Ardaloedd cyfagos i gael budd o statws dinas Wrecsam?
- Cyhoeddwyd
Ar y diwrnod y daeth Wrecsam yn seithfed ddinas Cymru mae galwadau am ehangu'r buddion y tu hwnt i ffiniau'r cyn-dref.
Fis Mai fe lwyddodd Cyngor Wrecsam i sicrhau statws dinas, gyda'r gobaith y byddai hynny'n rhoi hwb i'r economi leol.
Mae'n golygu ei bod bellach yn rhannu'r un statws â Bangor a Llanelwy yn y gogledd.
Ond mae galwadau o'r newydd i'r buddion ymestyn i gymunedau cyfagos yn ogystal â chalon y ddinas.
Buddion yn 'amwys'
Fore Iau, yn nhafarn Saith Seren y ddinas, roedd 'na groeso mawr ar ddiwrnod cyntaf y statws newydd.
Ond roedd rhybudd hefyd bod diffyg eglurder ar natur y buddion i gymunedau y tu hwnt i ganol Wrecsam, gyda chyfeiriad penodol at gymunedau eraill o fewn y sir.
"'Da ni 'di gweld fod o yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr mewn llefydd eraill a mae o yn adeg cyffrous iawn," dywedodd Dr Sara Louise Wheeler, y bardd, llenor ac artist llawrydd sy'n hanu o Wrecsam.
Ond ychwanegodd bod angen cofio am y "fro gyfan yn hytrach na jyst y dref ei hun".
"Ar hyn o bryd mae'r buddion i'w gweld bach yn amwys," meddai ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru fore Iau.
"Does 'na ddim manylder wedi ei ryddhau ac o be dwi'n gweld mae lot o'r digwyddiadau ond yn y dref ei hun.
"Mae 'na un allan yn Llangollen, sy'n beth da i gydnabod mai Llangollen yw cyrion y ddinas newydd ac yn rhan fawr o'r Wrecsam experience drwy fynd yno yn yr haf at [Afon] Dyfrdwy a mwynhau hufen iâ a ballu.
"Ond beth am Rosllannerchrugog, sy'n le difreintiedig? Wnaeth y pyllau gau ac wedyn mae lot o bobl ddi-waith yno heb lawer o obaith, pam does 'na ddim digwyddiad yn y Stiwt?
"'Swn i'n hoffi gweld buddsoddiad yn llefydd fel y Stiwt, pobl sydd 'di bod wrthi cyn y statws dinas 'ma a pob dim, yn gweithio'n galed i drio gwella bywyd yn y fro sydd ar gyrion y ddinas yn hytrach na hen dref Wrecsam.
"Mae angen cydnabod pob rhan o'r ddinas. Ella fod nhw ddim yn 'neud splashes mawr yn y press fel mae Tŷ Pawb yn gwneud neu ennill rhyw award mawr, ond maen nhw wrthi'n gwneud pethau i helpu llesiant pobl yn y fro a phobl sydd wir ei angen o."
'Y lle wedi gwella'
Er hynny, roedd croeso cyffredinol i'r syniad o Wrecsam yn chwyddo'r nifer o ddinasoedd Cymru i saith.
Dywedodd Chris Evans, Cadeirydd Canolfan Gymraeg y Saith Seren, fod llawer i fod yn falch ohono.
"Mae'n deimlad od, dwi'n dal i ddweud 'dre' weithiau, ond dwi'n trio cofio ein bod yn ddinas bellach," meddai.
"Mae'n reit gyffrous, mae 'na 'chydig o dystiolaeth bod ennill y statws yma yn arwain at dyfiant economaidd... ond tydi o ddim yn awtomatig chwaith.
"Mae'n rhaid i ni weithio i wneud yn siŵr bod ennill y statws yma am wneud gwahaniaeth i'r ddinas."
Gan obeithio bydd yn gwneud Wrecsam yn fwy deniadol, ychwanegodd ei obaith bydd yn denu athrawon Cymraeg i'r ardal.
"Mae addysg Gymraeg yn tyfu'n fawr yma, mae ysgol gynradd Gymraeg newydd ar fin agor felly mae'r Gymraeg yn tyfu yn y ddinas.
"Mae'r holl gyhoeddusrwydd 'da ni wedi ei gael drwy'r clwb pêl-droed yn rhan fawr hefyd.
"Mae 'na lot o ddatblygiadau cyffrous gydag amgueddfa pêl-droed ar y gorwel ac mae'r Cae Ras am gael ei ddatblygu.
"Mae'r lle wedi gwella llawer iawn dros y blynyddoedd diwetha'."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mai 2022