Ateb y Galw: Sonia Edwards

  • Cyhoeddwyd
Sonia Edwards ar ôll cipio'r Fedal Ryddiaith ar faes y Brifwyl ym Môn yn 2017
Disgrifiad o’r llun,

Sonia Edwards ar ôll cipio'r Fedal Ryddiaith ar faes y Brifwyl ym Môn yn 2017 gyda'i chyfrol Rhannu Ymbarel

Yr awdures Sonia Edwards sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl cael ei henwebu gan John Eifion yr wythnos ddiwethaf.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Hel mwyar duon mewn piser llefrith hefo fy nain. Wn i ddim am lawer o neb arall (heblaw cymeriadau Kate Roberts) sy'n dal i ddefnyddio'r gair 'piser'. Dyna un diffiniad o henaint - dal i ddefnyddio geiriau diflanedig!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Traeth Llanbadrig. Mwy o gerrig nag o draeth. Mae darnau o fy mhlentyndod yno.

Ffynhonnell y llun, Jonathan Wilkins
Disgrifiad o’r llun,

Traeth Llanbadrig

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Roedd noson lansio albwm Fleur de Lys yn Tafs yn noson gofiadwy a sbesial.

Ffynhonnell y llun, Fleur de Lys
Disgrifiad o’r llun,

Y band Fleud de Lys. Mae Sonia yn fam i Rhys Owain Edwards (dde); prif leisydd y band

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Tlawd a balch. (Wel, mae hynna'n dri gair, dydi . . .?!

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Mynd â Popi, fy nghi, i ddosbarth trênio cŵn a hithau'n fy nhynnu ar draws y llawr a finna ar fy mol; roedd hi fel golygfa o Marley and Me, a'r peth mwyaf doniol oedd mai dim ond y fi oedd yn ei weld yn hileriys!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Gwneud ystum nad oedd yn boléit iawn ar rhyw gyn-gariad wrth ei basio yn y car, a sylweddoli wedyn nad y fo oedd o!

Ffynhonnell y llun, Gwasg y Bwthyn
Disgrifiad o’r llun,

Gavi; un o nofelau Sonia yn boeth o'r wasg

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Gweld Esyllt yn cael y Goron yn Nhregaron eleni.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Siopa gormod ar-lein, a gwastraffu pres ar stwff cwbwl iwsles. Y peth olaf i mi'i brynu oedd teclyn i fesur PH pridd yn yr ardd. Prynais grystal bôl unwaith. Mae hi ar fy nesg fatha ornament, a'r unig beth dwi wedi'i weld hyd yn hyn wrth sbio arni ydi llwch!

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu albym a pham?

'O Mi Awn Ni Am Dro' gan Fleur de Lys, am resymau amlwg!

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?

Laurence Llewelyn-Bowen, o achos dwi wrth fy modd yn ỳpseiclo dodrefn a newid stafelloedd, ac mi leciwn i wybod sut mae o'n llwyddo i beintio waliau heb gael llanast ar ei ddillad.

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi wedi cael gwersi ar hyfforddi ci defaid, ac mae gen i ffon fugail hefo fy enw wedi'i gerfio arni.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Nofio hefo morlo.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Y llun yma o Popi a fi, o achos mai hwn fydd ar gefn clawr fy nofel newydd.

Ffynhonnell y llun, Sonia Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Popi a Sonia

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Wonder Woman. Mi faswn i wedi medru fflio i achub Freya'r walrws, a'i chario'n ôl i'w chynefin.

Hefyd o ddiddordeb: