Plannu rhosyn i un o arddwyr du cyntaf Cymru a Phrydain
- Cyhoeddwyd
Mae rhosyn a gafodd ei enwi ar ôl un o arddwyr du cyntaf Cymru a Phrydain wedi cael ei blannu a'i ddathlu ym mhentref ei gartref yng Nghricieth.
Fe gafodd John Ystumllyn - garddwr, gŵr, tad ac aelod o'i gymuned - ei gipio o rywle ar gyfandir Affrica pan yn wyth oed yn ystod y 18fed Ganrif.
Roedd yn ŵr parchus yn ei gymuned gyda chofiannau'n dweud iddo gael ei fedyddio mewn eglwys yng Nghricieth wrth weithio i deulu bonedd Ellis Wynn o stad Ystumllyn yn y dref.
Fe gafodd y rhosod, sydd â phetalau melyn, eu plannu ym mis Mai ym Mhalas Buckingham a'u dangos yn Sioe Flodau Chelsea er mwyn coffáu'r gŵr o Gricieth.
'Traddodiad garddio balch'
Mewn digwyddiad yn y dref ddydd Mawrth daeth pobl leol ynghyd i weld y blodyn yn cael ei blannu a'i ddathlu ar garreg ei aelwyd.
Y gred yw mai dyma'r rhosyn cyntaf i gael ei enwi ar ôl ffigwr o gefndir ethnig lleiafrifol, ac fe ddechreuodd yr ymgyrch i godi ymwybyddiaeth gan fudiad 'We Too Built Britain', sy'n ceisio dathlu ffigyrau o'r fath sydd wedi eu hepgor o'n hanes cenedlaethol.
Yn ôl Clerc Cyngor Tref Cricieth, Dr Catrin Jones, mae plannu'r rhosyn yn ffrwyth llafur dwy flynedd o waith ac ymgyrchu.
"Be' ni 'di cael yn y ddwy flynedd ddiwethaf yw ymgyrch i geisio coffau bywyd John," meddai.
"Fel y garddwr du cyntaf a'r briodas gymysg gyntaf a gofnodwyd yng Nghymru, dewiswyd John Ystumllyn a rhosyn melyn i gofio amdano gyda melyn yn cynrychioli cyfeillgarwch, cariad a chymuned."
Yn ôl Dr Jones mae Cricieth yn "falch iawn o'r traddodiad garddio" ac yn falch o weld y rhosod yn cael eu plannu'n lleol.
"Daeth John i fyw i'n cymuned ni bron i 300 mlynedd yn ôl," meddai.
"Ar ôl dechreuad eitha' trasig a dweud y gwir yn ei fywyd, cael ei gipio yn blentyn bach o'i deulu, cafodd e groeso yn ein cymuned ni."
Ychwanegodd: "Fi'n meddwl bod e'n bwysig i ni gofnodi bod y derbyn yma i'r gymuned yn bwysig iawn fel neges."
Mae'r 25 o rosod, sydd bellach wedi eu plannu yng Nghricieth o blith 5,000 eraill sydd wedi eu rhoi i gymunedau ar draws Prydain i ddathlu gwaith John Ystumllyn.
Mae'r Aelod Seneddol lleol, Liz Saville Roberts wedi ymgyrchu a chodi ymwybyddiaeth am y ffigwr hanesyddol er sawl blwyddyn.
"Mae'r ffordd yma o goffáu John Ystumllyn trwy rosod, ag yntau wedi bod yn arddwr - dwi'n bersonol mor falch o fod wedi bod yn rhan o'r hanes yma, ac yn cymeradwyo pawb sydd wedi gweithio arno fo," meddai.
"Nid rhywbeth sych iawn rhwng cloriau llyfrau ydy hanes, ond rhywbeth byw iawn i bobl, a bob tro ddown nhw i fan hyn byddan nhw'n falch o'r hanes yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mai 2022
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2020