Dyn Gwyrdd: Llywodraeth Cymru yn gwario £4.25m ar fferm

  • Cyhoeddwyd
Green ManFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ŵyl yn cael ei chynnal ym Mannau Brycheiniog

Mae galwadau am ymchwiliad i gynllun gwerth £4.25m gan Lywodraeth Cymru i brynu fferm, a allai, medd gweinidog, sicrhau dyfodol Gŵyl y Dyn Gwyrdd.

Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething yn dweud bod gweinidogion am sicrhau bod gan y digwyddiad "gartref parhaol" yng Nghymru.

Ond dywedodd fod cytundeb gyda'r sefydliad i brydlesu'r safle gan y llywodraeth yn dal i gael ei drafod.

Mae gwleidyddion Ceidwadol a Phlaid Cymru wedi cwestiynu a gafodd ffermwyr eraill gyfle i wneud cais.

Nid yw trefnwyr Gŵyl y Dyn Gwyrdd wedi datgan yn llawn eu bwriad ar gyfer y lleoliad, yn Nhalybont-ar-Wysg, sy'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd ar gyfer llety gwyliau yn ogystal â bod yn fferm.

Ffynhonnell y llun, Gŵyl y Dyn Gwyrdd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Prifysgol Caerdydd eisoes yn cynnal gweithgareddau yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd, a'i gobaith yw darparu mwy

Galwodd yr AS Ceidwadol James Evans am i'r ŵyl fod yn agored am yr hyn yr oedden nhw eisiau ei wneud gyda'r fferm, ond dywedodd yr ŵyl nad oedd ganddyn nhw unrhyw gynlluniau i symud o'r safle ger Crucywel.

Dywedodd Mr Evans y dylai arian trethdalwyr gael ei wario yn rhywle arall gyda'r argyfwng costau byw cynyddol.

Denodd y Dyn Gwyrdd 25,000 o bobl pan ddychwelodd yr ŵyl gerddoriaeth a chelfyddydau flynyddol yr haf diwethaf.

Bydd Fferm Gileston yn cyflogi 174 o bobl ac yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd, bwyd lleol a newid hinsawdd.

Mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn un o bum gŵyl annibynnol fwyaf y DU, ac mae wedi bod yn cael ei chynnal ar y safle presennol ers 20 mlynedd.

'Gwerth y farchnad'

Yn y Senedd ddydd Mercher fe gadarnhaodd Mr Gething am y tro cyntaf faint mae Llywodraeth Cymru wedi'i wario ar y tir, a dywedodd nad oedd wedi'i brynu "yn uwch na gwerth y farchnad".

Am y tro mae wedi'i brydlesu yn ôl i'w berchnogion presennol sy'n gorfod cynaeafu cnydau presennol ac anrhydeddu archebion presennol.

Dywedodd Mr Gething fod yn rhaid i "drafodaethau pellach" gael eu cynnal gyda'r Dyn Gwyrdd, "naill ai i edrych ar y pryniant neu i drefniant prydlesu pellach ar gyfer y safle".

Yr "uchelgais cyffredinol", meddai, oedd sicrhau bod gan y Dyn Gwyrdd "gartref parhaol yng Nghymru".

Dywedodd y gweinidog bod "diddordeb sylweddol gan ddarparwyr gwyliau eraill sydd am brynu'r brand".

"Rydym yn awyddus iawn i gadw hynny yng Nghymru," meddai.

Fe wnaeth gweinidog yr economi addo rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd pan fydd yn derbyn cynllun busnes gan y Dyn Gwyrdd.

'Cwyno'

Dywedodd AS Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor bod "nifer o amaethwyr lleol wedi cysylltu efo'r swyddfa, efo fi, yn dweud ac yn cwyno eu bod nhw ddim wedi cael unrhyw gyfle i fod yn rhan o'r broses yma i dendro am y ffarm, am y tir, ac i fod yn denantiaid".

Dywedodd arweinydd y Torïaid Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies, y byddai'r pryniant yn cael ei weld yn "eithaf digalon i rai ffermwyr, pan fo aelodau eu teulu eu hunain yn cael trafferth cael eu troed ar yr ysgol" a dod i mewn i'r diwydiant.

Ychwanegodd James Evans, AS dros Frycheiniog a Maesyfed, ei fod wedi cyfeirio'r mater at bwyllgor cyfrifon cyhoeddus a gweinyddiaeth gyhoeddus y Senedd i'w ymchwilio.

Dywedodd fod trigolion eisiau gwybod sut roedd y fferm wedi ei phrynu, a dywedodd nad yw'r broses "yn ymddangos yn dryloyw".

"Mae gennym ni argyfwng costau byw fel y mae Llywodraeth Cymru yn dweud wrthym o hyd, ond maen nhw'n ddigon hapus i wastraffu £4.25m ar fferm."

Mae'r ŵyl yn cyflogi 200 o bobl yn llawn amser ac mae 5,000 o weithwyr eraill - naill ai dros dro neu'n wirfoddol.

Yn ogystal â rhoi llwyfan i amrywiaeth o fandiau a pherfformwyr, mae'r ŵyl hefyd yn cydweithio â Phrifysgol Caerdydd ar ddigwyddiadau gwyddonol, iechyd a chynaliadwyedd.

Yn ôl ymchwil gan gwmni BOP Consulting mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn cyfrannu £15m i'r economi yn flynyddol, wrth i oddeutu 25,000 o bobl fynychu'r ŵyl yn ddyddiol. Mae eraill yn gwersylla yno am yr wythnos.

Pynciau cysylltiedig