Cyfarfod Gŵyl y Dyn Gwyrdd: Gweinidogion heb dorri rheolau
- Cyhoeddwyd
Ni fydd dau weinidog o Lywodraeth Cymru yn cyfrannu at unrhyw benderfyniadau pellach am ddyfodol fferm gwerth £4.25m a brynwyd gydag arian cyhoeddus ar gyfer Gŵyl y Dyn Gwyrdd.
Yr wythnos hon, fe alwodd y Prif Weinidog Mark Drakeford am ymchwiliad wedi iddi ddod i'r amlwg bod y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, a'r Gweinidog dros Newid Hinsawdd, Julie James, wedi mynychu "digwyddiad cymdeithasol" gyda phennaeth yr ŵyl ym mis Mai, a hynny yng nghartref lobïwr.
Doedd dim angen i'r cyfarfod gael ei gyhoeddi gan weinidogion gan fod y digwyddiad wedi ei nodi fel un answyddogol, ond, fe gododd y gwrthbleidiau bryderon.
Mewn datganiad, dywedodd Mr Drakeford na chafodd unrhyw reol ei thorri.
Ond, ychwanegodd y Prif Weinidog: "Er nad oes disgwyl fod y naill weinidog na'r llall wedi gwneud penderfyniadau ynghlwm â Fferm Gilestone, o ystyried y risg o wrthdaro, mae'r ddau weinidog wedi ymwrthod â gwneud unrhyw benderfyniadau yn y dyfodol."
Bydd gweinidogion hefyd yn derbyn arweiniad o'r newydd ynglyn â chysylltiadau gyda lobïwyr, yn dilyn cyngor i Mr Drakeford ei hun gan Gyfarwyddwr Priodoldeb a Moeseg Llywodraeth Cymru.
Fis Mai Eleni, daeth i'r amlwg bod Llywodraeth Cymru wedi gwario £4.25m ar brynu Fferm Gilestone ym Mhowys, er mwyn "sicrhau fod gan yr ŵyl gartref parhaol yng Nghymru".
Mae Archwilio Cymru'n dweud ei fod yn gwneud "ymholiadau pellach" gyda Llywodraeth Cymru i "ddeall yn well" yr amgylchiadau ynghylch prynu'r fferm, yn dilyn cais gan un o bwyllgorau'r Senedd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau fod ei swyddogion wedi cwrdd ag archwilwyr, ond mae BBC Cymru ar ddeall na wnaeth arwain at ymchwiliad llawn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Awst 2022
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd19 Mai 2022