Disgwyl i ganlyniadau TGAU fod yn is na'r llynedd

  • Cyhoeddwyd
Myfyrwyr TGAU yn derbyn eu canlyniadauFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae disgwyl i ganlyniadau TGAU fod yn is na llynedd pan fyddan nhw'n cael eu cyhoeddi fore Iau, gan ddilyn patrwm tebyg i'r rhai Safon Uwch.

Ond fel canlyniadau wythnos diwethaf, maen nhw'n debygol o fod yn uwch na phan gafodd arholiadau eu cynnal y tro diwethaf yn 2019.

Roedd cyfran y graddau Safon Uwch A* ac A lawr i 40.9% ond roedd hynny'n dal yn sylweddol uwch na chyn y pandemig.

Yn 2021 cafodd graddau eu penderfynu gan athrawon ar ôl i arholiadau gael eu canslo ac roedd 73.6% o'r graddau TGAU yn A* i C, o'i gymharu gyda 62.8% yn 2019.

Dywedodd Cymwysterau Cymru y byddai canlyniadau 2022 yn debygol o fod rhywle rhwng canlyniadau 2019 a 2021.

Mae'r broses o roi graddau wedi bod yn fwy hael i adlewyrchu'r tarfu ar addysg plant oherwydd Covid.

Roedd yna newidiadau i gyrsiau i leihau'r cynnwys, ac roedd gwybodaeth o flaen llaw am beth fyddai'n codi mewn rhai papurau.

Cyfnod anodd wedi colli ffrind

Mae disgyblion blwyddyn 11 Ysgol Uwchradd Bodedern ar Ynys Môn yn disgwyl yn eiddgar am eu canlyniadau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae disgyblion Ysgol Uwchradd Bodedern ar Ynys Môn wedi cael cyfnod anodd wedi iddyn nhw golli ffrind

Mae Cadi, 16, yn dweud bod astudio dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn anodd.

"Dwi'n meddwl bod ni'n distracted ac mi oedden ni eisiau bod ar ein ffonau yn siarad efo ffrindiau," meddai.

Dywedodd ei bod yn "nerfus" wrth aros am ei chanlyniadau: "Fedrai ddim disgwyl mwy, dwi angen cael gwybod!"

Mae'r disgyblion yn dweud iddi fod yn flwyddyn heriol yn dilyn marwolaeth cyd-ddisgybl ym mis Mawrth.

"Roedd o'n anodd i ni allu gweithio a thrio ymdopi efo beth oedd newydd ddigwydd," meddai Efa, 16. "Fel grŵp mae o wedi dod â ni at ein gilydd."

Dywedodd ei bod yn weddol bles gyda sut aeth yr arholiadau, ac er ei bod ychydig yn nerfus, "dwi ddim yn meddwl bod angen i fi fod, oherwydd fe wnes i drio gwneud beth o'n i'n gallu'i wneud."

Dywedodd Non, 16: "Yn amlwg mae o am gael effaith ar rywun os ti'n colli dy ffrind. Oedd o'n rhywbeth oedd ar ein meddwl ni trwy'r adeg."

Ychwanegodd bod rhai arholiadau yn "well nac eraill", ond ei bod wedi "laru disgwyl" am y canlyniadau.

"Dwi eisiau agor yr amlen bach frown yna a gwybod yn union be dwi 'di gael rŵan!"

Yng Nghymru, graddau A* i G sy'n cael eu rhoi tra bod Lloegr yn defnyddio rhifau 9 i 1.

Fe fydd rhai disgyblion hefyd yn cael canlyniadau cymwysterau galwedigaethol a'r Fagloriaeth.

Roedd yna 318,590 o gofrestriadau ar gyfer TGAU yr haf yma - lawr 5.1% o'i gymharu â haf 2021.

Pynciau cysylltiedig