Galw am gefnogaeth i ddatblygu stadiwm Cae Ras Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-sêr Cymru wedi lansio ymgyrch i ddatblygu stadiwm Clwb Pêl-Droed Wrecsam.
Mae Malcolm Allen a Mickey Thomas yn galw am gefnogaeth i sicrhau cyllid i ailddatblygu'r Cae Ras fel bod "chwaraeon rhyngwladol yn gallu dychwelyd i ogledd Cymru".
Y nod yw datblygu eisteddle i ddal 5,500 o gefnogwyr, cael gwell cyfleusterau ar gyfer y cyfryngau, maes parcio aml-lawr i 400 o geir a gwaith tir ar gyfer canolfan gynadledda a gwesty.
Mae'r ymgyrch yn rhan o gais Cyngor Wrecsam i gronfa Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU. Bydd y penderfyniad ariannu yn digwydd yn haf 2022.
Fis Chwefror, fe gyhoeddodd perchnogion Clwb Pêl-Droed Wrecsam, y sêr Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney, eu bod yn y broses o brynu tir y Cae Ras.
Dywedodd y ddau ar y pryd y byddai cael bod yn berchen ar y stadiwm yn eu rhoi "â rheolaeth dros ein tynged ein hunain".
Bydd Cyngor Wrecsam nawr yn gwneud y cais am gyllid i ailddatblygu'r stadiwm dan yr enw 'Porth Wrecsam'.
Mae'r cais yn cynnwys cymysgedd o gyllid cyhoeddus a phreifat er mwyn cyrraedd y nod.
Annheg i gefnogwyr y gogledd
Dywedodd Mickey Thomas, bod angen denu pobl ifanc a chwaraeon rhyngwladol yn ôl i'r gogledd ac mae angen yr arian er mwyn gwneud hynny.
"Mae'r cyllid yn hanfodol os am wireddu uchelgais gogledd Cymru o gael cyfleusterau yn y Cae Ras ar gyfer chwaraeon rhyngwladol," dywedodd.
"Ar hyn o bryd does dim cyfleusterau yn y gogledd sy'n gallu cynnal chwaraeon rhyngwladol [pêl-droed a rygbi] ac felly o reidrwydd mae'n rhaid chwarae'r gemau i gyd mewn ardal i'r de o'r M4 yng Nghymru.
"Oherwydd y diffyg cyfleusterau yma mae llawer o bobl ifanc a theuluoedd ar hyd a lled y Gogledd yn cael eu cau allan o'r digwyddiadau hyn i bob pwrpas oherwydd y gost a'r anhawster o gyrraedd Caerdydd ar ddiwrnod gêm, a go brin fod hynny'n deg."
Mae Wrecsam wedi cyrraedd rhestr fer Dinas Diwylliant y DU 2025 ac mae'r clwb pêl-droed yn rhan allweddol o boblogrwydd diweddar y dref.
Yn ôl cyn-chwaraewr Cymru, Malcolm Allen, dylai pêl-droed rhyngwladol "ddychwelyd i lle ddechreuodd" yn Wrecsam.
Dywedodd hefyd y byddai ailddatblygu'r stadiwm yn hwb i bobl ifanc ymuno mewn campau chwaraeon.
"Mae pawb yn gwybod am y manteision iechyd hirdymor sy'n gallu deillio o ysbrydoli pobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon, ac mae cael mynediad i gemau rhyngwladol yn gallu chwarae rhan bwysig o ran denu cyfranogiad," dywedodd.
"Mae angen i ni ddangos i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau pa mor bwysig ydi hyn i bobl Cymru, a dod â phêl-droed rhyngwladol yn ôl i'r lle y dechreuodd, yn Wrecsam."
Bydd yr ymgyrch yn rhedeg tan ganol Mehefin ac mae pobl ar draws Cymru yn cael eu hannog i lofnodi cofrestr gefnogaeth.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2022