3 pheth fyddai'n gwneud byw gydag awtistiaeth yn haws

  • Cyhoeddwyd
Nath TrevettFfynhonnell y llun, Nath Trevett
Disgrifiad o’r llun,

Nath Trevett

Er fod Nath Trevett wedi gweithio i godi ymwybyddiaeth am awtistiaeth ers blynyddoedd, mae'n credu fod dal lle i wella ymwybyddiaeth o'r cyflwr ymhellach.

Cafodd Nath ddiagnosis o awtistiaeth yn 16 oed ac mae'n dweud iddo fod yn "ddioddefwr troseddau casineb ar hyd ei oes" yn sgil hynny.

Yn fwyfyth mae'n methu goddef bod pobl eraill sy'n byw gydag awtistiaeth yn wynebu profiadau tebyg i'w rai poenus ei hun.

Dyma gyngor gan yr eiriolwr awtistiaeth o dde Cymru ar beth ddylai pobl ei ystyried wrth iddynt fyw ymhlith pobl awtistig a beth hoffai ei weld yn newid.

1. Addysgu plant a phobl am y cyflwr

Rhaid pwysleisio i ddechrau bod angen i bobl ar y sbectrwm deimlo'n gyfartal.

Rhaid i'r cyflwr gael ei drafod yn rheolaidd yn yr ysgol ac ar y cyfryngau. Yn ogystal ag addysgu'r gymuned eang, mae angen i blant gael eu haddysgu reit o'r cychwyn hefyd - mewn gwersi seicoleg neu iechyd meddwl o'r ysgol gynradd ymlaen.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

'Rhaid pwysleisio i ddechrau bod angen i bobl ar y sbectrwm deimlo'n gyfartal'

Mae angen gwella cefnogaeth i blant awtistig yn yr ysgol hefyd - maen nhw'n cael eu bwlian o hyd jyst am fod yn wahanol a dwi'n gwybod yn rhy dda beth mae fel i gael eich gwahaniaethu. Petai'r cyflwr ar y teledu mwy, efallai bydd yn rhoi mewnwelediad gwell i'r cyhoedd.

Peth arall dylid ystyried ydy'r cyflyrau eraill sy'n mynd efo awtistiaeth a fedrwch chi eu ffeindio ar wefan GIG, maent yn cynnwys: epilepsi, dyspracsia, PDA (Syndrom Osgoi Galw Patholegol), ADHD a SPD (Anhwylder Prosesu Synhwyraidd).

Hefyd, mae pobl ar y sbectrwm yn gallu dioddef o bryder cymdeithasol ac yn becso am beth fydd pobl yn meddwl amdanynt; dwi eisiau hynny i stopio. Dyna pam mae codi ymwybyddiaeth mor bwysig, mae gan blant a phobl sydd ag awtistiaeth yr hawl i deimlo'n gyfartal â phawb arall.

Beth yw awtistiaeth?

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Beth yw awtistiaeth?

Awtistiaeth yn aml yw'r enw llaw-fer a roddir i 'sbectrwm' eang o anhwylderau, sy'n cynnwys syndrom Asperger ac awtistiaeth uchel-weithredu (HFA). Mae awtistiaeth yn effeithio ar tua un o bob 100 person mewn ffyrdd gwahanol iawn. Gall rhai fyw bywydau cyffredin ac annibynnol, ffurfio perthynas a chael plant, tra bydd ar eraill angen cymorth arbenigol bob amser. Er hyn, bydd pob person sydd ag awtistiaeth yn cael rhywfaint o anhawster yn y tri maes isod:

•cyfathrebu cymdeithasol

•rhyngweithio cymdeithasol

•dychymyg cymdeithasol

2. Peidiwch gwneud rhagdybiaethau sydd ddim yn wir!

Mae hwn oll yn sail i stigma gan y gymdeithas. Mae pobl yn y gymdeithas yn gwneud gormod o ragdybiaethau ffug. Er enghraifft, maen nhw'n meddwl y bydd gan BOB person ar y sbectrwm ormod o obsesiynau pan mewn gwirionedd dyw dau berson (ar y sbectrwm ai peidio) ddim yr un peth.

Neu mae'r gymdeithas yn credu bod pobl ar y sbectrwm yn anfodlon derbyn newid ac yn analluog i addasu - dyw hyn ddim yn wir o gwbl, mae angen llawer mwy o amynedd fan hyn. Rhaid i chi jyst rhoi cwpl o fomentau i'r unigolyn awtistig addasu, a maen nhw YN medru addasu.

Mae pobl awtistig weithiau yn cael eu hannog i wisgo mwgwd anweladwy h.y. i dynnu wyneb hapus er enghraifft pan nad ydynt yn hapus o gwbl (os ydynt yn nerfus neu rhywbeth). Mae masgio yn medru rhoi straen arnynt ac mae'n bosib eu bod nhw ond yn ei wneud jyst i drio ffitio mewn i'r gymdeithas. Does neb yn ffitio yn y gymdeithas drwy bod yn rhywbeth nad ydyn nhw.

3. 'Mae angen i gyflogaeth gynyddu ar gyfer pobl awtistig'

Mae'r ffigwr o weithwyr awtistig wedi codi dros y blynyddoedd a bellach yn 22% ond eto dyw hi nunlle ger y pen - mwy na thebyg oherwydd does dim digon o ffws dros y cyflwr. Petai rhagor o ffws, dwi'n meddwl y byddai'r gymdeithas yn dechrau cymryd fwy fyth o ddiddordeb i'w ddeall ac felly'n cyflogi mwy o bobl.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

'Ond mi fydd yn decach fyth petai mwy o swyddfeydd a stiwdios yn cyflogi pobl ar y sbectrwm'

O bawb dwi'n eu hadnabod yn dda sydd ar y sbectrwm ac yn gweithio, mae llawer ohonynt yn gweithio i weithleoedd sy'n deall y cyflwr e.e. yr NAS (National Autistic Society). Eraill dwi'n 'nabod sy'n gweithio mewn siopau M&S, siopau adwerthu, ffatri bapur ac ati. Ond mi fydd yn decach fyth petai mwy o swyddfeydd a stiwdios yn cyflogi pobl ar y sbectrwm.

Mae'r gymdeithas hefyd yn meddwl o hyd fod pobl ar y sbectrwm heb y gallu i wneud swyddi arbennig jyst achos eu bod nhw'n awtistig sydd yn anwir ac yn annheg. Byddai'n dda gweld cwmnïau'n llogi gweithwyr cymorth i helpu unigolion awtistig yn y gweithle o bryd i'w gilydd.

Dwi'n gweithio fy ffordd drwy gyfres Coreaidd ar Netflix o'r enw Extraoardinary Attorney Woo, sydd am gyfreithiwr efo awtistiaeth. Hi ydy'r unig brif gymeriad (ac eithrio un o'i ffrindiau) efo awtistiaeth, ac mae'r gyfres ei hun yn gwneud imi ddymuno byw mewn cymdeithas fel sydd ynddi - lle mae pawb yn cael eu derbyn am bwy ydyn nhw.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig