Busnesau'n galw am 'gymorth brys' gyda biliau ynni
- Cyhoeddwyd
Mae busnesau Cymru wedi dweud bod angen "cymorth brys" arnyn nhw wrth i'r prif weinidog newydd gyhoeddi cynllun i fynd i'r afael â phrisiau ynni.
Cadarnhaodd Liz Truss ddydd Iau y bydd biliau ynni cartref arferol yn cael eu cyfyngu i £2,500 y flwyddyn o 1 Hydref am y ddwy flynedd nesaf.
Yn ôl perchennog becws o Ben-y-bont ar Ogwr, mae costau trydan y busnes wedi treblu yn ystod y misoedd diwethaf.
Dywedodd Ffederasiwn y Busnesau Bach fod llawer o fusnesau yn wynebu "cyfnod pryderus iawn" wrth i gytundebau ynni ddod i ben.
Fe wnaeth teuluoedd anwyliaid sydd angen cadw'u cartrefi'n gynnes neu gynnal offer meddygol oherwydd cyflyrau iechyd hefyd amlinellu rhesymau pam roedden nhw'n gobeithio am newyddion calonogol yn natganiad Ms Truss.
"Dwi'n meddwl bod angen iddyn nhw gamu i'r adwy heddiw, gorau po gyntaf," meddai Scott Magill, perchennog Whocult Coffee + Donuts ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Mae ei gostau ynni wedi treblu yn y misoedd diwethaf, yn union fel yr ehangodd y cwmni gyda siop newydd yn Y Barri.
"Dydw i ddim yn meddwl y bydd llawer o fusnesau yn gallu goroesi'r gaeaf hwn," meddai.
"Rydyn ni wedi tynhau [ein gwario] mewn sawl adran, ond mae cost cynhwysion wedi codi, mae cost y trydan wedi mynd i fyny, ac mae rhywbeth wedi gorfod rhoi. Mae angen help brys arnom."
Agorodd y busnes ychydig cyn y pandemig, ac aeth o siop fach i gaffi mwy a'i fecws ei hun. Mae Mr Magill hefyd yn rhedeg cwmni argraffu crysau-T ar yr un safle.
Er bod y busnes wedi bod yn llwyddiant ac yn ffynnu, mae cost gynyddol cynhwysion ac ynni yn golygu ei bod hi'n anodd gwneud elw.
"Dim ond yn ddiweddar rydym wedi sylwi ar y cynnydd yng nghost ynni, byddwn yn dweud yn ystod y tri i bum mis diwethaf," meddai.
"Mae hynny'n arbennig ers cael y becws - dim ond un oed yw'r becws yma."
Yn ôl Mr Magill mae ei gostau trydan wedi treblu i bron £3,000 y mis, gyda fawr ddim y gallai ei wneud i leihau'r defnydd o ynni.
"Yn anffodus cost y trydan sy'n codi. Ar wahân i ddiffodd ambell i blwg, does dim llawer mwy y gallwn ei wneud," meddai.
"Mae angen i lawer o offer aros ymlaen drwy'r dydd, bob dydd, yn anffodus."
Perygl o fynd i'r wal
Dywedodd Red Flag Alert, sy'n monitro iechyd ariannol cwmnïau, fod degau o filoedd o fusnesau mewn perygl o fynd i'r wal oherwydd costau cynyddol.
Dywedodd pennaeth Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru fod nifer o fusnesau'n pryderu wrth i'w cytundebau ynni presennol ddod i ben.
"Mae'r prif weinidog wedi nodi ei chynllun i dyfu mentergarwch, fel blaenoriaeth yn syth," meddai Ben Cottam.
"I wireddu hyn, gobeithiwn weld cyhoeddiad am becyn o fesurau i gefnogi busnesau bach, er mwyn eu caniatáu i gynllunio'n iawn ar gyfer y dyfodol.
"Rydym yn falch bod y prif weinidog yn cydnabod maint y materion sy'n wynebu busnesau bach. Rhaid peidio â thanbrisio graddfa, difrifoldeb a'r brys sydd ei angen i fynd i'r afael â'r sefyllfa."
Roedd teuluoedd ac unigolion hefyd yn aros yn eiddgar ddydd Iau i glywed manylion cynlluniau Ms Truss, gan gynnwys Bridget Harpwood o Lanilar yng Ngheredigion.
Mae cadw'r cartref yn glyd yn bwysig beth bynnag pan fo pump o blant ar yr aelwyd, ond yn hanfodol yn achos ei merch, Elain.
