Gwahardd cyn-gynghorydd Sir Benfro am 'fwlio ac aflonyddu'

  • Cyhoeddwyd
Paul Dowson
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Panel Dyfarnu Cymru i'r casgliad ddydd Llun bod Paul Dowson wedi torri Cod Ymddygiad Cyngor Sir Penfro.

Mae cyn-gynghorydd o Sir Benfro wedi cael ei wahardd o'r rôl am dair blynedd yn dilyn ymchwiliad i "gwynion difrifol" yn ei erbyn.

Fe ddaeth yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus i'r casgliad bod Paul Dowson wedi bwlio ac aflonyddu aelod o'r cyhoedd a rhannu gwybodaeth ffug ar gyfryngau cymdeithasol.

Wrth ystyried casgliadau'r Ombwdsmon, daeth Panel Dyfarnu Cymru i'r casgliad ddydd Llun bod Paul Dowson wedi torri Cod Ymddygiad Cyngor Sir Penfro.

Mae BBC Cymru wedi gofyn i Mr Dowson am sylw.

Dywedodd yr Ombwdsmon, Michelle Morris, ei bod yn croesawu penderfyniad y panel i wahardd Mr Dowson ar ôl derbyn tri chwyn "difrifol iawn" yn ei erbyn.

Fe ddaeth yr Ombwdsmon i'r casgliad bod Paul Dowson wedi:

  • Datgan yn ffals yn gyhoeddus ar ddau achlysur bod cynghorydd arall wedi ymddwyn yn droseddol drwy rannu fideo pornograffig. Daeth y panel i gasgliad fod yr ymddygiad gyfystyr ag ymddygiad bwlio.

  • Datgan yn ffals ar gyfryngau cymdeithasol bod aelod o'r cyhoedd yn gyn-droseddwr oedd wedi'i garcharu am droseddau treisgar. Roedd hwn yn gyfystyr ag aflonyddu ar yr aelod o'r cyhoedd, yn ôl y panel.

  • Postio gwybodaeth gamarweiniol am gwricwlwm Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb Llywodraeth Cymru ar gyfryngau cymdeithasol.

  • Awgrymu ar gyfryngau cymdeithasol bod aelod o'r cyhoedd 'ar y gofrestr', sy'n awgrymu cofrestr y troseddwyr rhyw.

  • Ceisio'n fwriadol i gamarwain yr Ombwdsmon drwy ddarparu neges cyfryngau cymdeithasol ffug yn ystod yr ymchwiliad.

Penderfynodd y Panel Dyfarnu y dylid gwahardd Paul Dowson rhag bod yn aelod o Gyngor Sir Penfro nag unrhyw awdurdod arall am dair blynedd.

'Cwynion difrifol'

Dywedodd Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: "Roedd pob un o'r rhain yn gwynion difrifol iawn.

"Gallai'r honiadau a datganiadau ffug a wnaed gan y cyn-gynghorydd Dowson fod yn niweidiol a gallant andwyo enw'r unigolion dan sylw a'r Cyngor.

"Mae'r penderfyniad i anghymwyso'r aelod am dair blynedd yn adlewyrchu difrifoldeb ei ymddygiad."

Mae BBC Cymru wedi gofyn i Mr Dowson am sylw.