Dyn Gwyrdd: Pennaeth 'wedi synnu' â'r ymateb i bryniant fferm
- Cyhoeddwyd
Mae pennaeth Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn dweud ei bod wedi ei "synnu" gan rywfaint o'r ymateb wedi i Lywodraeth Cymru wario £4.25m ar fferm i'r ŵyl.
Aeth Fiona Stewart ymlaen i ddweud mai digwyddiad cymdeithasol yn unig oedd cyfarfod â dau weinidog yng nghartref lobïwr gwleidyddol.
Dywedodd y Gweinidog Addysg Jeremy Miles - un o'r gweinidogion a fynychodd y cyfarfod cymdeithasol - nad oedd yn credu bod y digwyddiad hwnnw wedi bod yn "gamgymeriad".
Mae cwestiynau wedi codi ynghylch tryloywder pryniant Fferm Gilestone ers i'r wŷl ond gyflwyno cynllun busnes llawn ar gyfer y safle ym mis Mehefin - ar ôl y pryniant.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod am "sicrhau bod yr ŵyl yn parhau i gael cartref parhaol yng Nghymru".
'Syniad llwyddiannus'
Mae disgwyl 25,000 o bobl ar Stad Glan Wysg yng Nghrughywel y penwythnos yma wrth i'r ŵyl flynyddol gael ei chynnal unwaith eto.
Yn ôl y trefnwyr mae'r ŵyl yn cynhyrchu £15m i economi Cymru, ac eleni bydd yn dathlu ei ben-blwydd yn 20 oed.
Dywedodd Fiona Stewart eu bod wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ers blynyddoedd lawer.
"Mae'n syniad llwyddiannus y mae llawer o bobl, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, eisiau manteisio arno," meddai.
"Ond hefyd mae'r ffordd rydyn ni'n gwneud hynny - rydyn ni'n gwrthod nawdd er mwyn gallu hyrwyddo cwrw Cymreig er enghraifft - yn rhywbeth maen nhw'n ei hoffi'n fawr."
Dywedodd Ms Stewart, er ei bod yn derbyn y byddai cwestiynau am y cytundeb, nad oedd wedi rhagweld yr ymateb.
"Rwy'n synnu - rhai o'r pethau sydd wedi cael eu dweud. Doeddwn i ddim yn deall yn iawn y byddai ymateb o'r fath, yn enwedig oherwydd ein bod wedi bod o gwmpas ers peth amser.
"Rydym wedi bod ym Mhowys ers 20 mlynedd ac mae cryn dipyn o gefnogaeth boblogaidd i'r digwyddiad yma."
Pan ofynnwyd iddi pam na gafodd cynllun busnes llawn ei gyflwyno cyn prynu'r fferm, dywedodd Ms Stewart: "Roedd dogfen weledigaeth helaeth [wedi'i chyflwyno] a oedd yn enfawr, felly yn portreadu llawer o'r targedau a'r hyn yr hoffem ei wneud a sut roedden ni'n mynd i wneud pethau."
'Cyfarfod fel ffrindiau'
Mae cwestiynau wedi codi hefyd am ddigwyddiad cymdeithasol a fynychwyd gan Fiona Stewart yng nghartref lobïwr gwleidyddol blaenllaw, ynghyd â'r Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James a'r Gweinidog Addysg Jeremy Miles.
Fe wnaeth ymchwiliad a gafodd ei orchymyn gan y prif weinidog ganfod nad oedd unrhyw reolau gweinidogol wedi'u torri.
Ond oherwydd y "risg o wrthdaro canfyddedig", mae Mark Drakeford wedi penderfynu na fydd y ddau weinidog yn rhan o unrhyw benderfyniadau yn ymwneud â Fferm Gilestone yn y dyfodol.
Bydd gweinidogion hefyd yn cael canllawiau newydd ar gysylltiadau personol â lobïwyr.
Dywedodd Ms Stewart fod y grŵp yn cyfarfod fel ffrindiau: "Roedden ni yno'n gymdeithasol a dim ond yn siarad am faterion cymdeithasol yr oedden ni. Dyna ni."
Dywedodd Jeremy Miles hefyd ei fod yn "achlysur cymdeithasol ac ni chafodd unrhyw fusnes gweinidogol ei drafod".
Ychwanegodd: "Yn amlwg, ni fyddwn i'n disgwyl fel gweinidog addysg i gael unrhyw rôl yn y broses o wneud penderfyniadau ynghylch fferm beth bynnag, ond petai hynny'n codi yn y dyfodol, yna fel y byddwch wedi gweld o ddatganiad y prif weinidog, ni fyddwn i na'r gweinidog newid hinsawdd yn cymryd rhan ynddo."
Pan ofynnwyd iddo a oedd y digwyddiad cymdeithasol yn gamgymeriad, atebodd Mr Miles nad oedd yn credu hynny.
"Rwy'n meddwl ei fod wedi bod yn iawn. Mae wedi bod yn amlwg ei fod yn achlysur cymdeithasol ymhlith pobl oedd yn adnabod ei gilydd," meddai.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi prynu'r safle "i gefnogi twf Gŵyl y Dyn Gwyrdd".
"Mae'r Dyn Gwyrdd yn un o bum gŵyl annibynnol fawr sy'n dal i redeg yn y DU, ac yn ddigwyddiad blynyddol sy'n gwneud cyfraniad sylweddol i economi Cymru.
"Rydym eisiau rhannu cyfraniad cadarnhaol ychwanegol yr ŵyl i fusnesau lleol, y gymuned ac economi Cymru, a sicrhau bod yr ŵyl yn parhau i fod â chartref parhaol yng Nghymru."
Ychwanegodd eu bod wedi derbyn cynllun busnes llawn, a bod hwnnw'n destun craffu manwl ac ymgynghori â'r gymuned leol.
"Ni fydd unrhyw benderfyniad terfynol ar ddyfodol Fferm Gilestone yn cael ei wneud nes bod y broses wedi'i chwblhau," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Awst 2022
- Cyhoeddwyd6 Awst 2022
- Cyhoeddwyd19 Mai 2022