnu lot o bobl mewn i fod yn rhan o'r gystadleuaeth, i gefnogi eich tîm.

"Os taw Cymru yw e, Lloegr, Yr Alban, Iwerddon - chi'n gyfarwydd â'r rhain, chi 'di gwylio'r rygbi, chi 'di gwylio'r pêl-droed."

'Mae e bach yn wallgo'

Un o'r rhai sy'n cystadlu i dîm Cymru eleni yw Peachy Bell, sy'n 22 oed ac o Landeilo.

"Dwi'n chwarae Dota 2 i eChwaraeon Cymru. Dwi'n teimlo mor gyffrous i fod 'ma. Wrth gwrs bydden i'n dwli ennill medal," meddai.

Mae Peachy wedi bod yn chwarae gemau cyfrifiadurol ers 2018, ac mae wedi cofnodi dros 3,000 o oriau chwarae.

I'r rhai sydd ddim yn gyfarwydd gyda'r byd eChwaraeon mae hynny'n swnio fel tipyn, meddai, ond dyw e ddim os y'ch chi'n ystyried bod rhai o'r chwaraewyr proffesiynol yn y diwydiant wedi cofnodi degau o filoedd o oriau.

Ffynhonnell y llun, British eSports
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n deimlad rhyfedd bod mewn cystadleuaeth fel hyn," meddai Peachy Bell

"O'n i byth yn meddwl bydden i'n cyrraedd fan hyn. Chi'n gwybod, mae rhai pobl yn dweud 'un diwrnod falle fyddi di'n cyrraedd y Gemau Olympaidd'. Mae e mor rhyfedd.

"Mae'n deimlad rhyfedd bod mewn cystadleuaeth fel hyn, ond mae'r holl beth yn cael ei normaleiddio nawr.

"Roeddech chi'n arfer cael digwyddiadau jyst ar gyfer eChwaraeon, a doeddech chi ddim yn ymuno gyda gweithgareddau mwy corfforol fel hyn - mae e bach yn wallgo'.

"Yn sicr mae'n beth da. Mae pobl yn eich beirniadu chi pan chi'n dweud 'fi am chwarae hwn yn broffesiynol' ond os y'ch chi'n cael pethau fel Gemau'r Gymanwlad tu ôl i chi wedyn mae'n rhywbeth mwy realistig, ymarferol i bobl allu dilyn llwybr proffesiynol."

Anelu am y Gemau Olympaidd

Wrth edrych i'r dyfodol mae John yn gobeithio y bydd y peilot eChwaraeon yng Ngemau'r Gymanwlad yn llwyddiant ac y bydd y gamp yn ymddangos yn barhaol yn y calendr chwaraeon traddodiadol.

"Dwi'n credu ei fod e'n enfawr. Ar hyn o bryd dyma'r un cyntaf - Gemau'r Gymanwlad.

"Ond wrth i ni symud 'mlaen, gobeithio y byddwn ni'n gallu chwarae rhan yn y Gemau Olympaidd."