Betsi Cadwaladr: Mesurau ymyrraeth i gynnwys Ysbyty Glan Clwyd
- Cyhoeddwyd
Mae'r gweinidog iechyd wedi gwrthsefyll galwadau i roi bwrdd iechyd y gogledd o dan fesurau arbennig unwaith eto.
Ond mae Eluned Morgan wedi cyhoeddi y bydd mesurau ymyrraeth wedi'u targedu ar gyfer Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn cael eu hymestyn i gynnwys gwasanaethau yn Ysbyty Glan Clwyd.
Mae'n dilyn beirniadaeth lem mewn nifer o adolygiadau diweddar.
Dywedodd y Farwnes Morgan: "Mae'r penderfyniad yn adlewyrchu pryderon difrifol ac amlwg am yr arweinyddiaeth, y llywodraethu a'r cynnydd yn Ysbyty Glan Clwyd, gan gynnwys y gwasanaeth fasgwlaidd a'r adran frys.
"Hoffwn sicrhau'r cleifion a'r cymunedau y mae'r bwrdd iechyd yn eu gwasanaethau a'r staff sy'n gweithio ynddo, na fydd gwasanaethau o ddydd i ddydd yn cael eu heffeithio mewn modd negyddol.
"Fodd bynnag, bydd y bwrdd yn ystyried meysydd sylweddol o bryder.
"Gan ystyried natur ddifrifol ac eithriadol yr uwchgyfeirio hwn, caiff y trefniadau hyn eu monitro'n agos a'u hadolygu'n gynnar i sicrhau cynnydd."
Wedi dros bum mlynedd dan reolaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru, cafodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ei gymryd allan o fesurau arbennig ym mis Tachwedd 2020.
Roedd y Ceidwadwyr Cymreig o'r farn na ddylai'r bwrdd iechyd fod wedi cael ei dynnu o fesurau arbennig.
Roedd Plaid Cymru wedi dweud y dylai rhannau o'r bwrdd iechyd ddychwelyd i fesurau arbennig ac y bu'n gynamserol i dynnu Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig.
'Dim hyder'
Dywedodd Darren Millar, AS y Ceidwadwyr dros Orllewin Clwyd, wrth y Senedd nad oes ganddo "hyder o gwbl bod ymyrraeth wedi'i thargedu gan Lywodraeth Cymru yn y meysydd ychwanegol hyn ar ben yr ymyrraeth darged arall yn mynd i wneud unrhyw wahaniaeth o gwbl".
"Pam ydych chi'n dweud bod angen i ni nawr benodi cyfarwyddwr gweithredol arall ar gost enfawr i'r trethdalwr?" gofynnodd.
"Pam na all y tîm gweithredol ar gyflogau mawr sydd eisoes yn ei le yn y bwrdd iechyd gyflawni'r gwelliannau y maent yn cael eu cyflogi i'w gwneud?
Eu gwaith nhw yw hynny ac os nad ydyn nhw'n gallu gwneud hynny, maen nhw'n gallu gadael a mynd i rywle arall. Achos dydyn ni ddim eisiau nhw yng ngogledd Cymru.
"Rydyn ni eisiau tîm sy'n gweithio, sy'n cyflawni'r gwelliannau rydyn ni wedi'u haddo. Mae cleifion yn cael eu siomi, staff yn cael eu siomi."
Cyhuddodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, Lywodraeth Cymru o beidio â deall "difrifoldeb y sefyllfa" yn y bwrdd iechyd.
"Pam gorffen fan hyn?" meddai am yr estyniad i ymyrraeth wedi'i thargedu "pan mae cymaint o broblemau", gan ofyn pam na chafodd Ysbyty Gwynedd ei gynnwys.
Roedd hefyd yn cwestiynu amseriad y cyhoeddiad.
"A yw hyn yn enghraifft arall eto o Lywodraeth Cymru yn gweithredu ar yr 11eg awr i ddileu dadl yn y Senedd a phleidlais a allai fod yn anodd?" gofynnodd, gan gyfeirio at ddadl yr wrthblaid ar Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ddydd Mercher.
Dywedodd y byddai llawer o aelodau staff y bwrdd iechyd "yn gweld bod llawer gormod o oedi wedi bod cyn cymryd y camau hyn heddiw a bod y camau a gymerwyd yn annigonol".
'Plastar ar friw sy'n rhy fawr'
Bu farw gŵr Esyllt Calley, Pete, yn 51 oed ar 13 Ebrill.
Fe gafodd y tad i bump o blant drawiad ar y galon, ond yn ôl Esyllt, roedd hynny'n sgil ei broblemau fasgwlar a methiannau yn ei driniaeth.
Mae hi'n dweud fod hynny o ganlyniad i benderfyniad y bwrdd iechyd i adleoli gwasanaethau fasgwlar i Ysbyty Glan Clwyd.
Ddydd Mawrth, dywedodd Esyllt Calley wrth raglen Newyddion S4C fod ymateb Eluned Morgan "yn syml, ddim yn ddigon da".
"Yn amlwg mae 'na gamgymeriadau anferth wedi cael eu gwneud," dywedodd.
"Ma' nhw'n trio rhoi plastar ar friw sy'n rhy fawr.
"'Swn ni'n licio ei gweld hi yn d'eud yn syth bo' rhaid i Ysbyty Glan Clwyd gau. Dydy o ddim yn saff."
'Sefydliad mawr a chymhleth'
Gwrthododd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wneud cyfweliad gyda'r BBC, ond mewn datganiad ar y cyd dywedodd cadeirydd a phrif weithredwr y bwrdd, Mark Polin a Jo Whitehead: "Mae sicrhau bod ein cleifion yn ddiogel a rhoi gofal o ansawdd uchel yn parhau i fod yn flaenoriaeth bennaf i ni, ac rydym yn benderfynol o wneud cynnydd cyson a chadarn er mwyn gwella eu profiadau a chanlyniadau, waeth ymhle yng ngogledd Cymru maent yn byw.
"Sefydliad mawr a chymhleth ydym ni ac mae ein timau wedi bod yn gweithio'n galed i wneud y gwelliannau angenrheidiol.
"Gwyddom fod gennym fwy i'w wneud ac rydym yn benderfynol o roi newid ar waith yn gynt ac i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel.
"Fel trigolion Sir Ddinbych, mae gennym fuddsoddiad personol yn Ysbyty Glan Clwyd; ein hysbyty lleol a'n hadran achosion brys agosaf ni ydy o ac rydym ni'n awyddus i gael yr un gwasanaethau diogel, o ansawdd uchel ar gyfer ein teuluoedd ag y mae pobl leol yn awyddus i'w cael.
"Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod hyn yn digwydd."
Beth yw'r cefndir?
Yn 2015 cafodd Betsi Cadwaladr ei gosod dan fesurau arbennig yn dilyn cyfres o drafferthion ariannol, methiannau o ran rheolaeth, rhestrau aros ac adroddiad damniol i ward iechyd meddwl Tawel Fan.
Ond dywedodd y llywodraeth fis Tachwedd 2020 fod "cyngor amlwg" y dylai statws y bwrdd iechyd newid i un o "ymyrraeth wedi'i dargedu", fyddai'n dal angen "gweithredu sylweddol" gan Betsi Cadwaladr.
Fis Chwefror, yn dilyn adroddiad oedd yn feirniadol o'i wasanaethau fasgwlar, rhybuddiodd y gweinidog iechyd fod angen i'r bwrdd iechyd wneud newidiadau ar frys, neu y gallai ei roi yn ôl dan fesurau arbennig.
Ym mis Mai daeth adroddiad beirniadol arall am uned frys Ysbyty Glan Clwyd - sydd â'r perfformiad gwaethaf yng Nghymru.
Mae adolygiad yn cael ei gynnal hefyd i'r ffordd mae nyrsys yn Ysbyty Gwynedd yn cael eu trin yn dilyn honiadau o fwlio a gorweithio.
Wrecsam Maelor nôl ym mis Awst 2018 oedd â'r amseroedd aros gwaethaf mewn adrannau brys - y lefel isaf erioed ar y pryd, 49.7% a welwyd o fewn pedair awr.
Roedd wedyn hyd yn oed yn is ym mis Ionawr 2019, ychydig cyn y pandemig, ac mae wedi gwaethygu ers yr hydref diwethaf.
Yn y ffigyrau diweddaraf ar gyfer Ebrill 2022, roedd 39.7% yn aros pedair awr neu lai.
Roedd Ysbyty Glan Clwyd hyd yn oed yn is ar 34.7% - yr ail waethaf o unrhyw ysbyty yng Nghymru.
O ran amseroedd ymateb ambiwlansys, mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr - wrth ymateb i 46.2% o alwadau coch o fewn wyth munud - yn is na chyfartaledd Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mai 2022
- Cyhoeddwyd23 Mai 2022
- Cyhoeddwyd19 Mai 2022
- Cyhoeddwyd18 Mai 2022
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2020