Cyhuddo dyn o lofruddiaeth yng Nghasnewydd
- Cyhoeddwyd

Swyddogion heddlu yn Heron Way ble bu farw Carl Ball ddydd Gwener 19 Awst
Mae dyn 39 oed o ardal Casnewydd wedi cael ei gyhuddo o lofruddio dyn arall yn y ddinas.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i gyfeiriad yn Heron Way tua 16:40 ddydd Gwener 19 Awst wedi adroddiadau bod dyn 51 oed "yn cael argyfwng meddygol tu allan i eiddo".
Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau mai Carl Ball oedd y dyn a fu farw.
Cadarnhaodd y llu hefyd bod ail ddyn, 27, a oedd hefyd wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth, wedi ei ryddhau ar fechnïaeth amodol.
Dywed teulu Mr Ball mewn datganiad bod perthnasau a ffrindiau "mewn sioc eithriadol wedi'r hyn sydd wedi digwydd, mae'n teimlo mor afreal".
Ychwanegodd y datganiad bod Mr Ball "yn cael ei garu a'i drysori ganddom ni oll".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Awst 2022