Mae ganddi gyflwr difrifol ar ei chalon, sy'n golygu bod rheoli tymheredd ei chorff ym misoedd oer y gaeaf yn fwy cymhleth na "just gwisgo mwy o ddillad a phetha' fel'na".
Dywed Bridget eu bod yn "eitha' lwcus" bod Elain erbyn hyn "yn ddigon sefydlog" fel nad oes angen defnyddio'r offer trydanol fu'n helpu i'w chynnal pan roedd yn ifanc iawn.
"Mae lot o deuluoedd efo plant efo anghenion dwys, yn gorfod defnyddio pympia' bwyd, peirianna' anadlu... mae'n bryder mawr iddyn nhw orfod meddwl am y costa' ma'n cynyddu," meddai.
Mae bil trydan yr aelwyd eisoes wedi codi £100 y mis ers mis Ebrill, ac "os 'dan ni isio fficsio'r rate bydde fe yn £200 ecstra" y mis, medd Bridget.
"Dwi'n meddwl mae'n rhaid i'r llywodraeth roi caps ar y costa' ma' neu mae just yn mynd i gadw 'mlaen i fynd i fyny."
'Y prif bwnc trafod yng Nghricieth'
Pryder ynghylch yr hyn sydd i ddod dros fisoedd y gaeaf yw'r "prif bwnc trafod" yng Nghriccieth, yn ôl Angela Jones, sy'n aelod o gyngor cymuned y dref ac yn rhybuddio bod yna "risg fawr" o dlodi tanwydd oni bai am fesurau cymorth gan y llywodraeth.
Ar lefel bersonol, mae hi'n wynebu biliau uchel oherwydd mae'r cyn eiddo gwely a brecwast y mae hi newydd ei brynu er mwyn byw ynddo fel unigolyn yn dal yn cael ei drethu fel busnes "oherwydd dydi'r cwmnïa' ynni ddim yn gallu cym'yd cwsmeriaid newydd ar hyn o bryd".
"Dwi'n falch o weld bod ella help yn dod - ma' hwnna'n grêt," meddai ar raglen Dros Frecwast fore Iau.
"Ond 'swn i'n hoffi gweld mwy o help i deuluoedd - er enghraifft... lledaenu talu bilia' dros fwy o amser. Rhywbeth fel'na sy'n mynd i helpu pobol o ddydd i ddydd."
'Pris i'w dalu' yn y dyfodol am unrhyw gymorth nawr
"Dwi yn bryderus dros y gaea'", medd John Allport - perchennog gorsaf betrol yng Nghricieth a phum siop sglodion.
Roedd misoedd yr haf yn ddigon heriol, meddai, yn sgil prisiau cynyddol a thrafferthion recriwtio, ac mae wedi bod yn amhosib osgoi pasio rhywfaint o'r gost i gwsmeriaid.
"Rhaid i ni gael rhyw fath o gefnogaeth dros y gaea' ma'. Drwg ydi, ma' 'na bris i dalu, yn does, achos ni yn y diwedd fydd yn talu amdano fo yn y dyfodol - a'n plant ni, mae'n beryg.
"Ar ôl Covid, a wedyn hyn a'r rhyfel, mae o just yn storm berffaith, sy'n cicio'r bêl lawr y stryd cyn belled â ma'n codi treth yn y dyfodol."
Mae Nigel Jones wedi llwyddo hyd yn hyn i osgoi codi prisiau i'w gwsmeriaid ym mwyty a gwesty Tir a Môr, er effaith hynny ar yr elw posib.
"Os 'di petha'n gwaethygu, wrth gwrs, bydd y prisia'n goro codi, fel ym mhobman arall," meddai.
"Gobeithio ddim ond ma' hwnna'n rwbath 'dan ni'n meddwl amdan yn reit ddifrifol.
"Ma' Cricieth yn lle prydferth so ma' pawb yn dal i ddod ond ma' nhw'n gwario llai."
'Swn i'n gobeithio bod Liz Truss heddiw ma' yn canolbwyntio ar gwmnïa' mawr sy'n neud y profits, fel Shell," ychwanegodd, er modd annhebygol roedd hynny, gan fod y prif weinidog wedi datgan yn glir nad yw'n ffafrio gosod treth ar elw'r cwmnïau ynni.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Medi 2022
- Cyhoeddwyd3 Medi 2022
- Cyhoeddwyd2 Medi 2022
- Cyhoeddwyd31 Awst 2022
- Cyhoeddwyd27 Awst 2022